Ei Mawrhydi y Frenhines yn cymeradwyo’r Sêl Gymreig
Roedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol yn y Cyfrin Gyngor heddiw, 14eg Rhagfyr 2011, lle bu Ei Mawrhydi y Frenhines yn…

Roedd Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn bresennol yn y Cyfrin Gyngor heddiw, 14eg Rhagfyr 2011, lle bu Ei Mawrhydi y Frenhines yn cymeradwyo’r Sel Gymreig.
Dywedodd Mrs Gillan:
“Yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth y Glymblaid gyflawni ei hymrwymiad i gynnal refferendwm, a chanlyniad y refferendwm yw bod gan Gynulliad Cymru bellach rai pwerau deddfwriaethol sylfaenol.”
“Mae gan y Cynulliad bellach bwerau deddfu mewn meysydd datganoledig, a bydd y Sel Gymreig newydd yn dangos bod Ei Mawrhydi wedi rhoi ei chydsyniad i Ddeddfau’r Cynulliad”