Stori newyddion

Enwebiadau Cwnsleriaid y Brenin er anrhydedd: dyddiad cau dydd Llun 29 Awst 2022

Ceisio enwebiadau ar gyfer Cwnsleriaid y Brenin er anrhydedd.

Bydd y dudalen hon yn cwmpasu:

  • Am beth mae’r anrhydedd?
  • Pwy sy’n gymwys?
  • Sut mae’r anrhydedd yn cael ei dyfarnu?
  • Sut mae’r wybodaeth am enwebeion yn cael ei defnyddio?
  • Sut i wneud enwebiad
  • Cwestiynau Cyffredin

Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ) yn gwahodd enwebiadau ar gyfer dyfarnu Cwnsler y Brenin Honoris Causa.

Rhaid cwblhau a dychwelyd ffurflenni i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder erbyn 12pm Awst 29 2022.

I wneud enwebiad, cyflwynwch eich enwebiad hon.

Mae hon yn anrhydedd sy’n unigryw i’r proffesiwn cyfreithiol. Mae’n gyfle neilltuol, drwy frenhinfraint, i gydnabod y rhai yn y proffesiwn sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i gyfraith Cymru a Lloegr, a chael effaith arni, y tu allan i’r llys.

Nid yw’r anrhydedd yn swydd, ac mae’n annibynnol ar apwyntiadau CB a weinyddir gan Benodiadau Cwnsler y Brenin. Lle mae rhywun yn gymwys i wneud cais am CB yn ei rôl, ni fyddem fel arfer yn ei ystyried am CB er Anrhydedd.

Nodwch y gall unrhyw un a enwebir fod yn destun gwiriadau cofnodion troseddol gyda Swyddfa Cofnodion Troseddol ACRO.

Am beth mae’r anrhydedd?

Mae’n anrhydedd am:

Effaith arwyddocaol a chadarnhaol naill ai ar siapio’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr, neu ar y proffesiwn. Mae hwn ar gyfer gwaith y tu allan i’r llys.

Gellir dehongli’r maen prawf hwn yn fras, naill ai fel:

  • cyfraniad mawr i ddatblygiad cyfraith Cymru a Lloegr (er enghraifft, drwy ymchwil ymroddedig, yn dylanwadu ar gyfraith / deddfwriaeth achosion a hyrwyddo arloesedd), neu
  • sut mae’n symud ymlaen (er enghraifft, drwy effeithio’n gadarnhaol ar ffurf y proffesiwn).

Yr hyn sy’n bwysicaf yw bod enwebiadau’n dangos tystiolaeth glir o’r effaith sylweddol, gadarnhaol y mae ymdrechion unigolyn wedi’i chael.

Nid yw’n wobr am hir-wasanaeth. Gellir dyfarnu’r anrhydedd am effaith sylweddol dros gyfnod hir, ond efallai y caiff ei dyfarnu’n gyfartal am effaith o’r fath dros gyfnod byrrach - maint yr effaith sy’n bwysig.

Rydym yn awyddus i gydnabod amrywiaeth o fewn y proffesiwn, gydag anrhydeddau sy’n adlewyrchu’r amrywiaeth o wahanol yrfaoedd cyfreithiol sy’n rhan o’r proffesiwn. Gellir gweld enghreifftiau o enwebeion llwyddiannus blaenorol trwy edrych ar yr astudiaethau achos.

Enghreifftiau o’r math o wahanol gyfraniadau

Dylanwadu ar ddeddfwriaeth

  • Cael effaith ar y gyfraith drwy ddylanwadu ar ddeddfwriaeth neu gyfraith achos (e.e. trwy ganlyniad ymchwil, creu ymwybyddiaeth neu ymgyrchu, gwaith pro bono neu eiriolaeth arall y tu allan i’r llys). Symudedd cymdeithasol ac Amrywiaeth
  • Cael cryn effaith ar y proffesiwn cyfreithiol (e.e. drwy fentrau sy’n cael effaith ar symudedd cymdeithasol neu amrywiaeth, ac yn cynyddu cystadleuaeth y sector).

