Datganiad i'r wasg

Hybu'r momentwm ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru

Guto Bebb yn ymweld er mwyn hyrwyddo’r gefnogaeth gan Lywodraeth y DU i economi gogledd Cymru

Mae’n bryd i ogledd Cymru fod yn bwerdy economaidd, dyma fydd gan Weinidog Llywodraeth y DU, Guto Bebb, i’w ddweud wrth iddo gychwyn ar ymweliad deuddydd er mwyn ysgogi trafodaethau am fargen twf i’r rhanbarth.

Bydd Mr Bebb yn cwrdd ag arweinwyr busnes a chynrychiolwyr awdurdodau lleol ac addysg uwch i drafod eu gweledigaeth ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru ac i dynnu sylw at gefnogaeth Llywodraeth y DU i economi’r ardal.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi rhoi’r Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n werth £1.2 biliwn ar waith. Yn gynharach eleni, llofnododd y Prif Weinidog Fargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

Mae’r Llywodraeth yn troi ei golygon yn awr at sicrhau bargen twf ar gyfer gogledd Cymru, gan weithio gyda phartneriaid lleol a Llywodraeth Cymru i nodi’r ffordd orau o gryfhau economi’r rhanbarth a gwneud y mwyaf o’i gysylltiadau â Phwerdy Gogledd Lloegr.

Dywedodd Guto Bebb, Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru:

Hanfod y Fargen Ddinesig a’r Fargen Twf yw chwyldroi’r ffordd mae ein trefi a’n dinasoedd yn llywodraethu eu hunain, gan symud pwerau i lawr o Whitehall a Bae Caerdydd a’u rhoi i arweinyddion lleol sydd mewn sefyllfa well i wneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu cymunedau.

Dyma gyfle gogledd Cymru i fanteisio ar y symudiad hwn. Rwy’n awyddus i weld pa gynnydd sy’n cael ei wneud o ran datblygu’r weledigaeth ar gyfer dyfodol economaidd y rhanbarth.

Rydym yn awyddus i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, bwrdd uchelgais economaidd lleol, sefydliadau addysgol ac awdurdodau lleol er mwyn cytuno ar fargen newydd a fydd yn llwyddo i hybu twf ar draws y rhanbarth.

Rwy’n sicr y bydd gan arweinyddion lleol yng ngogledd Cymru yr uchelgais i gyflawni hyn, ac rwy’n benderfynol o weld y pwerau a’r adnoddau’n cael eu trosglwyddo iddynt allu datblygu eu heconomi.

Bydd Mr Bebb yn defnyddio’r cyfarfodydd i atgyfnerthu’r neges fod gan ogledd Cymru gyfle unwaith mewn oes i elwa ar y manteision a ddaw gyda Phwerdy Gogledd Lloegr.

HYchwanegodd:

Mae Pwerdy Gogledd Lloegr, ynghyd â bargen twf, yn cynrychioli ein cyfle gorau i ddod â newid trawsnewidiol i ogledd Cymru. Mae’r rhanbarth mewn sefyllfa berffaith i elwa o Bwerdy Gogledd Lloegr. Mae ei safle allforio a’i enw da am brosiectau ynni mawr yn gwneud y rhanbarth yn bartner perffaith ar gyfer cydweithredu gwell er mwyn ehangu economi’r Gogledd.

Dyma’r arbenigeddau a’r cysylltiadau y mae’n rhaid i arloeswyr Bargen Twf Gogledd Cymru adeiladu arnynt. Nhw sydd wrth y llyw i gyflawni hyn.

Wrth i’r Gweinidog ymweld â gogledd Cymru, caiff gyfle hefyd i ymweld â dau gwmni sy’n arwain y ffordd mewn gwaith ymchwil a chynllunio arloesol i gefnogi Gŵyl Arloesedd Cymru.

Bydd yn gweld byd academaidd a diwydiannol yn uno yn ystod ei ymweliad â Chanolfan Dechnoleg Optic ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn Llanelwy – canolfan ymchwil ac uned deor busnesau sydd wedi creu dwsinau o gwmnïau technolegol iawn a channoedd o swyddi gwyddonol o safon uchel dros y 12 mlynedd diwethaf.

Dywedodd yr Athro Maria Hinfelaar, Is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam:

Mae Canolfan OpTIC yn rhoi Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wrth galon y diwydiant gwyddoniaeth a thechnoleg yng ngogledd Cymru.

Mae’n wych bod yn rhan o waith ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf ac mae rôl y ganolfan fel man canolog ar gyfer deor yn hanfodol i ysgogi’r brifysgol i gefnogi entrepreneuriaeth. Mae OpTIC Glyndwr eisoes yn chwarae rôl hollbwysig yn yr helics triphlyg sef academia-diwydiant-llywodraeth a fydd yn helpu i greu swyddi a datblygu economi’r rhanbarth.

Bydd Mr Bebb yn ymweld wedyn ag Qioptiq yn Llanelwy a enillodd gontract werth £82m gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ddiweddar i gynnal a chadw offer targedu a chadw golwg ar gyfer Lluoedd Arfog y DU.

Dywedodd Peter White, Rheolwr Gyfarwyddwr Qioptiq:

Mae Llanelwy yng Ngogledd Cymru yn gartref i un o’r clystyrau mwyaf yn y DU o arloeswyr optegol ac optronig uwch-dechnoleg ac mae Qioptiq wedi bod yn gatalydd ar gyfer llawer ohonynt. Mae ennill contract mawr fel hwn yn darparu sicrwydd i ni ac yn ein galluogi i fuddsoddi yn y seilwaith ac yn ein pobl ac mae hyn yn ei dro yn helpu’r economi leol a’n cadwyn gyflenwi. Rydyn ni’n adnabyddus ar hyd a lled y byd am ein technoleg, ein gallu a’n harloesedd ac mae hyn yn glod mawr i’r DU.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion: Ar 6 Medi 2016, cyhoeddodd chwe awdurdod lleol gogledd Cymru a phrif sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch y rhanbarth A Growth Vision for the Economy of North Wales.

Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar ddatblygu’r clystyrau economaidd digidol, uwch weithgynhyrchu ac ynni yn rhanbarth gogledd Cymru fel ffordd o gymell twf economaidd a chodi lefel cynhyrchiant. Mae’r weledigaeth yn canolbwyntio ar wella’r seilwaith digidol a chludiant, gan ddatblygu sylfaen sgiliau’r rhanbarth a hyrwyddo twf busnesau. Gallwch weld y weledigaeth yma.

Cyhoeddwyd ar 27 June 2017