Datganiad i'r wasg

Dim Trais Dim Mwy – Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

I ddathlu pen-blwydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 102, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn cyfarfod a staff o Gymorth…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

I ddathlu pen-blwydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn 102, bydd Gweinidog Swyddfa Cymru, y Farwnes Jenny Randerson, yn cyfarfod a staff o Gymorth i Fenywod Casnewydd, i ddysgu mwy am eu gwaith o rymuso menywod yn y gymuned ac atal trais domestig.

Mae Cymorth i Fenywod Casnewydd yn elusen a sefydlwyd i annog menywod i wneud penderfyniadau am eu dyfodol eu hunain, drwy roi lloches a chefnogaeth emosiynol i’r rheini sy’n dioddef camdriniaeth gorfforol, meddyliol, rhywiol neu ariannol neu’n byw mewn ofn o hynny. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth ol-ofal a gweithwyr maes i gefnogi menywod yn y gymuned ac addysgu pobl ifanc er mwyn atal y cylch cam-drin.

Dywedodd y Farwnes Randerson:

“Ni ellir goddef cam-drin domestig ar unrhyw lefel; dylai fod gan bob menyw yr hawl i fyw heb ofn neu fygythiad o gam-drin. Mae gwasanaethau Cymorth i Fenywod Casnewydd yn darparu cefnogaeth amhrisiadwy, yn helpu gyda sefyllfa anffodus ac anghyfartal rhai menywod yn ein cymdeithas.

“Mae’r holl staff a’r gwirfoddolwyr yn wirioneddol ysbrydoledig, yn gweithio’n galed iawn i ofalu am fenywod a phlant a’u grymuso i fyw’n annibynnol, gan roi dewisiadau iddyn nhw i’w helpu i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain.”

Dywedodd Louise Clark, Arweinydd Tim Cymorth i Fenywod Casnewydd:

“Dylai fod gan fenywod yr hawl a’r cyfle i ddechrau eto yn eu bywyd, a dylen nhw gael yr wybodaeth i’w helpu i reoli a llunio eu dyfodol eu hunain.

“Rydyn ni’n credu’n gryf iawn y dylai pob menyw mewn cymdeithas fod yn gyfartal, a bod pob un yn haeddu byw bywyd o safon. Mae ein gwaith ni’n rhoi llety dros dro, gwybodaeth a chefnogaeth i fenywod a phlant sy’n dioddef o gam-drin domestig.

“Yn ogystal a chefnogi menywod yn uniongyrchol, mae ein gwaith yn cynnwys codi ymwybyddiaeth ac annog trafodaeth briodol ynghylch materion cam-drin domestig ymhlith y cyhoedd, y cyfryngau a sefydliadau eraill perthnasol.”

Cyhoeddwyd ar 8 March 2013