Arloesi

  • Cael effaith drwy gyflawniad amlwg neu drwy arloesi (e.e. drwy dorri drwodd i diriogaeth newydd, megis cael effaith trwy waith ar Lawtech, arloesi mewn addysg gyfreithiol, neu hyrwyddo gwasanaethau cyfreithiol y DU dramor).

Gwaith academaidd

  • Cael effaith trwy waith academaidd rhagorol sy’n gwneud cyfraniad cadarnhaol at y gyfraith a/neu’r system gyfreithiol

Pwy sy’n gymwys?

  • I fod yn gymwys i dderbyn y wobr, rhaid i’r unigolyn fod yn gyfreithiwr cymwys neu’n academydd cyfreithiol.
  • Rhaid i’r enwebiad fod am gyflawniad y tu allan i ymarfer yn y llys. Mewn geiriau eraill, dyfernir yr anrhydedd am waith heb fod yn eiriolaeth.
  • Mae’r wobr yn agored i weithwyr proffesiynol cymwys tramor. Nid oes gofyniad preswylio.

Gall enghreifftiau o’r rhai sy’n gymwys gynnwys (nid yw hon yn rhestr ddihysbydd):

  • Cyfreithwyr heb hawliau i ymddangos yn yr uwch lysoedd
  • Gweithredwyr Cyfreithiol
  • Cyfreithwyr mewnol, gan gynnwys Cwnsleriaid
  • Cyfreithwyr nad ydynt yn ymarfer
  • Academyddion cyfreithiol

Ni fyddai dal swydd farnwrol sy’n derbyn ffi yn ychwanegol at ymarfer arferol yn eithrio cyfreithwyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd uchod.

Sut mae’r anrhydedd yn cael ei dyfarnu?

Gweinyddir y broses gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MOJ). Ystyrir enwebiadau yn erbyn y maen prawf gan banel o gynrychiolwyr o’r proffesiwn cyfreithiol, y gwasanaeth sifil, y farnwriaeth, a’r byd academaidd, sy’n cael ei gadeirio gan yr MOJ.

Mae’r panel o gynrychiolwyr yn argymell enwebeion y gellir eu penodi i’r Arglwydd Ganghellor. Yna bydd yr Arglwydd Ganghellor, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y broses wedi’i chynnal mewn ffordd deg, agored a thryloyw, yn ystyried ac yn penderfynu ar yr argymhellion terfynol. Cyfeirir yr argymhellion wedyn at y Brenin am gytundeb, sy’n rhoi’r anrhydedd drwy’r uchelfraint brenhinol.

Sut mae’r wybodaeth am enwebeion yn cael ei defnyddio?

Er mwyn asesu addasrwydd ar gyfer y dyfarniad ac fel rhan o’r broses ddethol, defnyddir gwybodaeth am y sawl sy’n cael eu henwebu i gyflawni:

  • Gwiriadau ar draws y Llywodraeth i gadarnhau a allai’r unigolyn neu ei waith fod yn hysbys i, neu o ddiddordeb i, adran arall o’r llywodraeth
  • Gwiriadau yn erbyn enwebeion ar y brif system anrhydeddau yn unol â’r meini prawf cymhwysedd
  • Gwerthusiad gan banel dethol o gymwysterau cyfreithiol yr unigolyn a thystiolaeth o’i gyfraniad a’i effaith ar gyfraith Cymru a Lloegr
  • Bydd yr enwebeion ar y rhestr fer yn cael gwiriad cofnodion troseddol

Enwebeion o’r tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol

Lle mae rhywun o’r tu allan i’r proffesiwn cyfreithiol wedi effeithio’n sylweddol ar gyfraith Cymru a Lloegr, neu sut mae’n cael ei datblygu, ni fydd yn gymwys ar gyfer y wobr hon. Byddem yn croesawu’r enwebiadau hynny fel rhan o’r brif system anrhydeddau.

