Stori newyddion

Dyluniad adweithydd niwclear Hitachi i gael ei asesu

Bu datblygiad heddiw yng nghynlluniau cwmni o Japan, sef Hitachi, i adeiladu hyd at chwe adweithydd niwclear newydd yn y DU, wrth i Weinidogion…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bu datblygiad heddiw yng nghynlluniau cwmni o Japan, sef Hitachi, i adeiladu hyd at chwe adweithydd niwclear newydd yn y DU, wrth i Weinidogion ofyn i’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd asesu dyluniad eu hadweithydd.

Prynodd Hitachi Pŵer Niwclear Horizon yn ddiweddar ac mae’n bwriadu datblygu adweithyddion niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Mon ac yn Oldbury yn Sir Gaerloyw.

Bydd Asesiad Dyluniad Generig yn cael ei gynnal yn awr ar yr  Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch, sef yr unig adweithydd Generation III + i fod yn weithredol yn unrhyw le yn y byd, gyda phedwar Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch yn Japan, a thri arall yn cael eu hadeiladu yn Japan a Taiwan.

Dywedodd John Hayes, y Gweinidog Gwladol dros Ynni:

“Mae gan niwclear newydd rol ganolog i’w chwarae yn ein dyfodol ynni, gan gyflwyno pŵer diogel, carbon isel a chefnogi swyddi a thwf economaidd. Mae croeso brwd i ymrwymiad Hitachi i’r DU, ac rwy’n benderfynol ein bod ni’n gweithio’n agos a’r cwmni er mwyn cyflawni eu buddsoddiad arfaethedig.

“Er hynny, mae’n rhaid i ni fod yn gwbl sicr bod unrhyw adweithydd a ddefnyddir yn y wlad hon yn bodloni ein safonau diogelwch llym. Dyna pam fy mod i’n gofyn i’r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd gynnal archwiliad trwyadl ar ddyluniad yr adweithydd arfaethedig ar gyfer safleoedd Wylfa ac Oldbury.”

Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen i brosiect Pŵer Niwclear Horizon ac mae’n dangos ymrwymiad y DU i Hitachi ac i adeiladu niwclear newydd. 

“Rydw i’n gwybod y bydd myfyrwyr Coleg Menai yng Ngogledd Cymru sy’n gweithio tuag at yrfa yn y diwydiant niwclear yn falch bod y cam Asesiad Dyluniad Generig wedi symud ymlaen mor gyflym.” 

Nodiadau i olygyddion:

1.     I gael rhagor o wybodaeth am yr Asesiad Dyluniad Generig ar gyfer adweithyddion niwclear newydd, ewch i http://www.hse.gov.uk/newreactors/ 

2.     Asesiad Dyluniad Generig yw’r broses a ddefnyddir gan y rheoleiddwyr niwclear (y Swyddfa Rheoleiddio Niwclear ac Asiantaeth yr Amgylchedd) er mwyn asesu dyluniadau newydd gorsafoedd pŵer niwclear. Mae’n galluogi i reoleiddwyr asesu diogelwch a goblygiadau amgylcheddol dyluniadau adweithyddion newydd, ar wahan i geisiadau i’w hadeiladu ar safleoedd penodol.

3.     Fis Rhagfyr 2012, cadarnhaodd rheoleiddwyr y DU eu bod yn derbyn dyluniad adweithydd EPR EDF ac AREVA yn dilyn asesiad o’i ddyluniad generig. Gweler http://news.hse.gov.uk/onr/2012/12/uk-regulators-confirm-acceptance-of-new-nuclear-reactor-design/

Cyhoeddwyd ar 15 January 2013