Canllaw ynghylch sgamiau beilïaid a swyddogion gorfodaeth
Mae GLlTEM yn galw ar bobl i fod yn wyliadwrus o dwyllwyr sy'n honni eu bod yn swyddogion gorfodi neu’n feilïaid.

Rydym yn ymwybodol eto o ymdrechion unigolion i dwyllo a sgamio aelodau o’r cyhoedd drwy eu ffonio yn honni eu bod naill ai yn Swyddog Gorfodi’r Uchel Lys (HCEO), yn Asiant Gorfodi Trwyddedig (CEA) neu’n Feili’r llys sirol.
Mewn nifer o achosion maent yn honni eu bod yn feili yn Llys Sirol Northampton.
Maent yn targedu pobl sydd â dyfarniad Llys Sirol am ddyled.
Yn ystod y galwadau, mae’r twyllwyr yn honni bod ar yr unigolyn arian iddynt, ac yn mynnu eu bod yn trosglwyddo arian i gyfrif banc.
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn i drafod gwarant rheolaeth a byddwn yn cynnig cymryd taliadau gyda cherdyn debyd neu gerdyn credyd dros y ffôn.
Fodd bynnag, ni fyddwn byth:
-
yn eich ffonio i ofyn am eich manylion banc, nac
-
yn eich ffonio i ofyn i chi wneud trosglwyddiad banc gan ddefnyddio eich cod didoli a rhif eich cyfrif.
Os bydd unrhyw un sy’n honni ei fod yn Feili’r Llys Sirol, yn HCEO neu’n CEA yn eich ffonio yn gofyn am yr wybodaeth hon, ni ddylech wneud unrhyw daliad ac ni ddylech roi eich manylion banc iddynt.
Yn hytrach, dylech orffen yr alwad a chysylltu â’r canlynol:
-
eich llys sirol lleol, os yw’r galwr yn dweud ei fod yn gweithio fel Beili i GLlTEM. Mae manylion cyswllt llysoedd sirol ar gael ar GOV.UK
-
y cwmni y mae’r unigolyn yn honni ei fod yn gweithio iddo, os yw’r galwr yn dweud ei fod yn HCEO neu CEA. Cysylltwch â Chymdeithas Swyddogion Gorfodi’r Uchel Lys neu Gymdeithas Gorfodi’r Llys Sifil (CIVEA), neu’r ddau ohonynt am fwy o wybodaeth.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef o’r sgam hwn, dylech roi gwybod i Action Fraud ar-lein neu drwy ffonio 0300 123 2040.