Datganiad i'r wasg

Fox yn lansio Strategaeth Allforio newydd uchelgeision i hybu busnesau Prydain

Nod y strategaeth yw i helpu Cymru i fod yn arweiniwr byd-eang ym myd allforio, yn hybu cynhyrchiant, cyflogau a chreu swyddi ledled y wlad

  • Liam Fox yn cyflwyno cynllun newydd uchelgeisiol i wneud Prydain yn un o’r prif allforwyr ar gyfer yr 21ain ganrif
  • Y Llywodraeth yn pennu uchelgais newydd i gynyddu allforion fel cyfran o gynnyRch domestig gros y DU i 35%
  • Cynllun cydweithredu gyda busnes o dan arweiniad y Llywodraeth yn cael ei ddatblygu ar ôl ymgysylltu eang ag ystod o fusnesau’r DU
  • Cynnig symlach ac wedi’i dargedu i fusnesau o bob maint, i gynyddu cynhyrchiant, codi cyflogau a diogelu swyddi ledled y DU
  • Strategaeth i helpu i wneud Cymru’n un o brif allforwyr y byd

Heddiw (dydd Mawrth 21 Awst) bydd yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol Dr Liam Fox AS, yn amlinellu sut y bydd y Llywodraeth yn gwneud Prydain yn un o’r prif allforwyr ar gyfer yr 21ain ganrif trwy wneud gwell defnydd o’n rhwydwaith tramor, cyfarpar ar-lein newydd a thrwy greu rhwydwaith busnes i fusnes eang.

Daw hyn wrth i’r Llywodraeth barhau i gyflwyno bargeinion sector fel rhan o’r Strategaeth Ddiwydiannol, gan hybu swyddi a thwf yn y meysydd lle mae gan y DU fantais gystadleuol – sy’n awr yn helpu i allforio’r arbenigedd hon ar draws y byd.

Mae ymchwil yn dangos bod gan gwmnïau sy’n allforio fwy o botensial i dyfu, eu bod yn fwy cynhyrchiol a bod eu swyddi’n talu’n well.

Y llynedd cafodd £620bn o nwyddau a gwasanaethau eu hallforio gan gwmnïau Prydeinig a oedd yn cyfrif am 30% o’n GDP, gyda lefelau allforion y DU yn uwch nag erioed.

Mae hyn yn cynnwys £16.4bn o nwyddau a gafodd eu hallforio o Gymru, cynnydd o 7.1% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, mae’r Adran Masnach Ryngwladol yn amcangyfrif bod 400,000 o fusnesau’n credu y gallant allforio ond nad ydynt yn gwneud hynny, er bod y galw am arbenigedd a nwyddau Prydeinig ar gynnydd.

Heddiw bydd Dr Fox, gyda’r Farwnes Fairhead, y Gweinidog Gwladol ar gyfer Masnach a Hybu Allforio, yn amlinellu uchelgais dymor hir y llywodraeth i fynd ymhellach ac i gynyddu cyfanswm yr allforion fel cyfran o GDP i 35%.

Bydd y Farwnes Fairhead hefyd yn ymweld â Cloth Cat Animation, sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, ac sy’n cynhyrchu rhaglenni teledu i blant, ac sydd wedi cael llwyddiant yn China ac Awstralia.

Wrth ymateb i alwad gan fusnesau, mae’r Strategaeth Allforio’n amlinellu sut y bydd y llywodraeth yn darparu cymorth mwy deallus a phenodol i gwmnïau’r DU. Mae elfennau allweddol yn y strategaeth i helpu cwmnïau sy’n gwerthu dramor:

  • Annog ac ysbrydoli mwy o fusnesau i allforio. Mae hyn yn cynnwys mwy o bwyslais ar roi sylw i lais rhai sy’n allforio eisoes i ysbrydoli busnesau eraill ac i hwyluso dysgu gan gymheiriaid.

  • Hysbysu busnesau trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol ar allforio. Mae mesurau newydd yn cynnwys datblygu great.gov.uk i fod yn un platfform digidol ar gyfer twf busnesau domestig a chymorth allforio a gweithio â chwmnïau mawr i helpu i wella galluedd cadwynau cyflenwi’r DU. Byddwn hefyd yn asesu cymhellion ariannol a chyfeirio fel ffordd o helpu BBChau i ddod o hyd i farchnadoedd newydd, a chymorth allforio i’r sector preifat.

