Stori newyddion

Penaethiaid GLlTEM ar-lein ar gyfer Digwyddiad Defnyddwyr Cyhoeddus 2020

Crynodeb o'r cynnwys a'r wybodaeth o'r pedwerydd digwyddiad blynyddol a gynhaliwyd o bell dros dridiau.

This news article was withdrawn on

This page has been withdrawn as the event has passed and some information may be out of date.

Croesawodd GLlTEM y nifer uchaf erioed o fynychwyr i’r pedwerydd Digwyddiad Defnyddiwr Cyhoeddus Blynyddol, a newidiodd i fformat ar-lein eleni mewn ymateb i effeithiau COVID-19.

Cynhaliwyd sesiynau ar-lein dros dridiau yr wythnos hon (3, 4, 5 Tachwedd), gan gwmpasu gwaith prosiectau diwygio troseddol, sifil, teulu, tribiwnlysoedd a thraws-awdurdodaethol dros y 12 mis diwethaf, mewn blwyddyn lle gwelwyd effaith sylweddol o ganlyniad i’r angen i’r rhaglen ymateb i’r pandemig.

Mynychodd defnyddwyr proffesiynol a chyhoeddus y digwyddiad eleni a chawsant gyfle i ymgysylltu â’r gwasanaethau diweddaraf a gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen ddiwygio.

Wrth i’r digwyddiad ddod i ben, dyma oedd gan Gyfarwyddwr Strategaeth a Newid GLlTEM, Gemma Hewison, i’w ddweud:

Roeddwn yn falch iawn, er i COVID-19 amharu ar bethau, ein bod wedi gallu cynnal ein digwyddiad ar gyfer defnyddwyr cyhoeddus unwaith eto, gan ddenu’r nifer uchaf erioed yn y broses. Mae’r arloesedd a ddangoswyd gan ein tîm Ymgysylltu â Defnyddwyr Cyhoeddus i wneud i’r wythnos hon ddigwydd, a’r ymdrechion a wnaed gan y rhai sy’n gweithio ar draws y rhaglen ddiwygio i gyflwyno eu sesiynau yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn ychydig fisoedd hynod o brysur i GLlTEM, yn mynd i ddangos pa mor ymroddedig ydym ni yn sicrhau bod y bobl sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn ganolog i bopeth a wnawn.

Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a fynychodd am eu cyfranogiad a’u cyfraniadau amhrisiadwy, ac rwy’n teimlo’n egnïol wrth inni arwain y rhaglen i’w cham nesaf.

Trosolwg awdurdodaethol

Cyn y digwyddiad, darparodd dirprwy gyfarwyddwyr grynodebau cyffredinol o’r cynnydd a wnaed eleni yn yr awdurdodaethau troseddol, sifil, teulu a thribiwnlysoedd. Gellir gweld eu trosolwg isod.

Gillian Brooks, Arweinydd Gwasanaeth yr Awdurdodaeth Droseddol – trosolwg o’r awdurdodaeth droseddol a chroeso

Simon Vowles, Arweinydd Gwasanaeth yr Awdurdodaeth Sifil – trosolwg o’r awdurdodaeth sifil a chroeso

Adam Lennon, Arweinydd Gwasanaeth yr Awdurdodaeth Deuluol – trosolwg o’r awdurdodaeth deuluol a chroeso

Daniel Flury, Arweinydd Gwasanaeth y Tribiwnlysoedd – trosolwg o’r tribiwnlysoedd a chroeso

Cyflwyniadau

Rhoddwyd cyfle i’r mynychwyr ddewis o ystod o sesiynau ar draws y tridiau, yn dibynnu ar faes eu diddordeb neu eu harbenigedd. Mae recordiadau o’r sesiynau hyn ar gael:

Y diwrnod cyntaf: Yr awdurdodaethau sifil a throseddol

Mae’r rhestr chwarae hon yn cynnwys ystod o sesiynau. Ar gyfer yr awdurdodaeth sifil, mae’n cynnwys newidiadau i’r gwasanaeth hawliadau arian sifil, yn ogystal â rhywfaint o’r gwaith ymateb sy’n cael ei wneud mewn achosion meddiant. Mae cyflwyniadau’r awdurdodaeth droseddol yn cynnwys gwybodaeth am gyflwyno Adran 28, y Platfform Cyffredin, camsyniadau ynghylch gwasanaethu ar reithgor a sut rydym yn gwella ein hymgysylltiad ymlaen llaw â diffynyddion.

Yr ail ddiwrnod: Y tribiwnlysoedd a gwaith traws-awdurdodaethol

Ar gyfer tribiwnlysoedd, mae’r rhestr chwarae hon yn canolbwyntio ar y newidiadau sy’n cael eu gwneud fel rhan o’n rhaglen ddiwygio. Mae hefyd yn cynnwys cyflwyniadau gan nifer o brosiectau sy’n gweithio ar draws sawl awdurdodaeth, megis gwrandawiadau o bell, timau gweithrediadau’r dyfodol a gweithio i ddeall defnyddwyr ag anghenion cymhleth ychwanegol.

Y trydydd diwrnod: Yr awdurdodaeth deuluol a materion yn ymwneud â COVID-19

Mae llawer o wasanaethau digidol o’r awdurdodaeth deuluol bellach yn fyw ac mae’r rhestr chwarae hon yn cynnwys arddangosiadau o rai o’r gwasanaethau hynny, megis y C100 a chyfraith gyhoeddus deuluol, yn ogystal â gwasanaethau eraill yn y Llys Teulu. Mae’r materion sy’n ymwneud â COVID-19 yn cynnwys sesiynau am ymateb GLlTEM i effeithiau’r pandemig, diogelwch yn y llys, ystyried defnyddwyr bregus a’n Llysoedd Nightingale newydd.

Cyhoeddwyd ar 6 November 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 November 2020 + show all updates
  1. Presentations added.

  2. First published.