Datganiad i'r wasg

Buddsoddiad o hyd at £6m mewn technoleg rhestru newydd er budd defnyddwyr llysoedd

Bydd buddsoddiad o hyd at £6m mewn meddalwedd newydd yn rhoi darlun gwell o gapasiti ar draws yr ystâd, gan olygu bod achosion yn fwy tebygol o gael eu clywed mewn pryd.

Hands typing on a laptop
  • Bydd meddalwedd newydd, sy’n werth miliynau o bunnoedd, yn dod â gweithgaredd amserlennu a rhestru mewn un offeryn
  • Bydd defnyddwyr y llysoedd a’r tribiwnlysoedd ar eu mantais o gael llai o oedi a system sy’n fwy dibynadwy
  • Mae’r datblygiad hwn yn garreg filltir bwysig o fewn rhaglen ddiwygio GLlTEM

Ar hyn o bryd mae’r gwaith o amserlennu a rhestru yn cael ei reoli trwy ddefnyddio amrywiaeth o systemau o ffeiliau papur i dechnoleg sy’n seiliedig ar ddyddiaduron o fewn Outlook.

Bydd y meddalwedd newydd yn gwella ansawdd y gwasanaeth a gynigir i’r cyhoedd ac ymarferwyr cyfreithiol proffesiynol. Bydd yn gymorth i wneud gwell defnydd o’r gofod ar gyfer gwrandawiadau; lleihau tasgau gweinyddol fel bod staff gyda sgiliau uchel yn gallu canolbwyntio ar yr elfennau mwyaf cymhleth o reoli gwrandawiadau; a rhoi mwy o hyder y bydd gwrandawiadau yn cymryd lle ar yr amser y cawsant eu hamserlennu.

Dywedodd Chris Philp AS, Gweinidog y Llysoedd:

Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen tuag at gyfarfod ein nod o symud y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd i’r 21ain Ganrif.

Gall restru gymryd lot fawr o amser ein staff sy’n gweithio’n galed a bydd y buddsoddiad hwn yn ganolbwyntio ganolbwyntio ar waith pwysig yn helpu holl ddefnyddwyr y llysoedd a’r tribiwnlys

Mae’r contract hwn yn rhan o gyfres o gamau y mae GLlTEM yn eu cymryd i foderneiddio a gwella profiadau pawb sy’n defnyddio ein llysoedd a’n tribiwnlysoedd.

Ymhlith y camau eraill i foderneiddio’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd mae:

  • System newydd yn y llys sy’n cofnodi canlyniad achosion yn ddigidol ac yn syth
  • Peilot o system ddigidol newydd sy’n darparu gwybodaeth achos a rennir mewn achosion troseddol i’r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, llysoedd a chyfreithwyr
  • Gwasanaethau ar-lein sy’n ymwneud ag Ysgariad, Profiant, Hawliadau Arian Sifil ac Apeliadau Nawdd Cymdeithasol sydd wedi’u defnyddio gan fwy na 300,000 o bobl gyda chyfraddau boddhad defnyddwyr dros 80%

Cafodd McGirr Technologies ei benodi i gyflwyno’r newidiadau yn dilyn proses gystadleuol. Yn y lle cyntaf caiff ei weithredu mewn rhai llysoedd penodol yn unig, gyda’r bwriad o’i gyflwyno wedyn ym mhob llys a thribiwnlys.

Byddwn yn dechrau profi a gosod mewn nifer fach o lysoedd dros y 9 mis nesaf, ac ar ôl hynny byddwn yn nodi cynlluniau i gyflwyno’r dechnoleg yn genedlaethol.

Dywedodd Peter Nanayakara, Prif Weithredwr McGirr:

Rydym wrth ein bodd o fod wedi cael y cytundeb hwn ac o fod yn gweithio gyda GLlTEM wrth iddo gyflawni ei gynlluniau Diwygio.

Bydd y cytundeb hwn yn galluogi GLlTEM i foderneiddio’r ffordd y mae’n gweinyddu achosion ac rydym yn edrych ymlaen at gyd-weithio i wella’r profiad i holl ddefnyddwyr y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr.

Nodyn i olygyddion:

  • Mae amserlennu a rhestru yn swyddogaeth farnwrol, sy’n galluogi i achosion gael eu clywed mewn llysoedd a thribiwnlysoedd.
  • Fe’i gweinyddir gan HMCTS gan ystyried anghenion aelodau’r cyhoedd yn ofalus, argaeledd barnwrol ac adnoddau.
  • Gwneir penderfyniadau ar sut a phryd y rhestrir gwrandawiadau gan farnwr.
  • Mae’r contract hwn yn rhan o raglen ddiwygio HMCTS gwerth £1bn, a fydd yn cynyddu mynediad at gyfiawnder trwy gyflwyno technoleg yr 21ain ganrif, gwasanaethau ar-lein a gweithio digidol i’r system llysoedd a thribiwnlysoedd.
  • Mae’r contract i ddechrau am £3.2m dros ddwy flynedd gyda’r opsiwn i ymestyn am ddwy flynedd arall, gan ddod â’r cyfanswm i fyny £6m
Cyhoeddwyd ar 4 June 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 June 2020 + show all updates
  1. Added translation

  2. Added translation