Stori newyddion

#GwylDewiBydEang

Ddydd Gŵyl Dewi eleni, helpwch ni i ddathlu effaith gadarnhaol Cymru ar draws y byd, a'r bobl sy'n gwneud hynny’n bosibl.

Flag

Wales flag

Ar 1 Mawrth, byddwn yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi drwy roi sylw i’r gwaith gwych a phellgyrhaeddol a wneir yn rhyngwladol gan bobl Cymru ac unrhyw un sy’n gysylltiedig â Chymru, drwy rannu cynnwys ar Twitter a Facebook a defnyddio #GwylDewiBydEang.

Bydd staff yn llysgenadaethau rhyngwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghyd â’n lluoedd arfog a gweithwyr dyngarol yn rhan o’r dathliad byd-eang hwn, ac byddem wrth ein bodd pe baech chi’n ymuno.

Cymryd rhan

Dywedwch wrth y byd am rywun ysbrydoledig sy’n gweithio dramor ddydd Gŵyl Dewi eleni, neu os ydych chi’n Gymro neu’n Gymraes neu bod gennych chi gysylltiad â Chymru a’ch bod chi dramor, dywedwch wrthym beth rydych chi’n ei wneud.

Os ydych chi’n gyflogwr, trydarwch neges i ddiolch i’ch staff dramor.

Dyma rai enghreifftiau i’ch helpu chi i gychwyn arni:

  • Diolch i [rhywun rydych chi eisiau diolch iddo/iddi] sy’n treulio #GwylDewi [sut maen nhw’n treulio Dydd Gŵyl Dewi] #GwylDewiBydEang @LlywDuCymru

  • GwylDewi eleni rydym yn dathlu effaith Cymru ar draws y byd a’n holl staff sy’n rhan o hynny. #GwylDewiBydEang @LlywDuCymru

  • GwylDewi eleni, rydw i yn [lle/gwlad], lle’r ydw i’n [beth rydych chi’n ei wneud ac i bwy rydych chi’n gweithio]. #GwylDewiBydEang @LlywDuCymru

  • I’n holl staff â chysylltiadau â Chymru, diolch i chi am y gwaith gwych rydych chi’n ei wneud ar draws y byd. #GwylDewiBydEang @LlywDuCymru

Rhannu cynnwys:

Byddwn yn rhannu llawer o gynnwys ar y diwrnod; dilynwch ni ac ymunwch yn yr hwyl ar:

Facebook

Twitter

Cyhoeddwyd ar 26 February 2018