Strategaeth Ddiwydiannol i hybu twf a swyddi yng Nghymru
Bydd Strategaeth Ddiwydiannol Fodern yn gwneud y DU y wlad orau i fuddsoddi ynddi a datblygu busnes a chefnogi degau o filoedd o swyddi newydd yng Nghymru.

The UK's Modern Industrial Strategy
- Costau trydan i filoedd o fusnesau i gael eu gostwng hyd at 25%.
- Llywodraeth y DU i sefydlu canolfan ar gyfer hyfforddiant doethurol mewn lled-ddargludyddion, o dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
- Busnesau yng Nghymru i gael budd o gyllid arloesi, mynediad i gyllid, cysylltiadau grid cyflymach a safleoedd gydag offer gwell i ehangu.
Mae Cymru yn barod ar gyfer twf economaidd cynyddol, biliynau mewn buddsoddiad a degau o filoedd o swyddi newydd a gefnogir dros y ddegawd nesaf o ganlyniad i Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU, a gyhoeddir heddiw (dydd Llun, 23 Mehefin).
Mae’r Strategaeth yn cynnwys mesurau i greu perthynas newydd rhwng busnes a llywodraeth, gan wneud Cymru a’r DU y lle gorau i ddechrau a thyfu busnes.
Bydd yn datgloi twf ar draws Cymru, targedu meysydd cryfder o gryfderau’r wlad mewn awyrofod yng Ngogledd Cymru i glwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd cyntaf y byd yn Ne Cymru.
Bydd mwy na 7,000 o fusnesau yn y DU yn gweld eu biliau trydan yn gostwng hyd at 25%. Mae gwneuthurwyr Prydeinig yn talu rhai o’r prisiau trydan uchaf yn y byd datblygedig – mewn rhai achosion, dwbl y cyfartaledd Ewropeaidd, tra bod busnesau sy’n ystyried ehangu neu foderneiddio wedi wynebu oedi pan ddaw i gysylltu â’r grid.
Mae’r heriau hyn wedi atal twf ers amser maith a’i gwneud yn anoddach i gwmnïau gystadlu’n fyd-eang. Mae’r cyhoeddiad heddiw yn nodi newid pendant – gyda’r llywodraeth yn camu i mewn i gefnogi diwydiant a datgloi potensial economaidd y DU.
O 2027, bydd y Cynllun Cystadleurwydd Diwydiannol Prydeinig newydd yn lleihau costau trydan hyd at £40 fesul megawat yr awr i dros 7,000 o fusnesau sy’n defnyddio llawer o drydan mewn sectorau gweithgynhyrchu fel cerbydau, awyrofod a chemegion.
Bydd y cwmnïau hyn, sy’n cefnogi dros 300,000 o swyddi crefftus ar draws y DU wedi eu heithrio rhag talu ardollau fel y Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy, Tariff Cyflenwi Trydan a’r Farchnad Capasiti – gan helpu i sicrhau tegwch a chyfartaledd a’u gwneud yn fwy cystadleuol yn rhyngwladol. Penderfynir ar gymhwysedd a manylion pellach ar yr eithriadau yn dilyn ymgynghoriad, fydd yn cael ei lansio’n fuan.
Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynyddu cefnogaeth i’r cwmnïau sy’n defnyddio ynni fwyaf – fel dur, cemegion a gwydr- drwy gynnwys mwy o ffioedd y rhwydwaith trydan sy’n rhaid iddynt eu talu fel arfer drwy’r British Industry Supercharger. Mae’r busnesau hyn yn cael 60% o ostyngiad ar y ffioedd hynny ar hyn o bryd, ond o 2026, bydd hynny’n cynyddu i 90%. Mae hyn yn golygu y bydd eu biliau trydan yn gostwng, gan eu helpu i barhau’n gystadleuol, gwarchod swyddi a buddsoddi yn y dyfodol.
Mae’r diwygiadau hyn yn ategu bwriad hirdymor y llywodraeth ar gyfer pŵer glân, sef yr unig ffordd i ostwng biliau am byth drwy ddiweddu dibyniaeth y DU ar farchnadoedd tanwydd ffosil anwadal.
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn gynllun 10 mlynedd i hybu buddsoddiad a thwf busnes, gan ei wneud yn gynt, yn haws ac yn rhatach i gynnal busnes yn y DU, gan roi hyder i fusnesau fuddsoddi a chreu 1.1 miliwn o swyddi da, a chyflog da mewn diwydiannau sy’n ffynnu – cyflawni Cynllun ar gyfer Newid y llywodraeth hon.
Mae Cymru eisoes yn cyflawni mwy mewn nifer o’r sectorau sbarduno twf a nodwyd yn y Strategaeth Ddiwydiannol.
