Stori newyddion

Llywodraeth yn lansio adolygiad o DVLA i gryfhau’r asiantaeth ar gyfer y dyfodol

Bydd adolygiad annibynnol yn sicrhau bod DVLA yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth trwyddedu i fodurwyr a’r cyhoedd.

  • bydd yr adolygiad annibynnol yn sicrhau bod DVLA yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth trwyddedu i fodurwyr a’r cyhoedd
  • mae’r adolygiad yn rhan o raglen ehangach y llywodraeth sy’n ymchwilio i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyrff cyhoeddus
  • bydd DVLA yn cael ei asesu ar effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, atebolrwydd a llywodraethiant – y 4 piler a osodir gan Swyddfa’r Cabinet

Mae’r llywodraeth heddiw (25 Gorffennaf 2023) wedi lansio adolygiad annibynnol o’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn iddi allu parhau i ddarparu gwasanaethau digidol ardderchog wedi’u canolbwyntio ar y cwsmer i gadw gyrwyr a cherbydau ar y ffordd yn syml, yn ddiogel ac yn effeithlon.

 dros 50 miliwn o gofnodion gyrwyr a mwy na 40 miliwn o gofnodion cerbydau, mae DVLA yn cynnal cofrestru a thrwyddedu cywir miliynau o yrwyr tra’n diogelu data a mynd i’r afael ag osgoi treth cerbyd.

Mae DVLA hefyd yn casglu £7 biliwn mewn treth cerbyd (VED) yn flynyddol ar ran Trysorlys EF ac mae’n gyfrannwr net at gyllid llywodraeth, gan godi mwy na £260 miliwn yn 2022-23 i Drysorlys EF a’r Adran Drafnidiaeth (DfT) trwy werthu a phrosesu cofrestriadau a throsglwyddiadau personol.

Bydd yr adolygiad yn asesu DVLA yn seiliedig ar y 4 piler a osodir gan Swyddfa’r Cabinet Office o effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, atebolrwydd a llywodraethiant. Mae rhagor o fanylion am feysydd y bydd yr adolygiad yn eu cwmpasu i’w canfod yn y cylch gorchwyl.

Mae Janette Beinart, cyfarwyddwr anweithredol Swyddfa’r Cabinet a Phriffyrdd Cenedlaethol ac yn Ddirprwy Lywydd a Phrif Swyddog Gwybodaeth Fyd-eang gynt yn Shell International, wedi cael ei phenodi i arwain yr adolygiad â chymorth gan swyddogion DfT. Disgwylir i’r adolygiad orffen y gaeaf hwn.

Dywedodd y Gweinidog Ffyrdd Richard Holden:

Mae DVLA yn chwarae rhan hollbwysig mewn sicrhau bod gyrwyr a cherbydau yn gallu mynd o gwmpas yn gyfreithlon, yn ddiogel ac â hyder, gan roi tawelwch meddwl i yrwyr trwy storio’u cofnodion yn ddiogel a mynd i’r afael ag osgoi treth cerbydau.

 dros 80% o’r holl drafodion yn cael eu cyflawni ar-lein yn awr, bydd yr adolygiad hwn yn ein helpu i ddeall sut y mae DVLA yn gallu parhau i dyfu o nerth i nerth a sut y gallwn ei chynorthwyo i ddod yn fwy digidol i wasanaethu’r gyrwyr cynyddol wybodus am dechnoleg yn effeithlon.

Bydd yr adolygiad hefyd yn asesu sut mae DVLA yn gweithio gyda’i amrediad eang o randdeiliaid o fewn a’r tu allan i lywodraeth i helpu cadw ffyrdd Prydain yn ddiogel.

Dywedodd Cadeirydd Anweithredol DVLA, Lesley Cowley OBE:

Mae’n cwsmeriaid yn parhau wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn DVLA ac rydym yn croesawu’r adolygiad hwn fel cyfle i amlygu ein hymrwymiad at gyflawni gwasanaethau gyda’r gorau yn y byd, ein rôl mewn cadw ffyrdd Prydain yn ddiogel, a gwaith caled ac ymrwymiad parhaol ein staff o dros 6,000.

Mae’n dod ar adeg bwysig i DVLA, wrth inni barhau i lansio gwasanaethau digidol newydd a gosod targedau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol, fel sefydliad dynamig, sy’n meddwl ymlaen.

Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda’r llywodraeth i gynorthwyo’r adolygiad hwn dros yr wythnosau a’r misoedd sydd i ddod.

Ymholiadau cyfryngau ffyrdd

Ymholiadau’r cyfryngau 020 7944 3021

Ymholiadau’r cyfryngau y tu allan i oriau 020 7944 4292

Switsfwrdd 0300 330 3000

Cyhoeddwyd ar 25 July 2023