Stori newyddion

Heddlu Hampshire yw’r heddlu cyntaf i ddefnyddio’r Platfform Cyffredin a’r Gwasanaeth Un Ynad

Heddlu Hampshire yw’r heddlu cyntaf i ddefnyddio ein system rheoli achosion newydd ar gyfer erlyn achosion dan y Weithdrefn Un Ynad (SJP), wrth inni ddechrau cyflwyno’r platfform i’r holl heddluoedd.

Heddlu Hampshire yw’r heddlu cyntaf yn Lloegr i ddefnyddio’r system newydd ar gyfer achosion SJP. Bydd unrhyw un yn y sir sy’n ymateb i gyhuddiad SJP, megis trosedd traffig, yn gallu cofnodi eu ple yn ddigidol. Golyga hyn y bydd modd delio â’u hachos yn gyflym, yn deg ac yn effeithlon heb iddynt orfod mynd i’r llys.

Croesawodd Emily Brown, Arweinydd Tîm yr Uned Cyfiawnder Diannod yn Heddlu Hampshire hyn:

Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein dewis fel yr heddlu cyntaf i ddelio â throseddau traffig gan ddefnyddio’r system newydd hon. Gallaf weld buddion y system hon ar unwaith a bydd yn gwella effeithiolrwydd i’r heddlu a hefyd y trigolion lleol.

Golyga hyn y gellir delio â phobl sydd wedi cael eu cyhuddo o gyflawni trosedd traffig megis goryrru neu yrru heb yswiriant - os ydyn nhw’n pledio’n euog – yn effeithlon a theg, heb fawr o oedi.

Mae’n golygu y gall ein llysoedd lleol ganolbwyntio ar yr achosion sydd wir angen eu gwrando yno, ac i ni fel erlynwyr, rydym yn gallu gweld a gweithredu ar ganlyniadau amser real.

Gwasanaeth Un Ynad

Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am weinyddu achosion SJP a ddarperir drwy’r Platfform Cyffredin, sef ein system newydd ar gyfer rheoli achosion yn ddigidol. Darperir cefnogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth gan Ganolfan Gwasanaethau’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd. Fe’i gynlluniwyd i alluogi GLlTEM a’n partneriaid cyfiawnder reoli a rhannu gwybodaeth am achosion troseddol yn fwy effeithiol. Mae’n sicrhau’r gallu i brosesu achosion yn fwy tryloyw, cyson a chyflym.

Mae SJP yn elfen o’r Gwasanaeth Un Ynad a gyflwynwyd yn 2015, sy’n galluogi ynad unigol i ddelio â throseddau diannod yn unig, ble na ellir rhoi dedfryd o garchar a gyflawnwyd gan oedolion pan maent yn pledio’n ‘euog’ ac achosion ‘profi mewn absenoldeb’ (pan na fydd diffynnydd wedi ymateb i gyhuddiad). Mae yna tua 850,00 o achosion troseddol o’r fath y flwyddyn, sydd bron iawn bob tro yn arwain at gosb ariannol.

Mae’r ynad, gyda chefnogaeth cynghorydd cyfreithiol, yn penderfynu’r achosion hyn y tu allan i’r ystafell llys yn absenoldeb yr erlynydd a’r diffynnydd. Mae hyn yn galluogi’r rheiny sy’n pledio’n euog i gael penderfyniad ar eu hachos heb orfod mynd i’r llys, gan leihau’r oedi ac mae hefyd yn rhyddhau amser y llys i ddelio â’r achosion hynny sydd angen cael eu gwrando yn y llys.

Sut mae’n gweithio?

Bydd manylion troseddau traffig Heddlu Hampshire yn cael eu huwchlwytho yn uniongyrchol i’r system rheoli achosion, a bydd y niferoedd yn cynyddu’n raddol.

Yn syth ar ôl i’r diffynnydd bledio’n euog ar-lein, bydd y system yn blaenoriaethu eu hachos. Gellir prosesu’r ple ar unwaith a ni fydd rhaid i ddiffynyddion ddisgwyl o leiaf 28 diwrnod am ganlyniad, (dirwy, tynnu’r achos yn ôl neu ei gyfeirio i’w wrando yn y llys) sef y drefn ar hyn o bryd.

Bydd cofnodi ple drwy’r post yn parhau i fod yn opsiwn a byddant yn mynd i uned ganolog ac yn cael eu huwchlwytho i’r system.

Gall pob diffynnydd ofyn am wrandawiad yn y llys, p’un a ydynt yn cofnodi ple euog neu ble dieuog.

Bydd ein Canolfan Gwasanaethau’r Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd yn cefnogi diffynyddion a’r llysoedd ynadon sy’n defnyddio’r broses hon, yn hytrach na bod ymholiadau yn mynd i lysoedd unigol. Byddant hefyd yn trefnu gwrandawiadau mewn llysoedd.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Ar hyn o bryd rydym yn cyflwyno’r Platfform Cyffredin ar gyfer achosion troseddol eraill ymhob llys troseddol ledled Cymru a Lloegr, gyda’r bwriad o gwblhau’r broses hon erbyn diwedd 2021.

Mae eisoes yn cael ei defnyddio gan lysoedd i brosesu achosion SJP Transport for London, Trwyddedu Teledu a DVLA, er enghraifft:

  • defnyddio teledu heb drwydded
  • methu â chyflwyno tocyn trên dilys wrth deithio ar wasanaeth trên

Rydym yn bwriadu ymestyn a chyflwyno’r system i erlynwyr sydd ddim yn rhan o’r heddlu, gan gynnwys awdurdodau lleol a chwmnïau cludiant dros y misoedd nesaf.

Bydd perfformiad cyffredinol y system yn cael ei fonitro’n fanwl i sicrhau fod popeth yn gweithio yn ôl y disgwyl, cyn cynyddu’r capasiti yn raddol.

Cyhoeddwyd ar 21 June 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 June 2021 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.