Datganiad i'r wasg

Llofnodi hanesyddol yn selio clwstwr lled-ddargludyff cyfansawdd cyntaf y byd yn ne-ddwyrain Cymru

Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a’r Deyrnas Unedig mewn seremoni lofnodi ag IQE ccc ar gyfer datblygu ffowndri Casnewydd.

Digwyddodd seremoni lofnodi HANESYDDOL heddiw (Dydd Llun, yr 11eg o Fedi) i gadarnhau datblygu clwstwr diwydiant lled-ddargludydd cyfansawdd yn ne-ddwyrain Cymru.

Daeth y llofnodi ar ôl cytundeb ym mis Mai gan Gabinet Rhanbarthol Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) i gyfrannu £37.9 miliwn o Gronfa Buddsoddi Ehangach Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd tuag at sefydlu cyfleuster arloesol sylweddol, fel angor yn y rhanbarth ar gyfer cynhyrchu lled-ddargludyddion cyfansawdd o safon uchel.

Y nod yw cynorthwyo’r gwaith o ddatblygu clwstwr diwydiannol o Led-ddargludyddion Cyfansawdd yn y rhanbarth, a chanddo’r potensial i:

  • trosoli £375 miliwn o fuddsoddiad gan y sector preifat,
  • creu hyd at 2,000 o swyddi sgiliau uchel,
  • dychwelyd y buddsoddiad i’w ddefnyddio ar gynlluniau rhanbarthol eraill, a
  • chreu cannoedd o swyddi yn rhagor yn y clwstwr cadwyn gyflenwi ehangach.

Dyma’r buddsoddiad cyntaf o’r fath ers i raglen Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwerth £1.2 biliwn gael ei llofnodi’n ffurfiol gan arweinwyr y deg awdurdod lleol yn y rhanbarth ar y 1af o Fawrth.

Bydd y cyfleuster yng Nghasnewydd ym mherchnogaeth y 10 Cyngor yn y Cabinet Rhanbarthol, a hynny o dan y cyfrwng at ddibenion arbennig, ‘CSC Foundry Limited’ / ‘LDC Ffowndri’, a’r lle’n cael ei brydlesu i IQE ccc ar gyfer gweithgynhyrchu lled-ddargludydd cyfansawdd a datblygu cymwysiadau, gan helpu i sefydlu Clwstwr Lled-ddargludydd Cyfansawdd cyntaf y byd, CS Connected, yn y rhanbarth.

Nid yw’r prosiect yn grant neu’n fenthyciad - mae’n fuddsoddiad masnachol gyda’r 10 Cyngor yn rhannu perchnogaeth o’r ffowndri. Mae’r cynigiad yn ceisio dychwelyd y buddsoddiad gwreiddiol yn ogystal â llog dros oes y prosiect.

Cadarnhawyd y prosiect yn ffurfiol mewn seremoni lofnodi heddiw ym mhencadlys IQE yng Nghaerdydd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns, AS, Ysgrifennydd Cymru dros yr Economi a’r Seilwaith, Ken Skates, cyfarwyddwyr LDC Ffowndri, y Cynghorwyr Bob Greenland (Sir Fynwy) ac Andrew Barry (Merthyr), a phrif weithredwr IQE, y Dr. Drew Nelson.

Mae Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ceisio gosod y rhanbarth mewn safle fel yr arweinydd byd-eang mewn cymwysiadau a alluogir i gael eu gweithio gan led-ddargludyddion cyfansawdd, a ddechreuwyd gan fuddsoddiad gwerth £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Yn 2016, cyhoeddodd Innovate UK – asiantaeth arloesi Llywodraeth y Deyrnas Unedig – fuddsoddiad gwerth £50 miliwn i sefydlu Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludydd Cyfansawdd newydd yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd y Catapwlt newydd hwn yn adeiladu ar fuddsoddiad presennol gan Brifysgol Caerdydd, IQE, a Llywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Fox, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, a Dirprwy Gadeirydd Cabinet Rhanbarthol Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:

Amcan yr ymrwymiad hwn yw creu ecosystem lled-ddargludydd cyfansawdd cyflawn yn Ne Cymru i fanteisio ar amlygrwydd cynyddol technolegau lled-ddargludyddion cyfansawdd.