  • Cysylltu busnesau’r DU â phrynwyr tramor, marchnadoedd ac a’i gilydd. Mae mesurau newydd yn cynnwys cymorth i fusnesau sy’n awyddus i fuddsoddi dramor a datblygu cyfarpar ar-lein sy’n galluogi busnesau i gyflwyno rhwystrau di-dariff maent yn eu hwynebu.

  • Rhoi cyllid wrth galon yr hyn sydd gennym i’w gynnig.

Lansio ymgyrch codi ymwybyddiaeth i dargedu’r allforwyr yn y DU sydd fwyaf tebygol o elwa ar werth £50bn o gyllid allforio a chymorth yswiriant gan UKEF, a hyrwyddo cymorth UKEF mewn marchnadoedd tramor i helpu cwmnïau a chonsortia yn y DU i ennill contractau.

Mewn araith gerbron cynulleidfa o bobl fusnes yn Llundain, mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Dr Liam Fox AS ddweud:

Mae’r Deyrnas Unedig yn genedl allforio fawr ac mae ein hallforwyr yn arwain y ffordd, trwy greu swyddi, codi cyflogau ac ehangu ein heconomi.

Mae busnesau’r DU mewn sefyllfa wych i fanteisio ar y newidiadau cyflym i’r economi fyd-eang ac rwyf yn credu bod gan y DU y potensial i fod yn un o brif allforwyr yr 21ain ganrif.

Fel adran economaidd ryngwladol, rydym yn benderfynol o helpu, cysylltu, a gweld cwmnïau’r DU yn tyfu ar y llwyfan byd-eang trwy ein rhwydwaith rhyngwladol.

Wrth i ni adael yr UE, rhaid i ni anelu’n uchel a dyna’n union beth fydd y Strategaeth Allforio yn ein helpu i’w gyflawni.

Meddai’r Farwnes Fairhead, y Gweinidog Gwladol dro Fasnach a Hybu Allforion yn yr Adran Fasnach Ryngwladol:

Ers ei chreu ddwy flynedd yn ôl, mae’r DIT eisoes wedi helpu miloedd o gwmnïau yn y DU i allforio – gydag allforion yn awr yn uwch nag erioed.

Fel y chweched mwyaf yn y byd o blith y gwledydd sy’n allforio, rydym yn perfformio ar lefel uwch na’n maint, ond ar y llaw arall, nid ydym ychwaith yn cyflawni ein potensial. Nod y Strategaeth Allforio hon yw newid hynny a chynyddu allforion fel cyfran o’n GDP o 30% i 35%, gan fynd â ni o ganol y G7 i fod yn agos at y brig. Mae hon yn nod uchelgeisiol, ond mae’n un y gallwn ei gyflawni.

Mae’r strategaeth yn adeiladu ar Strategaeth Ddiwydiannol y DU a’n gwasanaethau cymorth allforio presennol – ein rhwydwaith o ymgynghorwyr a hyrwyddwyr masnach ledled y DU ac mewn 108 o wledydd ledled y byd, £50 biliwn UKEF i hybu allforion mewn 60 arian gwahanol, a’n gwasanaeth great.gov.uk. I gyflawni ein nod, rhaid i’r Llywodraeth gydlynu ar draws adrannau i alluogi cwmnïau’r DU i lwyddo dramor.

Y cam cyntaf yw’r strategaeth hon – y garreg sylfaen – ar gyfer ymdrech newydd i allforio.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Cymru’n gartref i lu o gwmnïau allforio llwyddiannus, gyda’u cynnyrch a’u gwasanaethau’n cael eu gwerthu ledled y byd. Nid yw Cloth Cat Animation yn eithriad yn hyn o beth, mae eu gwaith wedi ei weld ym mhob rhan o’r byd, gan gynnwys China ac Awstralia.

Nod y Strategaeth Allforio hon yw arwain ac ysbrydoli cwmnïau eraill o Gymru sydd am wneud enw iddynt eu hunain mewn marchnadoedd rhyngwladol. Trwy greu Hyrwyddwyr Allforio ledled y DU a mynediad heb ei debyg at arbenigwyr mewn masnach dramor mewn 108 o wledydd, ein gobaith yw cynyddu potensial Cymru fel un o brif genhedloedd allforio’r byd, trwy gael gwared ar y pethau hynny sy’n rhwystro mynediad at farchnadoedd y mae busnesau’n eu profi, i greu swyddi gwell, sy’n talu cyflogau uwch ar hyd a lled y wlad.

