Skip to main content
Stori newyddion

Cystadleuaeth cyllid grant i gefnogi gwasanaeth cymorth digidol GLlTEF

Darllenwch fwy am y gystadleuaeth gyllid a sut y gall sefydliadau wneud cais am gyllid

Mae GLlTEF wedi lansio cystadleuaeth grant newydd i ariannu sefydliadau i ddarparu cymorth digidol i bobl sy’n cael trafferth defnyddio gwasanaethau llysoedd a thribiwnlysoedd ar-lein, boed hynny oherwydd mynediad, sgiliau neu hyder cyfyngedig.

Mae ein Gwasanaeth Cymorth Digidol wedi bod yn mynd rhagddo ers 2022 ac wedi darparu dros 12,000 o sesiynau cymorth i helpu pobl i gael mynediad at ffurflenni ar-lein a’u llenwi.  Fe wnaethom greu’r gwasanaeth i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu gadael ar ôl wrth i fwy o wasanaethau symud ar-lein.

Rydym nawr yn newid sut y bydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn y dyfodol.  Bydd yn parhau i gefnogi defnyddwyr, ond yn hytrach na defnyddio un cyflenwr, byddwn yn ariannu sefydliadau’r trydydd sector trwy gystadleuaeth gyllid i ddarparu cymorth yn eu hardaloedd lleol.

Gwyddom fod pobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol yn aml yn wynebu ystod o rwystrau, gan gynnwys mynediad at dechnoleg, hyder a heriau personol ehangach. Mae cymorth yn gweithio orau pan gaiff ei ddarparu gan sefydliadau sydd â’r arbenigedd cywir a chysylltiadau lleol, gan gynnwys y rhai sy’n gallu cyrraedd pobl nad ydynt efallai yn dod ymlaen am help.

Bydd y grant yn:

  • Helpu pobl sydd wedi’u heithrio’n ddigidol i oresgyn rhwystrau i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein GLlTEF
  • cyrraedd y rhai sydd angen cymorth yr ydym yn gwybod eu bod yn grŵp anoddach i’w gyrraedd
  • sicrhau bod gwasanaethau’n parhau i fod yn deg ac yn hygyrch

Bydd y cyllid yn cael ei rannu ar draws 11 rhanbarth yng Nghymru a Lloegr.  Bydd sefydliadau’r trydydd sector yn gallu gwneud cais am un neu fwy o feysydd.

Os ydych chi’n sefydliad trydydd sector sydd â phrofiad o gefnogi defnyddwyr â gwasanaethau GLlTEF neu gefnogi defnyddwyr sydd wedi’u heithrio’n ddigidol, byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid drwy’r gystadleuaeth grant. Mae manylion llawn, gan gynnwys sut i wneud cais, ar gael ar wefan Find a Grant.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 20 Mai 2026