Datganiad i'r wasg

Dweud eich Dweud ar Brosiect i gefnogi Economi Wledig yng Nghymru

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru wedi annog grwpiau a diddordeb ac aelodau o’r cyhoedd ledled Cymru I ddweud eu dweud ar brosiect y …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Mae David Jones, Gweinidog Swyddfa Cymru wedi annog grwpiau a diddordeb ac aelodau o’r cyhoedd ledled Cymru I ddweud eu dweud ar brosiect y Swyddfa Cymru  sy’n edrych ar yr hyn y gall Llywodraeth y DU ei wneud i gefnogi economiau gwledig yng Nghymru.

Dros yr haf, mae tasglu  Swyddfa Cymru wedi bod yn siarad a busnesau a chymunedau lleol i geisio eu barn a’u hawgrymiadau ar yr hyn a all y Llywodraeth Glymblaid ei wneud i’w cynorthwyo i dyfu yn y cyfnod heriol hwn.

Dywedodd Mr Jones:  “Ers lansio’r prosiect hon yn Sioe Mon fis diwethaf, rwyf wedi bod yn brysur yn cyfarfod ag ystod eang o grwpiau a diddordeb ac yn ymweld a chymunedau lleol ledled Cymru I glywed yr hyn maent yn feddwl y gallwn ni ei wneud i gefnogi ac annog twf.    Rwyf eisoes wedi cynnal cyfarfodydd addysgiadol gydag Undeb Amaethwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr   a Ffederasiwn Busnesau Bach.   Ond rwy’n awyddus i gasglu cymaint o wybodaeth a phosibl, ac mae dal amser i bobl roi eu barn a’u hawgrymiadau inni, ac rwy’n annog unrhyw un sydd a diddordeb yn yr economi wledig i gysylltu a mi erbyn y 17 Medi.

“Mae’r economi wledig yn hanfodol bwysig i Gymru a dyna pam rwyf wedi sefydlu’r gweithgor hwn i edrych ar fusnesau gwledig ac archwilio’u pryderon.   Unwaith y byddwn wedi casglu ac asesu’r holl wybodaeth, byddaf yn ei fwydo’n ol i gydweithwyr yn San Steffan.    Er gwaethaf  sefyllfa heriol arian cyhoeddus, mae’n fwy pwysig fyth bod barn yr economiau gwledig ledled Cymru yn cael eu cynrychioli yn y broses benderfynu.”

Notes

Mae’r prosiect yn edrych ar faterion dan reolaeth y Llywodraeth Glymblaid, a bydd yn ategu gwaith Cynulliad Cymru ar faterion gwledig.

I gyflwyno barn ar yr economi wledig yng Nghymru, e-bostiwch _Wales.Office@walesoffice.gsi.gov.uk _neu ysgrifennwch at:

Swyddfa Cymru
Tŷ Gwydyr
Whitehall
Llundain
SW1A 2NP

Cyhoeddwyd ar 6 September 2010