Yr Alban a Gogledd Iwerddon

Does dim yn cyfateb yn union yn Yr Alban na Gogledd Iwerddon. Fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu na ellir cydnabod cyflawniad o natur debyg yn yr awdurdodaethau hynny. Os hoffech enwebu rhywun am anrhydedd sydd yn gweithio yn yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gysylltu â Llywodraeth yr Alban neu Ysgrifenyddiaeth Anrhydeddau Gogledd Iwerddon.

Enwebeion a derbynwyr anrhydeddau cenedlaethol

Ni fyddai rhywun sydd wedi ei anrhydeddu yn y brif system anrhydeddau o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf, neu sydd wedi cael ei enwebu am anrhydedd o’r fath eleni, yn gymwys i dderbyn CB Er Anrhydedd. Pan fo rhywun wedi derbyn anrhydedd dros ddwy flynedd yn ôl, bydd y panel yn ystyried cyfraniad yr unigolyn i’r gyfraith ac effaith ei gyfraniad ar y gyfraith ers i’r anrhydedd honno gael ei dyfarnu.

Sut i wneud enwebiad

Cyflwynwch eich ffurflen enwebu gan ddefnyddio ein ffurflen ddigidol yma. Os nad ydych yn gallu defnyddio ein ffurflen ddigidol, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â ni drwy HonoraryKC@justice.gov.uk.

Cwestiynau Cyffredin (FAQ’s)

1. Beth yw’r broses a’r amserlen?

Dyma’r drefn ond gall y dyddiadau hyn newid:

  • 27 Mehefin 2022: Ceisiadau yn agor
  • 29 Awst 2022: Ceisiadau yn cau
  • Hydref 2022: Panel yn cwrdd ac yn creu rhestr fer o enwebiadau
  • Dechrau Tachwedd 2022: Gwiriadau troseddol ACRO yn cael eu cynnal
  • Diwedd Tachwedd 2022: Yr Arglwydd Ganghellor yn creu argymhellion terfynol i’w Mawrhydi y Frenhines.
  • Rhagfyr 2022: Rhoi gwybod i’r enwebeion llwyddiannus
  • Mawrth 2023: Seremoni wobrwyo a phenodi Cwnsler y Frenhines Er Anrhydedd newydd.

2. Pwy all wneud enwebiad?

Gall unrhyw un wneud enwebiad. Nid oes angen i chi fod â chefndir cyfreithiol neu fod yn preswylio yn y DU.

3. A oes angen i mi fod yn fargyfreithiwr neu’n gyfreithiwr gweithredol i gael fy enwebu?

Na. Nid oes angen i chi fod yn fargyfreithiwr, ond mae angen i chi fod yn gyfreithiwr cymwysedig neu’n academydd cyfreithiol i fod yn gymwys. Mae’r wobr am gyflawniadau/gwaith y tu allan i’r llys.

4. A allaf wneud mwy nag un enwebiad?

Gallwch. Gallwch enwebu cymaint o bobl ag y dymunwch, ond sicrhewch eich bod yn cyflwyno ffurflenni enwebu ar wahân.

5. Oes yna gyfyngiad ar nifer yr enwebiadau ar gyfer un person?

Na. Gall unigolyn cael ei enwebu gan nifer o bobl.

6. A allaf enwebu gwladolion tramor?

Gallwch. Nid oes gofynion cenedligrwydd neu drigo/preswylio ar gyfer y wobr.

7. A oes angen nifer o enwebiadau arnaf i gael fy ystyried ar gyfer y wobr?

Na. Dydy’r sgorio ddim yn seiliedig ar nifer yr enwebiadau a gafodd yr unigolyn.

8. Ddylwn i anfon llythyrau cefnogol gan bobl eraill gyda’r enwebiad?

Na. Nid oes angen llythyrau cefnogol ar wahân.

9. Beth sy’n digwydd os rwy’n methu’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais?

Yn anffodus, ni fyddwn yn ystyried unrhyw enwebiad sy’n ein cyrraedd ar ôl y dyddiad cau. Byddem yn eich annog i gyflwyno’ch cais pan fydd y rownd nesaf o enwebiadau yn agor.

Cyhoeddwyd ar 27 June 2022