Datganiad i'r wasg

Grantiau gan y Llywodraeth ar gyfer graddedigion sy’n datblygu gemau

Dyfarnwyd grantiau i lawer o ddatblygwyr ifanc a thalentog y DU sy’n cynhyrchu gemau a allai helpu i ddod â’u creadigaethau i filiynau o gartrefi.

One of the winning teams, "Shuttershade Studios", receiving their award.

Mae Mochi Mode o Gaerdydd (Prifysgol De Cymru) a Shuttershade Studios o Huddersfield (Prifysgol Huddersfield) yn enillwyr Tranzfuser, sef cystadleuaeth dalent ar gyfer graddedigion sy’n cael ei chyllido gan Gronfa Gemau Llywodraeth y DU, lle gwelwyd stiwdios gemau fideo drwy’r wlad sy’n dechrau o’r newydd yn cystadlu am grantiau.

Mae’r ddau dîm a enillodd, ac a dderbyniodd £25,000 bob un, wedi ymuno â phortffolio clodfawr y stiwdios datblygu gemau proffesiynol sy’n gweithio gyda chymuned Cronfa Gemau’r DU.

Dywedodd Matt Hancock, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol:

Mae diwydiant gemau’r DU yn stori o lwyddiant ffantastig ac rydym ni’n dymuno ei weld yn parhau i dyfu o nerth i nerth. Mae rhaglen Tranzfuser wedi’i hanelu at nodi a chefnogi datblygwr gemau ifanc, talentog a’r gemau gwreiddiol ac arloesol y maen nhw’n eu cynhyrchu yma yn y DU.

Y llynedd, datblygodd alumni Tranzfuser eu gêm eu hunain a dymunaf yr un llwyddiant i enillwyr eleni wrth droi eu creadigrwydd yn realiti y gallwn i gyd ei mwynhau.

Yn ystod yr haf, rhoddodd Tranzfuser waith i 23 o dimau, gyda 10 wythnos yn unig i fynd â’u syniad ynglŷn â gêm wych o’r cysyniad at fersiwn chwaraeadwy i’w dangos o flaen 80,000 o ddilynwyr gemau a phanel o feirniaid arbenigol yng ngŵyl gemau fideo fwyaf poblogaidd y DU, sef EGX. Datblygodd y timau bob math o gemau hwyliog ac arloesol, o bosau ar gyfer un chwaraewr at brofiadau rhith-wirionedd maint ystafell ar gyfer nifer o chwaraewyr.

Ar ôl derbyn grant o £5,000 gan Gronfa Gemau’r DU, datblygodd y timau eu gemau gyda chefnogaeth werthfawr a gafodd ei darparu gan rwydwaith o Ganolfannau Lleol Tranzfuser ledled y wlad a oedd wedi cael eu lleoli yn rhai o’r prifysgolion gorau ar gyfer dylunio a datblygu gemau fideo.

Syfrdanodd Mochi Mode y beirniaid a’r cyhoedd fel ei gilydd gyda’u gem un cyffyrddiad syml o weledolion disglair lle mae chwaraewyr yn rheoli buches o wartheg. Mae’r lleoliad yn newid i wahanol leoedd drwy’r Gorllewin Gwyllt, ond yr un yw’r nod: mae’n rhaid i chwaraewyr arwain y fuches i le diogel drwy amrywiaeth o rwystrau lliwgar yn y gêm arcêd hwyliog hon.

Dywedodd Laura Wells, Arweinydd Tîm yn Mochi Mode:

Ar ôl graddio, mae’n anodd gwybod pa gamau a fydd yn eich helpu chi i ‘dorri drwodd’ i’r diwydiant gemau. Roedd hynny yn arbennig o wir inni gyda’r dyhead i ddechrau ein stiwdio ein hunain. Mae Tranzfuser wedi darparu canllawiau inni ar adeg hanfodol yn ein datblygiad. Yn bwysicach, mae wedi ein galluogi ni i gynhyrchu ychydig bach o hud!

Tîm o raddedigion o Brifysgol Huddersfield yw Shuttershade Studios. Creodd y grŵp bychan o bedwar o bobl gêm rhith-wirionedd sef VR Party Ware, a oedd yn cynnwys casgliad o amrywiol gemau mini yn bennaf. Gall chwaraewyr gystadlu yn fyd-eang drwy system bwrdd sgorio ar-lein neu’n lleol gyda’u ffrindiau eu hunain mewn amgylchedd cystadleuol hamddenol.