Mae’r mesurau allweddol i Gymru yn cynnwys:
-
Mwy na £4 biliwn ar gyfer y sector uwch-weithgynhyrchu yn y DU dros y 5 mlynedd nesaf. Mae gan Gymru sector uwch-weithgynhyrchu arweiniol gyda chwmnïau fel Airbus a leolir ym Mrychdyn yng Ngogledd Cymru.
-
Llywodraeth y DU i sefydlu canolfan ar gyfer hyfforddiant doethurol mewn lled-ddargludyddion, o dan arweiniad Prifysgol Abertawe, gan adeiladu ar y clwstwr sy’n arwain y byd a leolir yn ne Cymru.
-
Clwstwr y Fargen Dwf Amddiffyn i adeiladu ar gryfderau mwyaf Cymru. Mae gan bump cyflenwr mwyaf y Weinyddiaeth Amddiffyn i gyd ôl-troed yng Nghymru.
-
Cefnogwr Banc Busnes Prydeinig newydd ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i gysylltu buddsoddwyr gyda busnesau a sbarduno twf.
-
£30 miliwn ar gyfer Cronfa Partneriaethau Arloesi Lleol yng Nghymru i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac Innovate UK i ddatblygu arloesedd.
-
Y Gronfa Gyfoeth Wladol yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i nodi a sicrhau cyllid ar gyfer prosiectau buddsoddi yng Nghymru.
-
Cefnogaeth ar gyfer clystyrau a dinas-ranbarthau y DU drwy gynyddu’r cyflenwad o safleoedd buddsoddiadwy drwy Gyflymydd Safleoedd Strategol £600 miliwn newydd, mwy o gefnogaeth ranbarthol gan y Swyddfa Fuddsoddi, Cronfa Gyfoeth Wladol, Banc Busnes Prydain a mwy.
-
Cefnogaeth gryfach gan y Swyddfa Fuddsoddi i helpu i nodi, datblygu a chyflawni cyfleoedd buddsoddi strategol ar draws y DU.
Dywedodd Prif Weinidog y DU, Keir Starmer:
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol hon yn nodi trobwynt i economi Prydain a gwahanu’n llwyr o’r byr dymor a delio gyda phroblemau’r gorffennol.
Mewn oes o ansefydlogrwydd economaidd byd-eang, mae’n cyflawni’r sicrwydd hirdymor a chyfeiriad mae busnesau Prydain ei angen i fuddsoddi, arloesi a chreu swyddi da sy’n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl fel rhan o’r cynllun ar gyfer newid.
Dyma sut rydym yn gyrru dyfodol Prydain – drwy gefnogi’r sectorau ble rydym yn arwain, dileu’r rhwystrau sy’n ein dal yn ôl a gosod llwybr clir i ddatblygu economi gryfach sy’n gweithio ar gyfer pobl sy’n gweithio. Mae ein neges yn glir – mae Prydain yn ôl ac yn barod ar gyfer busnes.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens:
Mae gan Gymru botensial anferth a bydd Strategaeth Ddiwydiannol ein llywodraeth yn harneisio ac yn cryfhau ein busnesau a gweithlu i sbarduno twf a chreu swyddi.
Bydd y strategaeth yn cefnogi sectorau allweddol fel awyrofod a lled-ddargludyddion cyfansawdd tra’n datblygu diwydiannau’r dyfodol fel ynni gwynt ar y môr arnofiol gyda Chymru mewn safle da i fod yn arweinydd y byd.
Mae ein Strategaeth Ddiwydiannol fodern wedi’i datblygu i bara a gwneud Cymru yn un o’r llefydd gorau i fuddsoddi a gwneud busnes. Drwy weithio ochr yn ochr gyda Llywodraeth Cymru byddwn yn sbarduno twf, codi cyflogau a chreu cyfoeth ar draws ein gwlad.”
Dywedodd yr Ysgrifennydd Busnes a Masnach Jonathan Reynolds:
Rydym wedi dweud o’r diwrnod cyntaf bod Prydain yn ôl mewn busnes o dan y llywodraeth hon, ac mae’r £100 biliwn o fuddsoddiad a sicrhawyd gennym yn y flwyddyn ddiwethaf yn dangos bod ein Cynllun ar gyfer Newid eisoes yn darparu ar gyfer bobl sy’n gweithio.
Bydd ein Strategaeth Ddiwydiannol Fodern yn sicrhau mai’r DU yw’r wlad orau i fuddsoddi a gwneud busnes, cyflawni twf economaidd sy’n rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl ac yn talu am ein GIG, ysgolion a gwasanaethau milwrol.
