Stori newyddion

Digwyddiadau sioe deithiol diwygio GLlTEM yn 2018 a 2019

Gwybodaeth i weithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith a defnyddwyr y llysoedd sydd am gymryd rhan mewn digwyddiadau ynglŷn â rhaglen ddiwygio’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Image of roadshow presentation

Rhwng Medi 2018 a diwedd Mawrth 2019, bydd Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM) yn parhau i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ym maes y gyfraith a defnyddwyr proffesiynol y llysoedd ynghylch ein rhaglen £1bn i ddiwygio’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd.

Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb ac ar-lein, wedi eu trefnu yn ôl awdurdodaeth a phwnc. Bydd y digwyddiadau yn galluogi’r rhai sy’n cymryd rhan ynddynt i feithrin eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, darparu adborth, a gofyn cwestiynau am gynnydd ac amcanion y rhaglen ddiwygio.

Rydym yn cynnig gwahanol fathau o ddigwyddiadau, sy’n darparu amrediad o gyfleoedd i gymryd rhan. Bydd pob digwyddiad yn cynnwys cyflwyniad, arddangosiad (lle bydd hyn ar gael), a sesiwn holi ac ateb.

Bydd y digwyddiadau ar-lein yn defnyddio technoleg fideo ryngweithiol a fydd yn caniatáu i bobl gymryd rhan yn y digwyddiad heb orfod teithio. Bydd y digwyddiadau wyneb yn wyneb yn cael eu darlledu’n fyw ar y We a bydd modd gwneud cyfraniadau’n defnyddio system holi ac ateb rhyngweithiol a ’chyflwyno cwestiynau ymlaen llaw driwyr e-bost.

Byddwn yn cyhoeddi recordiadau fideo o’r holl ddigwyddiadau i’r rhai nad ydynt yn gallu cymryd rhan ar y diwrnod.

Defnyddiwch y dolennau isod i gofrestru ar gyfer y digwyddiadau. Rydym yn bwriadu ymdrin â phob awdurdodaeth (troseddol, sifil, teulu a thribiwnlysoedd) gan ddefnyddio amrediad o fformatau a lleoliadau daearyddol. Byddwn hefyd yn defnyddio adborth o’r digwyddiadau hyn i oleuo a gwella digwyddiadau yn y dyfodol. Byddwn yn diweddaru ein tudalen ddigwyddiadau wrth inni ychwanegu digwyddiadau newydd.

Digwyddiadau ar-lein

Digwyddiadau wyneb yn wyneb

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes arnoch angen gwybodaeth bellach am y digwyddiadau, anfonwch e-bost atom.

Darllenwch yr holl wybodaeth a’r diweddariadau diweddaraf ar raglen ddiwygio GLlTEM.

Cyhoeddwyd ar 7 September 2018