Dywedodd Marcus Nicols o Shuttershade Studios:

Mae ennill Tranzfuser wedi cael effaith arnaf i, a’r tîm cyfan yn Shuttershade Studios a newidiodd fy mywyd yn ogystal â bywydau’r tîm. Yn awr, rydym yn gallu gweithio yn swyddi ein breuddwydion sy’n golygu ychydig iawn o gysgu, ond byddwn yn cael llawer iawn o hwyl yn datblygu ein gemau fideo ein hunain. Hon yw’r swydd fwyaf amrywiol yr ydym ni i gyd wedi’i chael ac ni fyddem yn ei newid am y byd.

Mae’r Tranzfuser Accelerator yn newydd ar gyfer 2017, sef rhaglen unigryw lle mae timau o’r rhai a oedd yn ail orau o’r gystadleuaeth yn derbyn pecynnau ymgynghorol wedi’u teilwra yn arbennig er mwyn rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw ymgeisio yn llwyddiannau i Gronfa Gemau’r DU.

Mae Cronfa Gemau’r DU a Tranzfuser yn cael eu cyllido fel rhan o raglen gyllido datblygu gemau a thalent £4m Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn 2016, ac mae’n cael ei rhedeg gan Gwmni Buddiannau Cymunedol Talent a Chyllid Gemau’r DU.

Dywedodd Paul Durrant, sylfaenydd Talent a Chyllid Gemau’r DU:

Bu’r timau i gyd yn gweithio yn galed ar ôl sicrhau eu lle ar Tranzfuser 2017. Mae pob un yn o’r 23 tîm wedi ymdrechu yn enfawr ac mae pob un wedi elwa yn sylweddol o ddysgu o’r byd go iawn drwy gydol y gwaith. Y timau a enillodd oedd y rhai a oedd wedi rheoli cwmpas eu prosiectau, wedi rhannu amcan creadigol drwy’r tîm ac wedi deall y gynulleidfa darged ar gyfer eu gemau penodol yn y ffordd orau.

DIWEDD

Nodiadau ar gyfer Golygyddion:

  1. Mae llawer o stiwdios sy’n dechrau o’r newydd yn brin o gyfalaf i helpu datblygu eu syniadau a denu buddsoddiad preifat. Yn awr ar ei ail flwyddyn, crëwyd Tranzfuser i bontio’r bwlch hwnnw a galluogi datblygwyr i symud eu syniadau o’r bwrdd dylunio at gynhyrchu.
  2. Mae pedwar o aelodau yn stiwdio Mochi Mode - arweinydd y tîm a’r dylunydd Laura Wells, y rhaglennwr Liam Jones, yr arlunydd Thomas Woodward a’r animeiddiwr Amy Baldwin a’r dylunydd lefelau, Kevin Ho. Maen nhw’n anelu at ddatblygu gemau hoffus bychain ar gyfer marchnadoedd apiau.
  3. Yn ogystal, yn y seremoni, roedd dangosiad cyfyngedig o raglen ddogfen gyntaf erioed gan Tranzfuser; ffilm hir 30 munud o ansawdd darlledu yn dilyn hynt y gystadleuaeth drwy’r haf a siwrnai’r cystadleuwyr o fod yn ymgeisydd at fod yn ddatblygwr gemau proffesiynol.
  4. Mae cystadleuaeth Tranzfuser yn unigryw drwy fod yn rhaglen ar gyfer talent drwy’r DU gyfan sy’n cysylltu yn uniongyrchol â chronfa brototeip sy’n galluogi timau newydd i elwa o grantiau a rhyngweithio gyda chymheiriaid, gyda llu o gwmnïau datblygu gemau eraill yn eu camau cynnar. Hyd yma, mae 85% o wariant Cronfa Gemau’r DU a Tranzfuser wedi cael ei wario’r tu allan i Lundain.
  5. Mae timau a dderbyniodd gefnogaeth gan Gronfa Gemau’r DU yn y Transfuzer cyntaf yn 2016 yn awr yn stiwdios llwyddiannus. Mae Cold Sun Studios a Miracle Tea Studios fel ei gilydd yn gweithio tuag at ryddhau eu prosiectau a gafodd eu cyllido.
  6. Y tu allan i Tranzfuser, mae Cronfa Gemau’r DU yn cefnogi cwmnïau ifanc sy’n sefydlu er mwyn gallu ymgeisio am gyllid. Mae cwmnïau fel White Paper Games (wedi’i leoli ym Manceinion) a Coatsink (wedi’i leoli yn Sunderland) yn rhagori fel datblygwyr gemau annibynnol sefydledig.

