Stori newyddion

Cennin eiconig o Gymru i’w gwarchod

Bydd unrhyw un sy’n prynu Cennin o Gymru yn gallu gweld yn glir o’r label os ydyn nhw’n cael cenhinen ‘go iawn’.

Leek field

Welsh Leeks are known for their distinctive strong peppery taste and vibrant green colour. Photo: Puffin Produce

Cennin o Gymru yw’r ychwanegiad diweddaraf at Gynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU, sy’n gwarchod enw, dilysrwydd a nodweddion cynnyrch rhanbarthol.

Bydd siopwyr yn gallu gweld logo yn glir ar y label sy’n dangos eu bod yn prynu cenhinen ‘go iawn’, a bydd cynhyrchwyr yn elwa o wybod na all pobl eraill eu dynwared.

Mae’r warchodaeth yn berthnasol i bob cynnyrch wedi’i ddilysu sy’n cael ei werthu ym Mhrydain Fawr fel ‘Cennin o Gymru’ a disgwylir y bydd yn hwb i’r diwydiant.

Mae cennin wedi bod yn symbol cenedlaethol i Gymru ers canrifoedd. Mae eu gwarchodaeth yn rhan o gynllun Dynodiad Daearyddol (GI) y DU, sydd hefyd yn gwarchod cynnyrch enwog o Brydain fel hufen tolch o Gernyw a Wisgi o’r Alban ac yn helpu defnyddwyr i wybod eu bod yn prynu cynnyrch dilys o ansawdd uchel.

Fel yr ychwanegiad diweddaraf at gynllun GI y DU, bydd gwarchod enw, nodweddion, dilysrwydd a tharddiad cynnyrch yn golygu y bydd modd olrhain Cennin o Gymru o’r pridd i’r plât, a’u holrhain drwy gydol y gwaith o’u tyfu, eu cynaeafu a’u gwerthu.

Erbyn hyn, mae 92 o gynnyrch GI wedi’u cynhyrchu yn y DU: 81 cynnyrch amaethyddol a bwyd, chwe gwin a phum diod gwirod.

Yn ogystal â’u blas puprog cryf a’u lliw gwyrdd llachar, fe ŵyr pawb bod Cennin o Gymru’n tyfu ar bridd caletach, weithiau’n garegog, gan gynnwys mewn ardaloedd arfordirol yng Nghymru.

Dywedodd y Gweinidog Bwyd a Ffermio, Mark Spencer:

Mae cennin wedi bod yn gysylltiedig â diwylliant Cymru ers canrifoedd.

Maen nhw’n ymddangos dro ar ôl tro fel symbolau cenedlaethol drwy hanes cyfoethog y wlad, ac maen nhw hefyd yn rhan flasus o’r bwyd cenedlaethol ledled y wlad.

Drwy eu gwarchod fel Dynodiad Daearyddol yn y DU, gallwn wneud yn siŵr bod siopwyr yn gwybod beth sydd ganddynt ar eu plât, a bod cynhyrchwyr yn cael eu gwarchod ac yn derbyn clod am eu gwaith.

Dywedodd yr Is-ysgrifennydd Seneddol yn Swyddfa Cymru, Dr James Davies:

Mae’r sector ffermio a bwyd yn eithriadol o bwysig yng Nghymru, ac rydyn ni’n cael ein cydnabod am ein cynnyrch o ansawdd uchel.

Bydd siopwyr yn awr yn gallu adnabod y genhinen eiconig o Gymru yn rhwydd gyda’i blas unigryw, gan roi mantais i gynhyrchwyr cennin o Gymru, a’u helpu i ehangu a thyfu eu busnesau.

Dywedodd Llywydd NFU Cymru, Aled Jones:

Rydyn ni wrth ein bodd bod Cennin o Gymru wedi cael y statws GI. Mae’r genhinen wedi bod yn gyfystyr â Chymru ers tro byd ac mae’n briodol bod ei golwg a’i blas unigryw wedi cael ei gydnabod a’i warchod erbyn hyn.

Wrth dderbyn y statws hwn, mae Cennin o Gymru yn ymuno â rhestr hir o gynnyrch o Gymru sy’n mwynhau statws gwarchodedig. Bydd y gydnabyddiaeth hon o ansawdd y bwyd a gynhyrchwn yma yng Nghymru yn bwysig iawn wrth i ni geisio tyfu marchnadoedd ar gyfer ein cynnyrch.

Dywedodd Huw Thomas, Prif Swyddog Gweithredol Puffin Produce, a ymgeisiodd am ddynodi Cennin o Gymru yn gynnyrch GI:

Mae’r Cennin yn symbol eiconig o Gymru – rydyn ni’n falch iawn o allu tyfu Cennin yma yng Nghymru ac mae’r statws GI yn hynod bwysig i hyrwyddo ansawdd a threftadaeth y cnwd mawreddog hwn.

Mae cennin o Gymru i’w gweld mewn nifer o ryseitiau eiconig o Gymru fel Cawl ac mewn selsig “porc a chennin”.

Cyhoeddwyd ar 29 November 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 November 2022 + show all updates
  1. Welsh version of press release added.

  2. First published.