Stori newyddion

Anrhydeddwch y rhai sy’n gwasanaethu eu gwlad, medd Ysgrifennydd Cymru

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru y bydd Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn nathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog, y Sadwrn yma [24ain Mehefin, 2011]…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru y bydd Cymru yn chwarae rhan flaenllaw yn nathliadau Diwrnod y Lluoedd Arfog, y Sadwrn yma [24ain Mehefin, 2011].

Dywedodd Cheryl Gillan bod y prif ddigwyddiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd y llynedd, eleni’n cael ei gynnal yng Nghaeredin. Fodd bynnag, yma yng Nghymru bydd digon o gyfleoedd i bobl anrhydeddu’r unigolion o’r gorffennol a’r presennol sydd wedi gwasanaethu’u gwlad, gyda digwyddiadau lleol a chymunedol yn cael eu cynnal yn siroedd Cymru, i nodi’r dathliadau.

Eleni cynhelir nifer o orymdeithiau, garddwesti, cyngherddau, seremoniau a dawnsfeydd yng Nghaerdydd, Pen-y-bont ar Ogwr, Penfro, Cwm Cynon, Merthyr Tydfil, Casnewydd a Hengoed.

Dywedodd Mrs Gillan: “Y llynedd, cynhaliwyd Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd, a gwn y bydd Caeredin hefyd yn gwneud sioe ardderchog wrth anrhydeddu a dathlu rol ein Lluoedd Arfog o ran amddiffyn ein dinasyddion. Er cof am yr ymdrechion a’r aberth a wnaed gan y lluoedd dewr, a hefyd i nodi gwerthfawrogiad a pharch am y gwaith anodd a thrwm a wneir ganddynt, rwy’n gobeithio y bydd pobl yn ymuno yn y gweithgareddau a’r dathliadau sy’n cael eu cynnal, i gynnig ein cefnogaeth a’n diolch.

“Yng Nghymru mae gennym gysylltiad arbennig a’n Lluoedd Arfog ac mae’r digwyddiad blynyddol hwn yn rhoi cyfle i’r cyhoedd ddangos eu gwerthfawrogiad a’u balchder i’r milwyr, y morwyr ac aelodau’r llu awyr sy’n aberthu cymaint dros eraill drwy wasanaethu ein gwlad.”

Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn cydnabod y cyfraniad a wneir gan y rhai sydd wedi gwasanaethau ac yn parhau i wasanaethu yn Lluoedd Arfog Prydain. Gellir cael mwy o wybodaeth am Ddiwrnod y Lluoedd Arfog yma.**  **

Cyhoeddwyd ar 23 June 2011