Stori newyddion

IG Design Group UK Ltd. o Gaerffili yn croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, yn ymweld â chwmni dylunio a chynhyrchu papur lapio mwyaf Ewrop.

IG Design Group UK

IG Design Group UK

Croesawodd IG Design Group UK Ltd. o Gaerffili, cwmni dylunio a chynhyrchu papur lapio mwyaf Ewrop, Ysgrifennydd Gwladol Cymru i’w gyfleuster gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf ddydd Iau 8 Rhagfyr.

Yn ystod ei ymweliad â chyfleusterau IG Design Group UK Ltd. yn Ystrad Mynach, aeth Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ar daith o gwmpas y ffatri gyda’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Lance Burn, a chafodd olwg ar alluoedd dylunio, gweithgynhyrchu a chadwyn gyflenwi mewnol y cwmni, a gafodd eu gwella gan fuddsoddiad sylweddol o £10 miliwn a gwblhawyd yn 2014. Mae buddsoddiad pellach o £3 miliwn wedi ei gynllunio ar gyfer 2017.

Daw ymweliad yr Ysgrifennydd Gwladol ar ôl i’r cwmni ail-frandio o International Greetings UK Ltd. i IG Design Group UK Ltd. ar 31 Hydref 2016, yn dilyn ail-frandio’r Grŵp ehangach i IG Design Group PLC, fel y cyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2016.

Mae enw newydd y cwmni, IG Design Group UK Ltd, yn adlewyrchu elfen hanfodol ‘dylunio’ y busnes ac mae’n ganlyniad twf sylweddol y cwmni dros y blynyddoedd diwethaf yn y busnes aml-gynnyrch sy’n canolbwyntio ar ddylunio fel ag y mae heddiw.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae IG Design Group UK yn stori lwyddiant wych am gwmni yng nghanol cymoedd de Cymru yn cyflogi dros 400 o staff.

Roedd yn wych ymweld â stiwdios dylunio ac ystafelloedd arddangos o’r radd flaenaf y cwmni a gweld drosof fy hunan pam mai hwn yw cwmni dylunio a chynhyrchu papur lapio mwyaf Ewrop.

Mae’r ail-frandio’n dangos yr awydd i barhau i esblygu fel cwmni. Mae dawn entrepreneuraidd a chreadigrwydd yr arbenigwyr sydd wrth y llyw wedi arwain y cwmni o nerth i nerth, ac arweiniad fel hyn sy’n creu ffyniant lleol.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn barod i gefnogi pob busnes sy’n chwilio am gyfleoedd newydd ac sy’n ceisio efelychu cwmnïau fel IG Design Group UK a masnachu eu ffordd at lwyddiant byd-eang.

Cyhoeddwyd ar 8 December 2016