Nid yn unig mae’r Strategaeth hon yn blaenoriaethu buddsoddiad i ddenu biliynau ar gyfer safleoedd busnes newydd, ymchwil ar flaen y gad a chysylltiadau trafnidiaeth gwell, bydd hefyd yn gwneud ein prisiau ynni diwydiannol yn fwy cystadleuol yn fyd-eang.
Mae mynd i’r afael â chostau ynni a datrys sgiliau wedi bod yn ofyn mawr gennym gan fusnesau a’r her fwyaf maent wedi’i hwynebu – mae’r llywodraeth hon wedi gwrando ac nawr rydym yn cymryd y camau cadarn sydd eu angen. Llywodraeth a busnes yn gweithio law yn llaw i wneud pobl sy’n gweithio yn well allan yw’r hyn wnaeth y Llywodraeth hon ei addo a’r hyn y byddwn yn ei gyflawni.”
Dywedodd Sarah Williams-Gardner, Cadeirydd Fintech Cymru:
Rydym yn falch iawn o weld gwasanaethau ariannol yn cael eu cydnabod fel sector allweddol yn y Strategaeth Ddiwydiannol hon. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r Llywodraeth i helpu i ddatgloi potensial llawn y sector.
Mae’r pwyslais ar Ddeallusrwydd Artiffisial a’r pŵer cyfrifiadurol sydd ei angen i gefnogi ei ddatblygiad i’w groesawu’n fawr, wrth i ni ddechrau gweld DA cynhyrchiol yn gyrru arloesedd ar draws gwasanaethau ariannol – grymuso darparwyr a chwsmeriaid drwy’r genhedlaeth nesaf o blatfformau bancio digidol.
Dywedodd Frank Holmes, Partner Sefydlol Gambit Corporate Finance a Chadeirydd Bwrdd Buddsoddi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
Mae cyhoeddiadau heddiw yn nodi symud amserol a phwysig tuag at agwedd strategol, cysylltiol i dwf economaidd. Mae’r ffocws gwell ar strategaeth ddiwydiannol a chyllid BBaChau yn cyfeirio’n uniongyrchol at y cyfleoedd rydym yn eu datgloi ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Rydym wedi cefnogi busnesau arloesol a sy’n gallu ehangu’n gyflym fel Whisper TV, gan arddangos sut y gall cyllid rhanbarthol wedi’i deilwra yrru darpariaeth swyddi, arloesi a chysylltu’n fyd-eang.
Mae ymrwymiad y DU i ehangu mynediad BBaCh i gyllid yn alinio’n berffaith gyda’r ecosystem yr ydym yn ei ddatblygu yn CCR fel partner cyflawni llawn profiad a model ar gyfer datblygiad economaidd rhanbarthol.
Dywedodd Louise Harris, Prif Swyddog Gweithredol Tramshed Tech yng Nghaerdydd:
Mae lansio Strategaeth Ddiwydiannol y DU yn foment hanfodol i’n hecosystem technoleg ac arloesi. Drwy alinio cryfderau lleol gydag uchelgais cenedlaethol, mae’r strategaeth hon yn darparu platfform dylanwadol i fusnesau Cymru dyfu, denu buddsoddiad ac arwain mewn sectorau sy’n dod i’r amlwg fel technoleg, uwch-weithgynhyrchu a diwydiannau creadigol.
Mae’r strategaeth hon yn cydnabod nad yw arloesi yn ymwneud â thechnoleg ar wahân yn unig – mae’n ymwneud â chreu swyddi cynaliadwy, o ansawdd uchel tra’n mynd i’r afael â heriau byd gwirioneddol. Bydd yr agwedd hon yn creu’r amgylchedd perffaith i egin fusnesau a chwmnïau sy’n tyfu i ffynnu, gan wybod bod ganddynt yr isadeiledd, y sgiliau a’r gefnogaeth strategol i fynd ag arloesedd o Gymru i’r byd.”
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn gynllun 10 mlynedd i hybu buddsoddiad a thwf busnes a’i wneud yn gynt, yn haws ac yn rhatach i wneud busnes yn y DU, gan roi hyder i fusnesau fuddsoddi a chreu swyddi da, gyda chyflog da mewn diwydiannau sy’n ffynnu – cyflawni Cynllun ar gyfer Newid y llywodraeth hon.
Mae buddsoddiad gan gwmnïau preifat yn hanfodol i greu swyddi newydd, hybu twf economaidd a sicrhau gwasanaethau cyhoeddus. Dyna pam y bydd y Strategaeth hefyd yn cyflwyno mesurau i’w wneud yn gynt, yn haws ac yn fwy proffidiol i fusnesau fuddsoddi yn y DU, gyda’r nod o gynyddu buddsoddiad busnes yn sylweddol ac mewn sectorau twf allweddol erbyn 2035 a helpu i greu 1.1 miliwn o swyddi gyda chyflogau da ar draws pob rhan o’r DU.
