Datganiad i'r wasg

Guto Bebb: Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i drechu tlodi yng Nghymru

Gweinidog Llywodraeth y DU yn annerch digwyddiad y Fforwm Polisi ar gyfer Cymru

UK Government Minister Guto Bebb MP speaks to the audience at the Policy Forum event

Gwelwyd Gweinidog yn Llywodraeth y DU, Guto Bebb AS, yn datgan ymrwymiad Llywodraeth y DU i drechu tlodi yng Nghymru mewn digwyddiad gan y Fforwm Polisi ar gyfer Cymru yng Nghaerdydd heddiw (12 Hydref).

Dywedodd y Gweinidog wrth gynulleidfa o wleidyddion ac academyddion am weledigaeth y Prif Weinidog i “greu gwlad lle nad oes unrhyw un, nac unrhyw gymuned, yn cael ei gadael ar ôl,” drwy wella mynediad i gyflogaeth a gwneud i bobl fod ar eu hennill mewn gwaith.

Yn ei araith i’r fforwm, dangosodd y Gweinidog yr effaith dda y mae gwell cyflogaeth nag erioed o’r blaen ledled y DU (yn ogystal â 93,00 yn rhagor o bobl mewn gwaith yng Nghymru o gymharu â 2010), a chyflwyno’r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn ei chael ar leihau tlodi absoliwt.

Hefyd siaradodd y Gweinidog am gynlluniau Llywodraeth y DU i leihau nifer y plant sy’n byw mewn teuluoedd heb waith, drwy gyflwyno mesurau statudol i roi sylw i rieni sydd heb waith a chyflawniad addysgol plant, meysydd sy’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i blant difreintiedig.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru:

Mae’r llywodraeth yma wedi ymrwymo’n llwyr i drechu tlodi yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweithredu i greu’r amodau priodol ar gyfer cyflogaeth, gan wneud yn siŵr bod mwy o bobl mewn gwaith ac yn ennill cyflog byw.

Mae diwygio lles yng Nghymru’n trawsnewid bywydau pobl o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig er gwell. Mae’r Credyd Cynhwysol yn symleiddio’r system dreth a budd-daliadau gan gefnogi’r rhai sydd ar yr incwm isaf wrth wneud hynny.

Mae creu’r amodau priodol ar gyfer creu swyddi drwy gyfrwng y Strategaeth Ddiwydiannol uchelgeisiol yn parhau wrth galon blaenoriaethau Llywodraeth y DU. Rwyf yn optimistaidd, wrth i ni adael yr UE, y byddwn yn datblygu partneriaeth newydd a pharhaus sy’n galluogi busnesau ledled y DU i barhau i fasnachu â’u partneriaid yn yr UE.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pa mor bwysig yw argaeledd tai fforddiadwy yn y frwydr yn erbyn tlodi. Dyma pam y cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf y bydd £2 biliwn ar gael er mwyn cynyddu’r stoc o dai fforddiadwy yn Lloegr ac rwyf yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried polisi tebyg os oes angen yng Nghymru.

Gwybodaeth pellach:

  • Roedd y Gweinidog Bebb yn cymryd rhan ym Mhrif Seminar y Fforwm Polisi ar gyfer Cymru – “Trechu tlodi yng Nghymru: diwygio polisi ar ôl Cymunedau yn Gyntaf, gweithredu ac arfer gorau” yng Nghaerdydd ar 12 Hydref.
Cyhoeddwyd ar 12 October 2017