Skip to main content
Stori newyddion

Yr ASB ac FSS yn cyhoeddi map ffordd ar gyfer busnesau bwyd sy’n allforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban (FSS) wedi cyhoeddi canllawiau newydd heddiw i helpu busnesau i lywio’r broses o allforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd o Brydain Fawr i wledydd y tu allan i’r UE.

Image of a cell cultivated kebab.

Cafodd y canllawiau eu datblygu drwy raglen blwch tywod yr ASB ac FSS ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd, ac maen nhw’n dwyn ynghyd ofynion allforio o bob rhan o’r llywodraeth – gan gynnwys Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF), yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), yr Adran Busnes, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Masnach (BIST), ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) – i greu un map proses ar gyfer busnesau.

Mae’r canllawiau’n nodi’r camau ymarferol y bydd angen eu hystyried os bydd cwmni’n bwriadu allforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid, a wneir drwy feithrin celloedd. Mae’r camau hyn yn cynnwys gwirio cymhwystra gwlad y gyrchfan, cadarnhau gofynion ar gyfer sefydliadau ym Mhrydain Fawr, ardystio iechyd allforio, cyflwyno datganiadau tollau, rheoli’r gadwyn oer, labelu, a chadw dogfennau.

Dywedodd Dr Thomas Vincent, Dirprwy Gyfarwyddwr y Blwch Tywod ac Arloesi yn yr Asiantaeth Safonau Bwyd:

Mae busnesau wedi dweud bod deall y broses allforio drawslywodraethol yn flaenoriaeth, felly rydyn ni wedi gweithio ar draws y llywodraeth i esbonio’r llwybr ar gyfer allforio cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd o Brydain Fawr i farchnadoedd y tu allan i’r UE. Mae’r farchnad ar gyfer bwyd a wneir drwy feithrin celloedd yn tyfu’n rhyngwladol, felly bydd y canllawiau hyn yn helpu cwmnïau i ddeall beth mae angen iddyn nhw ei wneud i gael mynediad i farchnadoedd newydd a thyfu eu busnesau.

Mae mynediad i’r farchnad, a gallu busnes i allforio i unrhyw wlad benodol, yn dibynnu ar gyfreithiau ac amodau mewnforio’r wlad honno a’r penderfyniadau a wneir gan ei hawdurdodau cymwys. Bydd y canllawiau hyn yn helpu i’w gwneud hi’n haws i fusnesau newydd ddeall y broses. Nid yw’n gwarantu y bydd busnes yn llwyddo i gael mynediad i’r farchnad nac yn disodli’r llwybr presennol ar gyfer allforio.

Allbwn diweddaraf y rhaglen blwch tywod ar gyfer cynhyrchion a wneir drwy feithrin celloedd yw’r canllawiau hyn. Mae’r rhaglen yn cefnogi agenda’r llywodraeth ar gyfer twf drwy helpu busnesau bwyd arloesol i ddeall gofynion rheoleiddiol, wrth gynnal rôl yr ASB ac FSS o ran diogelu defnyddwyr.