Datganiad i'r wasg

Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, yn cyhoeddi Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru

This news article was published under the 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol…

Heddiw, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi cyhoeddi Papur Gwyrdd ar drefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar hyn o bryd mae’r etholaethau a ddefnyddir ar gyfer ethol Aelodau Cynulliad yr un peth a’r etholaethau ar gyfer ethol Aelodau Seneddol. Fodd bynnag mae’r symudiad i Dŷ Cyffredin llai gydag etholaethau sy’n debycach o ran maint yn torri’r cysylltiad hwnnw ac os ceir cymeradwyaeth Seneddol, bydd nifer yr etholaethau Seneddol yng Nghymru yn gostwng o 40 i 30.

Mae’r Papur Gwyrdd:

  • yn edrych ar effaith y newidiadau hyn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
  • yn gofyn a fyddai pobl yn cael gwell gwasanaeth trwy barhau gyda 40 etholaeth Cynulliad ond bod eu ffiniau wedi’u haddasu er mwyn eu gwneud yn debycach o ran maint neu ail-greu’r cysylltiad gydag etholaethau Seneddol trwy newid i fod yn Gynulliad a 30 etholaeth.

Ym mhob achos ni fyddai maint y Cynulliad 60 Aelod yn newid ac felly byddai nifer yr aelodau rhanbarthol yn cynyddu o ddau ddeg i dri deg os byddai’r cysylltiad gyda’r etholaethau yn cael ei ail-greu.

Mae’r Papur Gwyrdd hefyd am gael gwybod safbwyntiau ynghylch:

  • a ddylai fod gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru dymhorau o bedair neu bum mlynedd;
  • dileu’r gwaharddiad ar sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau’r Cynulliad mewn etholaeth a rhanbarth; ac
  • a ddylai Aelodau’r Cynulliad gael eu gwahardd rhag eistedd yn y Senedd.

Mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar 13 Awst 2012 a bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymatebion yn ofalus cyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen.

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Mrs Gillan:

“Mae’r rhaglen o ddiwygio gwleidyddol a ymgymerwyd gennym ni ers ffurfio’r Llywodraeth Glymblaid yn effeithio ar bob rhan o’r Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, fe fydd yn golygu newid y map etholaethol gyda 30 etholaeth Seneddol newydd ac rydym yn awr angen edrych ar effeithiau’r newidiadau hyn ar sut mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithio.

Rwyf am sicrhau fod gennym y strwythurau cywir mewn lle yng Nghymru er mwyn darparu ar gyfer ein dinasyddion ac mae’r cyfnod ymgynghori hwn yn rhoi’r cyfle i bawb gyfrannu eu safbwyntiau. Byddwn yn ystyried canlyniadau’r cyfnod ymgynghori hwn yn ofalus cyn penderfynu pa newidiadau sy’n angenrheidiol.”

“Byddwn yn anelu at gyhoeddi canlyniadau’r ymgynghoriad hwn yn ddiweddarach eleni a byddwn yn gweithio’n agos gyda sefydliadau yng Nghymru wrth ddatblygu ein cynigion. Bydd unrhyw newidiadau a ddaw i’r amlwg yn cael eu gweithredu cyn gynted a phosibl.”