Stori newyddion

Mae CThEF wedi cyflwyno GOV.UK One Login ar gyfer cwsmeriaid newydd

Mae CThEF wedi cyflwyno GOV.UK One Login.

Gall cwsmeriaid newydd sy’n cofrestru ar gyfer gwasanaethau digidol Cyllid a Thollau EF (CThEF) gofrestru nawr gan ddefnyddio GOV.UK One Login.

O heddiw ymlaen (9 Chwefror 2026), bydd cwsmeriaid unigol heb gyfrif Porth y Llywodraeth presennol yn creu GOV.UK One Login gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair yn unig, yn lle ID 10-12 digid, i gael mynediad at wasanaethau CThEF.

Pan gaiff ei gyflwyno’n llawn ar draws y llywodraeth, GOV.UK One Login fydd yr unig ffordd i gael mynediad at holl wasanaethau’r llywodraeth ar-lein. Bydd pobl yn defnyddio one secure login ar gyfer popeth o dreth i basbortau i gofrestru i bleidleisio. Gyda CThEF yn ymuno, mae nifer y gwasanaethau llywodraeth sydd ar gael drwy GOV.UK One Login wedi cynyddu i dros 200.

Bydd y cyflwyniad i gwsmeriaid CThEF yn raddol a bydd yn cael ei fonitro’n agos. Nid oes angen i gwsmeriaid CThEF sydd â chyfrif Porth y Llywodraeth gymryd unrhyw gamau. Byddant yn parhau i ddefnyddio eu ID ar gyfer Porth y Llywodraeth presennol a chysylltir â nhw pan fydd hi’n bryd iddynt newid i GOV.UK One Login.

Os oes gan gwsmer CThEF presennol GOV.UK One Login ar gyfer gwasanaeth llywodraeth gwahanol (e.e. rheoli’ch pensiwn y wladwriaeth, neu wasanaethau Tŷ’r Cwmnïau) – bydd angen iddynt hefyd barhau i ddefnyddio eu Porth Llywodraeth ar gyfer CThEF am y tro.

Meddai Suzanne Newton, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer y Grŵp Cyflawni Newid:

Boed yn cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar-lein, yn hawlio ad-daliad treth ar ap CThEF, neu’n gwirio gwybodaeth TWE, bydd GOV.UK One Login yn ei gwneud hi’n symlach ac yn gyflymach i gwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau digidol y llywodraeth, gan gynnal y diogelwch a’r dibynadwyedd y maent yn ei ddisgwyl.

Gall cwsmeriaid newydd CThEF gofrestru ar gyfer GOV.UK One Login o heddiw (9 Chwefror) ymlaen, ewch i GOV.UK i gael gwybod mwy.

Mae cyflwyno GOV.UK One Login yn un o’r ffyrdd y mae’r llywodraeth yn trawsnewid ac yn uno gwasanaethau cyhoeddus digidol. Drwy brofi pwy ydynt unwaith, gall pobl ei hailddefnyddio ar draws gwasanaethau’r llywodraeth, gan arbed amser pryd bynnag y byddant yn rhyngweithio â’r llywodraeth ar-lein.

Rhagor o wybodaeth

Gall unrhyw un a allai fod angen cymorth ychwanegol gyda’u GOV.UK One Login gysylltu â Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth i gael cymorth.

Mae GOV.UK One Login ar gael ar hyn o bryd ar gyfer dros 200 o wasanaethau’r llywodraeth a bydd yn ehangu’n raddol wrth i fwy o wasanaethau’r llywodraeth gael eu cynnwys.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Chwefror 2026