Bydd yn gwireddu potensial economaidd Cymru ac yn codi safonau byw a chyflogau i lefel y mae pobl Cymru yn ei haeddu.
Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn mynd i’r afael â phrif rwystrau ar gyfer twf, gan ei wneud yn haws ac yn gyflymach i wneud busnes a buddsoddi yng Nghymru.
Mae cynllun gweithredu amlwg y Strategaeth yn cynnwys:
-
Torri costau trydan 20-25% i sefyllfa deg ar gyfer y diwydiannau sy’n llyncu ynni fel cemegion a sectorau twf allweddol fel y diwydiant ceir.
- Datgloi biliynau o gyllid ar gyfer busnesau arloesol, yn arbennig ar gyfer BBaCh drwy gynyddu capasiti Banc Busnes Prydain i £25.6 biliwn, gan ymgynnull mewn degau o biliynau o bunnoedd yn fwy mewn cyfalaf preifat.
-
Lleihau baich rheoleiddio drwy dorri costau gweinyddu rheoleiddio ar gyfer busnes 25% a lleihau’r nifer o reoleiddwyr.
-
Hybu gwariant Ymchwil a Datblygu i £22.6 biliwn y flwyddyn erbyn 2029-30 i sbarduno arloesedd ar draws yr IS-8, gyda mwy na £2 biliwn ar gyfer DA dros yr Adolygiad Gwariant, a £2.8 biliwn ar gyfer uwch-weithgynhyrchu dros y deng mlynedd nesaf. Bydd hyn yn dylanwadu biliynau mwy gan fuddsoddwyr preifat. Bydd newidiadau rheoleiddio yn dileu rhwystrau ymhellach ar gyfer diwydiannau sy’n tyfu’n gyflym a chynnyrch arloesol fel biotechnoleg, DA a cherbydau awtonomaidd.
-
Denu talent byd-eang i’n sectorau allweddol, drwy ddiwygio fisa a mewnfudo a Thasglu Talent Byd-eang newydd.
- Chwyldroi caffael cyhoeddus a lleihau rhwystrau ar gyfer cyflogeion newydd a BBaCh i gryfhau cystadleurwydd domestig.
Mae pump cynllun sector hefyd wedi eu cyhoeddi heddiw:
-
Uwch Weithgynhyrchu – Cefnogi ein sector Uwch Weithgynhyrchu gyda hyd at £4.3 biliwn o gyllid, gan gynnwys hyd at £2.8 biliwn mewn Ymchwil a Datblygu dros y pum mlynedd nesaf, gyda’r nod o angori cadwyni cyflenwi yn y DU – o gynyddu cynhyrchu cerbydau i 1.35 miliwn, i arwain y genhedlaeth nesaf o dechnolegau ar gyfer hediadau allyriadau di-garbon.
-
Diwydiannau Ynni Glân – Dyblu buddsoddiad mewn Diwydiannau Ynni Glân erbyn 2035, gyda Great British Energy yn helpu i ddatblygu’r chwyldro pŵer glân ym Mhrydain gyda £700 miliwn pellach mewn cadwyni cyflenwi ynni glân, gan ddod â chyfanswm cyllid ar gyfer cronfa Cadwyn Gyflenwi Great British Energy i £1 biliwn.
-
Diwydiannau Creadigol – Bydd cynyddu gwerth ein Diwydiannau Creadigol drwy hwb o £380 miliwn ar gyfer ffilm a theledu, gemau fideo, hysbysebu a marchnata, cerddoriaeth a’r celfyddydau gweledol a pherfformio yn gwella mynediad i gyllid ar gyfer cwmnïau sydd wrthi’n tyfu a chynyddu Ymchwil a Datblygu, sgiliau ac allforion.
-
Digidol a Thechnolegau – Gwneud y DU yn arweinydd Ewropeaidd ar gyfer creu a graddio busnesau Digidol a Thechnoleg, gyda mwy na £2 biliwn i sbarduno’r Cynllun Gweithredu DA, gan gynnwys Rhaglen DA Sofran newydd a thargedu buddsoddiad Ymchwil a Datblygu mewn technolegau trawsffiniol fel diogelwch seiber yng Ngogledd Iwerddon, lled-ddargludyddion yng Nghymru a thechnolegau cwantwm yn yr Alban.
-
Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes – Sicrhau bod ein Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes yn dod yn gynghorydd mwyaf dibynadwy’r byd ar gyfer diwydiant byd-eang, chwyldroi’r sector ar draws y byd drwy fabwysiadu DA a ddatblygwyd yn y DU a gweithio i sicrhau cydnabyddiaeth ar y cyd o gytundebau cymwysterau proffesiynol dramor.