Datganiad i'r wasg

Hanner miliwn o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn elwa o fand eang cyflym iawn

Alun Cairns: Nid oedd y Llywodraeth hon yn fodlon gadael Cymru ar ôl yn yr oes ddigidol

Superfast broadband

  • Cynllun y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn yn cyrraedd dros 3.5 miliwn o gartrefi a busnesau yn y DU.
  • Mae bron i naw allan o bob deg o gartrefi yn y DU nawr yn gallu cael cyflymder rhyngrwyd cyflym iawn, i fyny o 0% yn 2009
  • Mae pob cartref a busnes yn y DU nawr yn sicr o gael cyflymder o 2Mbps o leiaf
  • Band eang wedi’i gyflwyno yn y DU yn gyflymach nag yn unrhyw le arall yn y byd.

Mae cynllun y Llywodraeth i gyflwyno band eang cyflym iawn wedi helpu dros 500,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw (dydd Sul, 27 Rhagfyr 2015).

Diolch i waith sydd eisoes wedi’i wneud gan gangen darparu band eang y Llywodraeth (BDUK) a’r sector masnachol, mae bron i naw o bob deg o gartrefi a busnesau yn y DU bellach yn gallu cael mynediad at gyflymder band eang cyflym iawn. Nawr, disgwylir y bydd y ffigur yn mynd heibio 4 miliwn yn ystod gwanwyn 2016, ac mae’r DU wedi cyflwyno band eang yn gyflymach nag unrhyw le arall yn y byd.

Mae’r cynllun yn cynnig mynediad cyflym iawn – cyflymder rhyngrwyd sy’n fwy na 24 Mbps – i eiddo heb fod yn rhan o rwydweithiau masnachol presennol ac mae ar y trywydd iawn i ddarparu mynediad cyflym iawn i 95 y cant o’r DU erbyn mis Rhagfyr 2017.

Mae cyflymder band eang bron i 3000 o fusnesau yng Nghymru wedi cael hwb drwy gyfrwng y cynllun talebau cysylltu.

Dywedodd Ed Vaizey, Y Gweinidog dros yr Economi Ddigidol:

Mae ein cynllun o gyflwyno band eang cyflym iawn yn un o brosiectau seilwaith mwyaf sylweddol a mwyaf heriol y Llywodraeth yn ddiweddar. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod y DU yn symud ymlaen gyda gofynion yr oes ddigidol, ac mae ein cynnydd sylweddol yn 2015 wedi sicrhau bod gan fusnesau yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i dyfu, a bod gan gartrefi’r dechnoleg i fod yn rhan o’n cymuned fyd-eang ar-lein.

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Nid oedd y Llywodraeth hon yn fodlon gadael Cymru ar ôl yn yr oes ddigidol. Mae’r ffigurau hyn yn dangos cymaint rydym wedi datblygu wrth gyflyno band eang cyflymach, mwy dibynadwy i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

O’n hardaloedd gwledig i ganol ein dinasoedd, mae buddsoddiad y Llywodraeth hon yn helpu i sicrhau bod Cymru wrth galon y cyfnod digidol, yn cystadlu am swyddi a mewnfuddsoddiad.

Mae tirlun digidol y DU wedi parhau i weddnewid yn sylweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan fod nifer o gynlluniau’r Llywodraeth wedi rhoi hwb i gysylltiadau mewn pentrefi bach, pentrefi, trefi a dinasoedd ar hyd a lled y DU.

Yn ogystal â’r cymunedau hynny sy’n elwa o gyflymder band eang cyflym iawn yn sgil y cynllun:

  • Rhoddwyd talebau cysylltiad band eang i oddeutu 55,000 o fusnesau bach mewn 50 o ddinasoedd ar hyd a lled y DU. Mae busnesau sydd wedi elwa o’r cynllun yn dweud eu bod yn gweld cynnydd mewn elw o £1,300 y flwyddyn, ar gyfartaledd, ac mae swydd newydd yn cael ei chreu am bob pedwar cysylltiad newydd.

  • Mae’r Llywodraeth hefyd wedi lansio cynllun newydd gyda’r nod o roi cymorth ar unwaith i’r cymunedau hynny yn y lleoliadau anoddaf eu cyrraedd sy’n dioddef y cyflymder arafaf. Mae pob cartref a busnes yn y DU nawr yn sicr o gael cyflymder cysylltiad band eang o 2Mbs o leiaf ar ôl rhoi cynnig lloeren gyda chymhorthdal ar waith yn llwyddiannus.

  • Mae’r Llywodraeth nawr wedi dechrau gweithio ar gyflwyno Dyletswydd Gwasanaeth Cyffredinol ar gyfer band eang. Yr uchelgais yw rhoi’r hawl cyfreithiol i bobl ofyn am gysylltiad band eang â chyflymder o 10 Mbps, lle bynnag maent yn byw.

Nodiadau i Olygyddion

  1. Band eang yn y DU yw’r gorau o blith y pum economi fwyaf yn Ewrop o ran y ddarpariaeth band eang, y nifer sy’n ei dderbyn, yn ei ddefnyddio, ac o ran dewis a phris.
  2. Roedd y cynllun talebau cysylltiad band eang yn rhoi cyfle i fusnesau wneud cais am grantiau o hyd at £3,000 yr un tuag at y gost o osod band eang gwell a chyflymach.
  3. Am bob £1 y gwnaeth Llywodraeth y DU ei buddsoddi yn y cynllun talebau cysylltiad band eang, bydd dros £5 yn dod yn ôl i economi’r DU.
  4. Amcangyfrifir y bydd 300,000 o eiddo ar hyd a lled y DU yn gallu manteisio ar y cynllun lloeren newydd.
  5. Bydd Dyletswydd Gwasanaeth Cyffredinol yn ‘rhwyd ddiogelwch’ i sicrhau bod aelwydydd a busnesau yn gallu cael y cyflymder band eang sydd ei angen arnynt i wneud busnes ar-lein, cael mynediad at wasanaethau allweddol neu ffrydio teledu byw. Bydd modd uwchraddio hyn dros amser wrth i dechnoleg a’r galw ddatblygu. Bydd y llywodraeth yn ymgynghori ar hyn yn gynnar yn 2016.
Cyhoeddwyd ar 30 December 2015