Strategaeth Ddiwydiannol i sbarduno economi Cymru i weithredu ar ei gorau
Gweinidogion yn ymweld â safleoedd ledled Cymru i amlinellu sut y bydd y Strategaeth Ddiwydiannol yn dod â budd i'r genedl.

Heddiw, bydd Gweinidogion Llywodraeth y DU yng Nghymru yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn y Strategaeth Ddiwydiannol drwy ymweld â busnesau yn Ne, Gogledd a Chanolbarth Cymru (27 Tachwedd).
-
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymweld â Champws Grŵp Airbus yng Nghasnewydd sy’n gartref i bersonél ymchwil a pheirianneg medrus iawn sy’n darparu Atebion Cyfathrebu Hynod Ddiogel i bortffolio Seiberddiogelwch sydd gyda’r gorau yn y byd.
-
Bydd Guto Bebb yn ymweld â Brenig Construction ym Mae Colwyn sy’n darparu gwasanaethau rheoli prosiectau ac adeiladu ar gyfer contractau peirianneg sifil ac adeiladu ar hyd a lled Gogledd Cymru a thu hwnt.
-
Bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth – canolfan addysg sy’n arddangos atebion ymarferol i gynaliadwyedd a phob agwedd ar fyw yn wyrdd.
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn nodi sut mae Llywodraeth y DU yn adeiladu Prydain a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol – sut y bydd yn helpu busnesau i greu swyddi gwell sy’n talu’n well ledled y wlad drwy fuddsoddi mewn sgiliau, diwydiannau a seilwaith ar gyfer y dyfodol.
Bydd Gweinidogion yn ymweld â busnesau ym mhob rhan o Gymru i amlinellu sut y gall sectorau academaidd a busnes a chymdeithas ddinesig elwa o strategaeth a fydd yn canolbwyntio ar gryfderau’r genedl.
Bydd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn lansio Papur Gwyn y Strategaeth Ddiwydiannol yng Nghymru yng Nghampws Airbus yng Nghasnewydd.
Yno, bydd yn gallu gweld drosto’i hun y gwaith hanfodol bwysig y mae’r cwmni’n ei wneud ym maes seiberddiogelwch a sut y gall y cwmni elwa o un o’r Heriau Mawr sydd wedi’u nodi yn y strategaeth heddiw.
Dywedodd Alun Cairns:
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn disgrifio gweledigaeth argyhoeddiadol ar gyfer dyfodol yr economi yn y DU ac yn nodi ymagwedd newydd tuag at baratoi ar gyfer yr heriau a’r cyfleoedd y byddwn yn eu hwynebu yn y degawdau i ddod.
Un o’r Heriau Mawr a gyflwynir yn y strategaeth hon yw sicrhau lle i’r DU ar flaen y gad yn y chwyldro data a Deallusrwydd Artiffisial.
Er mwyn cefnogi mabwysiadu technolegau Deallusrwydd Artiffisial ar raddfa fawr yn gyflym, mae Llywodraeth y DU am weithio gyda sectorau busnes sydd â blaenoriaeth, gan gynnwys seiberddiogelwch – maes y mae Campws Airbus yng Nghasnewydd yn rhagori ynddo. Rwyf yn ddiolchgar iddynt am y cyfle i weld hyn ar waith heddiw ac i weld sut maen nhw’n gallu ymateb i her y Strategaeth Ddiwydiannol.
Bydd Guto Bebb yn cyfarfod ag uwch swyddogion gweithredol yn y cwmni adeiladu, Brenig, ym Mae Colwyn lle bydd yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi twf yr economi yng Ngogledd Cymru drwy’r strategaeth.
Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU:
Mae’r Strategaeth Ddiwydiannol yn cydnabod nad oes yr un ddau le yn y DU yr un fath. Mae gan bob lle ei gryfderau a’i hunaniaeth unigryw ei hun.
Gyda’i gilydd, mae Glannau Dyfrdwy, Wrecsam, Manceinion a Glannau Mersi yn ffurfio un o’r sianeli gweithgynhyrchu cryfaf yn y DU. Yn ogystal, mae’r sector ynni yng Ngogledd Cymru yn gwneud cyfraniad enfawr i ddyfodol carbon isel, ac yma hefyd mae gennym sector awyrofod sy’n destun edmygedd ledled y byd.
Bydd ein cefnogaeth i fargeinion twf ac i weithio ar draws ffiniau yn y strategaeth hon yn darparu rhagor o gyfleoedd i ddefnyddio cysylltiadau’r rhanbarth â Phwerdy’r Gogledd i’r eithaf.
Bydd yr Arglwydd Bourne yn ymweld â Chanolfan y Dechnoleg Amgen ym Machynlleth i ddangos sut y gall Cymru wneud cyfraniad gwirioneddol i gynllun twf glân Llywodraeth y DU yn y strategaeth.
Dywedodd yr Arglwydd Bourne, Gweinidog Llywodraeth y DU:
Mae symud i dwf economaidd glanach – drwy gyfrwng technolegau carbon isel a defnyddio adnoddau’n effeithiol – yn un o gyfleoedd diwydiannol mwyaf ein hoes ni.
Mae’r gwaith y mae Canolfan y Dechnoleg Amgen wedi bod yn ei wneud dros y 43 blynedd ddiwethaf i dynnu sylw at broblemau amgylcheddol a chanfod atebion i’r problemau hynny, wedi ysbrydoli miloedd o bobl i falio llawer mwy am y byd naturiol ac i wneud mwy i’w helpu. Rwyf yn edrych ymlaen at weld sut y gall y gwaith maen nhw’n ei wneud chwarae rôl allweddol yn y gwaith o ymchwilio i dechnolegau a chanfod dulliau newydd sy’n angenrheidiol i greu dyfodol o dwf glân.