Julie Lennard wedi ei phenodi yn Brif Weithredwr dros dro'r DVLA
Mae Julie Lennard wedi cael ei phenodi yn Brif Weithredwr dros dro'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).

Mae Julie wedi bod yn gyfarwyddwr Strategaeth, Polisi a Chyfathrebu’r DVLA ers Awst 2014. Cyn hynny, roedd Julie’n gweithio i’r Archifau Gwladol lle bu’n gyfrifol am ddatblygu perthnasau polisi strategol gyda rhanddeiliad uwch ac yn goruwchwilio materion Seneddol a deddfwriaethol.
Mae Julie hefyd wedi gweithio i Which?, y sefydliad defnyddiwr mwyaf yn Ewrop, mewn amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys fel newyddiadurwr a chynrychioli’r sefydliad ymgyrchu i lywodraethu adrannau, asiantaethau a rhanddeiliaid eraill ar lefel cenedlaethol a rhyngwladol.
Dywedodd Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Drafnidiaeth Bernadette Kelly:
Mae Julie yn arweinydd profiadol ac yn uchel ei pharch yn y llywodraeth a’r sector breifat gyda record o lwyddo wrth gyflawni canlyniadau. Rwyf yn sicr y bydd profiad a gwybodaeth Julie o’r DVLA a’i chwsmeriaid yn amhrisiadwy wrth i DVLA barhau yn ei thaith tuag at ddod yn hwb ar gyfer moduro digidol.
Dywedodd Brif Weithredwr dros dro’r DVLA Julie Lennard:
Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at arwain y tîm yma yn Abertawe ar adeg pan fod yr asiantaeth yn cymryd camau mawr mewn gwasanaethau digidol arloesol i fodurwyr.
Nodiadau i’r golygyddion
Bydd Julie yn dechrau yn ei swydd fel Prif Weithredwr dros dro’r DVLA ar 19 Mawrth. Bydd y gystadleuaeth allanol ar gyfer y swydd barhaol o Brif Weithredwr y DVLA yn cael ei lansio’n fuan.
Mae DVLA yn asiantaeth weithredol yr Adran Drafnidiaeth. Mae’n gyfrifol am gynnal dros 48 miliwn o gofnodion gyrwyr a bron dros 40 miliwn o gofnodion cerbydau. Mae’n casglu tua £6 biliwn y flwyddyn mewn treth cerbyd. Mae’r asiantaeth yn cyflogi dros 5,000 o bobl ac wedi ei lleoli yn Abertawe.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407