Porthladd Caergybi’n allweddol i dwf economaidd Gogledd Cymru, meddai David Jones
Mae Porthladd Caergybi’n hanfodol o bwysig i economi Gogledd Cymru ac yn allweddol ar gyfer twf economaidd i ddod ar Ynys Mon, meddai David …

Mae Porthladd Caergybi’n hanfodol o bwysig i economi Gogledd Cymru ac yn allweddol ar gyfer twf economaidd i ddod ar Ynys Mon, meddai David Jones Gweinidog Swyddfa Cymru.
Cyfarfu Mr Jones a Chapten Wyn Parry, Rheolwr y Porthladd, i glywed yn uniongyrchol am y cyfraniad sylweddol mae’r porthladd yn ei wneud i’r economi leol.
Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones “Mae Porthladd Caergybi yn un o borthladdoedd mwyaf arwyddocaol Prydain, yn darparu cyswllt mor at Weriniaeth Iwerddon. Mae gan y porthladd, sydd eisoes yn croesawu dros ddwy filiwn o deithwyr mor y flwyddyn, botensial enfawr i ehangu. Mae ganddo’r potensial i ddenu mwy o ymwelwyr i Ogledd Cymru a byddai hynny’n cynnig hwb mawr i economi’r ardal.
“Mae sector y porthladdoedd yn bwysig iawn i economi’r DU, gan gynnwys Cymru. Rydym yn awyddus i gymryd ymagwedd ragweithiol at borthladdoedd fel y gall holl borthladdoedd Cymru wireddu eu potensial, a byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Adran Drafnidiaeth a Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni hyn.”