Cytundeb newydd rhwng y Llywodraethau ar drefn ariannu Cymru
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd heddiw sy’n amlinellu ymrwymiadau newydd ar ariannu yng…
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd heddiw sy’n amlinellu ymrwymiadau newydd ar ariannu yng Nghymru.
Am y tro cyntaf, mae’r ddwy Lywodraeth wedi ffurfio barn gyffredin ar sut y mae cyllid y pen yng Nghymru a Lloegr wedi cydgyfeirio yn y gorffennol ynghyd a’r duedd debygol yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru hefyd wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, gael pwerau benthyca cyfalaf ar yr amod bod yna ffrwd refeniw annibynnol, megis pwerau trethu, i’w cefnogi- mae Comisiwn Silk yn ystyried hynny ar hyn o bryd.
Dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander:
“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn golygu bod yna gytundeb mewn egwyddor i roi pwerau benthyca cyfalaf datganoledig i Lywodraeth Cymru. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar lwybr datganoli i bobl Cymru, a bydd yn dod a manteision sylweddol iddynt. Rwy’n hynod falch bod y ddwy Lywodraeth wedi cydweithio’n agos i sicrhau’r canlyniad da hwn i Gymru.”
Dywedodd Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Jane Hutt:
“Mae’r datganiad yr ydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn cynnwys ymrwymiad newydd gan y ddwy Lywodraeth i adolygu trywydd cyllid cymharol Cymru yn Adolygiadau Gwariant y dyfodol. Rwy’n croesawu’r penderfyniad mewn egwyddor i ddatganoli pwerau benthyca cyfalaf, a dylai hynny roi arf ychwanegol i Lywodraeth Cymru er mwyn sbarduno twf economaidd.”
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
“Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi hyder i bobl Cymru bod y ddwy Lywodraeth wedi gwneud cynnydd ar drefniadau ariannu Cymru. Yn ogystal a’r pwerau benthyca cyfalaf mewn egwyddor, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y pryder yng Nghymru ynghylch y cydgyfeirio hirdymor, ac mae wedi ymrwymo i ystyried yr opsiynau er mwyn mynd i’r afael a hyn unwaith y bydd yn ailgychwyn.”
“Mae’r ymrwymiadau sy’n cael eu gwneud heddiw yn gosod sylfaen gref ar gyfer cydweithio a Llywodraeth Cymru wedi i Gomisiwn Silk gyflwyno ei adroddiad i mi fis nesaf.”