Dyfyniadau ychwanaegol

Ers cael ei ddewis ar gyfer cyllid am y tro cyntaf, mae Coatsink wedi tyfu yn sylweddol, gyda bron i 50 o weithwyr yn y busnes a chynlluniau ar gyfer cynyddu’r rhif hwnnw ymhellach yn ystod yr ychydig chwarteri nesaf. Rhyddhawyd eu teitl rhith-wirionedd diweddaraf, yr Augmented Empire, a gafodd ei gymeradwyo yn feirniadol, ym mis Gorffennaf.

Dywedodd Eddie Beardsmore, Prif Swyddog Gweithrediadau Coatsink:

Ehangodd Coatsink yn gyflym yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Oherwydd ein hamserlen prosiectau presennol o dros ddwsin o deitlau - y cyfan ohonyn nhw ar gamau amrywiol o ddatblygiad - rydym yn ystyried cyflogi 15-20 o ddatblygwyr eraill erbyn mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Rydym yn parhau i ddatblygu ar gyfer llwyfannau lluosog a chyhoeddwyd partneriaeth gyda Nintendo i ddod â’n platfformwr annwyl gan bawb, sef Shu, i’r Nintendo Switch yn ddiweddarach eleni. Mae Cronfa Gemau’r DU wedi darparu cefnogaeth anferth i’r stiwdio ac ni fyddem yn y sefyllfa ryfeddol hon heb eu cymorth nhw.

Mae White Paper Games, sef tîm o gydweithwyr graddedig a gefnogwyd gan YEAR (y rhagflaenydd i Gronfa Gemau’r DU) yn gwneud yn anhygoel o dda, ac ar fin rhyddhau gem y mae disgwyl mawr amdani sef The Occupation.

Dywedodd Pete Bottomley, Cydsylfaenydd White Paper Games:

Mae gweithio gyda Chronfa Gemau’r DU wedi bod yn brofiad gwych. Mae’r gronfa wedi rhoi amser ychwanegol inni i wella ansawdd a dyluniad y gêm, a oedd yn y pen draw, yn ein galluogi i’w chyhoeddi mewn sefyllfa gref. Roedd hyn yn allweddol i lwyddiant cynnar a diddordeb The Occupation, a heb hwn, nid wyf yn credu y byddem ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi yn awr. Ni allaf gymeradwyo a chanmol digon ar y gronfa.

Y 23 tîm a’r canolfannau a oedd yn cymryd rhan eleni oedd:

Teesside Launchpad, Prifysgol Teesside (Gogledd-ddwyrain Lloegr)

Fox Byte Games


Ysgol Gyfryngau Futureworks (Gogledd Orllewin Lloegr)

Broken Pixel Studios 
 Foxtrot 203

Prifysgol Bradford* (Gorllewin Swydd Efrog) 


Gebba Games


Prifysgol Huddersfield, Tîm Menter (Gorllewin Swydd Efrog)

Giant Games 
 Nocturnals 
 Shuttershade Studios

Prifysgol Sheffield Hallam (De Swydd Efrog) 


Final Forge 
 Inside Out Games 
 Grim Inc 


Prifysgol Brunel (Llundain)

A Loaded Teaspoon 
 Drift 
 Slime Time Studios

Slime Time Studios 
Canolfan Fenter Ddwyreiniol (De-ddwyrain Lloegr) 


IndieByte


Prifysgol Wrecsam Glyndŵr (Gogledd Cymru) 


Ethereal 
 Round Square Studios 
 Static Shell Studios 


Prifysgol De Cymru (De Cymru) 


Mochi Software 
 Dark Planet Studios 
 Filthy Fresh 
Northern Ireland Screen (Gogledd Iwerddon) 
 No Piknik


Prifysgol Abertay (Dwyrain yr Alban)

Pocket Sized Hands

Prifysgol Glasgow Caledonian (Gorllewin yr Alban)

Pioneer Games

Cyhoeddwyd ar 6 November 2017