Ni ddylid dibrisio’r cyfle y mae’r buddsoddiad hwn yn ei greu i helpu i sefydlu clwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd cyntaf y byd yn ne-ddwyrain Cymru.

Mae ganddo’r potensial i osod ein rhanbarth wrth graidd y sector hollol arloesol hwn, ac fe fydd yn golygu datblygu ac integreiddio cadwyn gyflenwi lled-ddargludydd cyfansawdd yn Ne Cymru, gyda’r buddion economaidd a chymdeithasol a ddaw gyda hynny.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd wrth graidd llawer o ddyfeisiadau rydym yn eu defnyddio heddiw, o ffonau clyfar i dabledi a systemau cyfathrebu lloerennau. Mae’n faes cryfder y Deyrnas Unedig, ac mae cadarnhad heddiw y datblygir clwstwr rhagoriaeth yng Nghymru yn atgyfnerthu’n sefyllfa gref ein hunain yn nhwf y dechnoleg bwysig a chynyddol hon.

Wrth gwrs, nid yw llywodraeth yn creu arloesedd, ond fe all fod yn gatalydd ar gyfer dod â’r gwyddonwyr a’r peirianwyr, y dylunwyr a’r entrepreneuriaid ynghyd i wneud iddo ddigwydd.

Mae’r cydweithrediad hwn yn bwysig oherwydd bod arloesi yn ymdrech ar y cyd, ac fe edrychaf ymlaen at weld y clwstwr yn datblygu ac yn creu gwaddol peirianyddol a gweithgynhyrchu parhaol yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Economi, Ken Skates:

Mae’n hynod galonogol mai buddsoddiad £12 miliwn cychwynnol Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r clwstwr yn ôl yn 2015 oedd y catalydd ar gyfer cyhoeddiad heddiw bod IQE yn bwriadu ehangu i gyfleusterau newydd y Fargen Ddinesig. Nid yn unig y mae’n newyddion eithriadol o gyffrous i economi Cymru, gan sicrhau swyddi a buddsoddiad ychwanegol, ond mae hefyd yn atgyfnerthu rhagor ar Gymru fel arweinydd byd yn y dechnoleg hollol arloesol hon.

A chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd yma yn ne-ddwyrain Cymru, rydym yn gwneud yn llawer iawn gwell na’n maint o ran datblygu technoleg sydd nid yn unig â rôl gynyddol hanfodol yn y ffordd rydym yn byw’n bywydau heddiw ond a fydd yn cymell arloesi fydd yn llunio’r byd rydym yn byw ynddo yfory.

Dywedodd y Dr Drew Nelson, Prif Weithredwr IQE ccc:

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn prysur ddiffinio technolegau’r 21ain ganrif, ac mae Cymru mewn safle unigryw i fod yng nghanol y sector diwydiant uwch-dechnoleg, byd-eang hwn.

Bydd y cyfleuster lled-ddargludydd cyfansawdd unswydd bwrpasol hwn rhwng Caerdydd a Chasnewydd yn gweithredu fel elfen allweddol o’r clwstwr blagurol sydd eisoes yn cadarnhau enw da Cymru am arweinyddiaeth mewn technoleg.

Mae’r fenter yn enghraifft ddisglair o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithredu. Mae llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig, ynghyd â’r deg cyngor sy’n ffurfio Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, wedi gweithio’n agos â sefydliadau academaidd a diwydiant i adeiladu seilwaith arloesi fydd yn cefnogi ac yn meithrin y rhanbarth fel grym gwirioneddol fyd-eang mewn technolegau newydd a thechnolegau sy’n datblygu.

Bydd y cyfleuster yn dod yn ganolfan ar gyfer nifer o weithgareddau sy’n gysylltiedig â lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn cynnwys IQE, lle y disgwyliwn ehangu’n capasiti cynhyrchu yn gyflym i ddiwallu’r galw cynyddol am ein technoleg.

Cyhoeddwyd ar 11 September 2017