Cymorth i Brynu – yn helpu dros 2,000 o bobl yng Nghymru i brynu cartref newydd
Alun Cairns: "Cynllun gwarant morgais yn helpu pobl i brynu tŷ yng Nghymru"

Mae cynllun tai blaenllaw Llywodraeth y DU yn prysur ddod yn gatalydd allweddol i helpu pobl yng Nghymru i gamu ar yr ysgol dai a’i dringo, yn ôl Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, heddiw.
Mae’r ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (3 Mehefin) yn dangos bod cynllun gwarant morgais Cymorth i Brynu wedi helpu 2,179 o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru i brynu cartref newydd.
Lansiodd Llywodraeth y DU Cymorth i Brynu yn 2013 i gefnogi trethdalwyr gweithgar, a oedd yn gallu talu morgais, ond nad oeddent yn gallu fforddio’r blaendaliadau uchel yr oedd y benthycwyr yn gofyn amdanynt.
Ers i’r cynllun gael ei lansio, mae wedi helpu bron i 100,000 [99,601] o bobl ar hyd a lled y DU i gamu ar yr ysgol eiddo a’i dringo.
Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:
Mae nifer o bobl wedi bod yn cael trafferth camu ar yr ysgol eiddo am lawer yn rhy hir.
Mae llwyddiant y cynllun Cymorth i Brynu’n golygu bod hynny’n newid. Mae ffigurau heddiw’n dangos bod miloedd o bobl sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru’n elwa o’r cynllun gwarant morgais, ac yn gwireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ar dŷ.
Rydyn ni wedi ymestyn y cynllun benthyciad ecwiti Cymorth i Brynu tan 2020 yn Lloegr. Er fy mod yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ynghylch ymestyn ei chynllun ei hun, hoffwn weld mwy o fanylion yn cael eu cyflwyno yn gyflym.
Mae angen y sicrwydd hwn ar brynwyr tai a’r diwydiant adeiladu er mwyn i Gymru barhau i gael sector adeiladu tai hyfyw yn y dyfodol.
NODIADAU I OLYGYDDION
Cyfnod y data ar gyfer gwarant morgais (Hydref 13 – Mawrth 15)
Mae’r ffigurau diweddaraf ar gael yma