Stori newyddion

Rhybudd gan GLlTEM ynghylch sgamiau e-bost

Mae negeseuon e-bost gwe-rwydo (phishing) yn cael eu hanfon at bobl yn honni i fod gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM.

Rydym yn ymwybodol o nifer o sgamiau e-bost gwe-rwydo sy’n bodoli sy’n dweud bod hysbysiad cosb ariannol wedi’i godi, ac y bydd yr unigolyn yn cael ei alw i’r llys os na fydd yr hysbysiad yn cael ei dalu.

Mae’r neges e-bost wedi cael ei hanfon ar ffurf sawl fformat gwahanol.

Nid yw Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn codi Hysbysiadau Cosb Ariannol.

Bydd y twyllwyr wedi copïo logo GLlTEM a cheisio gwneud i’r hysbysiad edrych yn ddilys.

Fe anfonir unrhyw neges e-bost ddilys gan GLlTEM o gyfrif e-bost @justice.gov.uk. Os oes gennych unrhyw amheuon ynghylch dilysrwydd neges, rhowch y cyrchwr dros y cyfeiriad e-bost i weld pwy yw gwir awdur y neges. Os byddwch yn darllen y neges e-bost ar ffôn symudol, gallwch wirio’r cyfeiriad drwy glicio ar ‘arddangos yr enw/display name’.

Mae yna nifer o bethau y gallwch wneud i wirio dilysrwydd dogfen neu neges e-bost.

Ni fydd sgamwyr yn gwybod eich enw felly byddant yn defnyddio ‘Annwyl Gwsmer/Dear Customer’.

Fe ddefnyddir ‘sil l afiadau’ rhyfedd neu ‘lYthreNnau bRas’ yn y blwch testun er mwyn ceisio twyllo hidlyddion spam.

Gall camsillafiadau a meintiau ffont gwahanol yng nghorff y neges e-bost neu’r ddogfen hefyd ddynodi nad yw’n ddilys.

Os cewch neges e-bost fel hyn:

  • peidiwch â’i hateb
  • peidiwch â chlicio ar y ddolen i dalu
  • ffoniwch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu anfonwch neges e-bost i’r uned dwyll.
Cyhoeddwyd ar 8 October 2020