Y Llywodraeth yn “ymladd nerth deng ewin” dros adferiad economaidd sefydlog, meddai Ysgrifennydd Cymru
Mae ffigurau cyflogaeth heddiw yn tanlinellu’r pwysigrwydd o gael dwy lywodraeth yn cydweithio er budd Cymru, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd…
Mae ffigurau cyflogaeth heddiw yn tanlinellu’r pwysigrwydd o gael dwy lywodraeth yn cydweithio er budd Cymru, meddai Cheryl Gillan, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw.
Wrth wneud y sylw yn sgil y ffaith bod yr ystadegau diweddaraf yn dangos bod lefelau Cyflogaeth yng Nghymru wedi gostwng a bod diweithdra wedi cynyddu, galwodd Mrs Gillan am fwy o gydweithredu rhwng gweinidogion yn Llundain a gweinidogion yng Nghaerdydd er mwyn creu’r amodau iawn ar gyfer twf a swyddi.
Dywedodd Mrs Gillan: “Wrth gwrs, mae ffigurau heddiw yn siomedig ond nid ydynt yn syndod. Nid ydym yn ddiogel rhag yr heriau sy’n wynebu Ardal yr Ewro, ond rydw i’n sicr y byddai’r DU mewn sefyllfa waeth heb y cynllun sefydlogi a bennwyd gan y Llywodraeth hon. Mae’r Llywodraeth hon yn ymladd nerth deng ewin dros adferiad economaidd, amodau gwell ar gyfer masnachu a thwf a mwy o gyfleoedd i bobl ifanc.
“Rydym hefyd yn delio a methiannau’r gorffennol. Roedd mwy ynghlwm wrth ddiwylliant rhywbeth am ddim y blaid Lafur na dim ond y Llywodraeth yn benthyg arian nad oedd gennym. Methwyd mynd i’r afael a budd-daliadau felly roedd yn haws i beidio gweithio, collwyd rheolaeth ar fewnfudo a methwyd a gwella’r system addysg.
“Mae cyfle gwirioneddol yng Nghymru i’r ddwy lywodraeth wneud gwahaniaeth. Drwy weithio gyda’n gilydd yn y meysydd rydym yn gyfrifol amdanynt, gall gweinidogion yn Llundain ac yng Nghaerdydd fwrw ymlaen a’r polisiau i gael mwy o bobl yn ol i fyd gwaith.
“Nid ydym erioed wedi dweud y byddai’n hawdd, ond rydym yn canolbwyntio ar greu’r amgylchedd iawn a fydd yn caniatau i fusnesau dyfu. Fel y nododd fy nghydweithiwr gweinidogol, Chris Grayling heddiw, mae cam nesaf strategaeth y Llywodraeth ar gyfer mynd i’r afael a diweithdra yn cael ei lansio ledled y DU heddiw. Bydd cronfa Lwfans Menter Newydd gwerth £80m yn helpu 40,000 o bobl ifanc i sefydlu busnesau dros y ddwy flynedd nesaf.
“Rydym am ddarparu cyfleoedd newydd i bobl ifanc sy’n awyddus i ddechrau eu busnes eu hunain. Mae’n iawn ein bod yn darparu gymaint o adnoddau ag y gallwn i bobl ifanc sy’n awyddus i wneud yn well ac i gyfrannu at y farchnad waith a’n bod yn buddsoddi gymaint ag y gallwn yn y cyswllt hwn. Ond dylem hefyd fuddsoddi mwy o ffydd yn eu gallu. Rhaid i ni gofio bod cronfa enfawr o frwdfrydedd a thalent newydd ar gael i ni fel cyflogwyr a buddsoddwyr. Drwy A4E a GLE yng Nghymru, gall pobl ifanc fanteisio ar fentoriaid busnes a chymorth ariannol sy’n amhrisiadwy o ran meithrin talent y bobl ifanc dan sylw fel bod modd iddynt gymryd y cam mawr i ddechrau eu busnes eu hunain a, gyda gobaith, darparu cyfleoedd tebyg i bobl ifanc eraill.”
Dywedodd Chris Grayling, y Gweinidog dros Gyflogaeth: ** **
“Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i roi hwb i fentergarwch. Mae’r Lwfans Menter Newydd yn eithriadol o bwysig nid yn unig o ran helpu’r rhai sy’n ddi-waith ond hefyd o safbwynt annog cenhedlaeth newydd o fusnesau a allai, eu hunain, fod yn gyflogwyr yn y dyfodol.
“Mae’r cynllun yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pobl ddi-waith sydd a syniad da yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i symud i fyd hunangyflogaeth a hefyd bod cyngor ac arweiniad ar gael yn rhwydd i fusnesau bach newydd o bob math ledled y wlad. Rydym am weld busnesau profiadol yn torchi eu llewys ac yn rhoi help llaw i entrepreneuriaid newydd.”
Nodiadau i olygyddion:
- Mae’r Llywodraeth yn benderfynol o fynd i’r afael a diweithdra ymysg pobl ifanc ac mae eisoes wedi lansio nifer o fentrau i helpu pobl ifanc ddychwelyd i’r farchnad lafur. Diolch i’r cynlluniau hyn, bydd 350,000 o bobl ifanc yn cael help yn y ddwy flynedd nesaf.
- Mae profiad gwaith yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc weithio mewn busnes am gyfnod o hyd at wyth wythnos. O ganlyniad, mae 50 y cant o’r rhai sy’n cymryd rhan yn dod oddi ar fudd-daliadau ymhen mis ar ol cwblhau’r rhaglen.
- Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Llywodraeth bod academiau gwaith seiliedig ar sector bellach wedi’u sefydlu ac ar waith ledled y wlad. Byddant yn cynnig rhaglen sy’n gyfuniad o hyfforddiant go iawn, profiad gwaith a sicrwydd o gyfweliad a fydd yn darparu llwyfan arall y gall pobl ifanc ei ddefnyddio i gael swydd. At ei gilydd, bydd oddeutu 150,000 o leoliadau profiad gwaith neu leoliadau mewn academiau gwaith seiliedig ar sector ar gael dros y ddwy flynedd nesaf i helpu pobl ifanc.
- Yn 2011-12 bydd y Llywodraeth yn cynyddu’r cyllid fydd ar gael ar gyfer prentisiaethau i dros £1.4bn. Bydd yn cydweithio a chyflogwyr i sicrhau bod mwy o gyfleoedd hyfforddiant o safon uchel ar gael i bobl ifanc.
- I gael rhagor o wybodaeth am Ystadegau’r Farchnad Lafur, edrychwch yma** **