Meddai Carolyn Fairbairn, Cyfarwyddwr Cyffredinol y CBI:

Mae ehangu masnach yn hanfodol i greu swyddi newydd, i godi lefelau cynhyrchiant a gwella ffyniant ar draws y wlad. Mae’r strategaeth hon yn arwydd amserol bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i wella cystadleurwydd rhyngwladol y Deyrnas Unedig.

Mae’r CBI wedi datgan cefnogaeth gref i’r uchelgais i godi allforion i 35% o GDP, a fydd yn rhoi’r DU o flaen llawer o’i chystadleuwyr rhyngwladol. Rydym yn amcangyfrif bod, ym mhob rhanbarth o’r wlad, tua 10% o fusnesau a allai allforio, ond nad ydynt yn gwneud hynny, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio ochr yn ochr â’r Llywodraeth i’w helpu a’u hysbrydoli i fanteisio ar bob cyfle.

Mae’r CBI wedi galw droeon am ymagwedd dymor hir tuag at allforio. Mae strategaethau blaenorol wedi dod ac wedi mynd, ond nid yw’r ffordd y cawsant eu rhedeg wedi helpu busnesau. Bydd cwmnïau’n gweithio â’r tîm cryf sydd wedi’i ffurfio yn yr Adran Masnach Ryngwladol i sicrhau bod y cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni’n effeithiol.

Meddai Dr Adam Marshall, Cyfarwyddwr Cyffredinol Siambrau Masnach Prydain (BCC):

Bydd manteisio ar ddwysedd masnach y DU – yn agos at gartref ac ymhellach i ffwrdd – yn un o gonglfeini ein llwyddiant economaidd yn y dyfodol.

Trwy weithio â’n gilydd, mae gan fusnesau a llywodraeth gyfle gwirioneddol i gynyddu allforion y DU, ac i helpu mwy o’n cwmnïau i gynyddu eu gwerthiant a’u helpu mewn marchnadoedd ledled yn y byd. Mae ein cystadleuwyr mwyaf yn buddsoddi’n drwm i hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau eu gwledydd, a rhaid i’r DU wneud gystal os nad yn well na hynny.

Rydym yn croesawu adduned y Llywodraeth yn y Strategaeth Allforio newydd i weithio law yn llaw â busnes i ddatgloi cyfleoedd i gwmnïau’r DU ym mhob rhan o’r byd. Mae angen ymrwymiad eglur a thymor hir i helpu cwmnïau Prydeinig yn y maes – gartref a thramor – i roi llwyfan i lawer o gwmnïau i gymryd risgiau ac i anelu at dwf.

Meddai Stephen Martin, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad y Cyfarwyddwyr:

Bydd cynyddu cyfleoedd masnachu ledled y byd yn allweddol i ddyfodol llwyddiant economaidd y DU, felly rydym yn croesawu’r strategaeth allforio newydd hon, sy’n rhoi sylfaen gadarn i adeiladu arni. Mae’r Llywodraeth yn haeddu clod am fuddsoddi amser ac ymdrech i weithio â busnes i lunio’r strategaeth hon, ac rydym wrth ein bodd bod nifer o argymhellion ein Sefydliad wedi cael eu cynnwys.

Bydd gwella perfformiad allforio’r DU yn ddibynnol ar nifer o newidynnau, ond y newyddion da yw bod digon o bethau y gallwn eu gwneud yn awr i helpu busnesau, Brexit neu beidio. Byddwn yn annog ein haelodau i ymgysylltu â’r llywodraeth i wneud yn siŵr bod y strategaeth yn gweithio a’i bod yn galluogi cwmnïau Prydeinig i wireddu eu potensial i fasnachu.

Bydd rhwydwaith newydd y Llywodraeth o Gomisiynwyr Masnach EM yn helpu i wella cysylltiadau llywodraeth i lywodraeth ac i leihau rhwystrau tariffau a mynediad i’r farchnad wrth i ni adael yr UE.

Mewn cyfres o benodiadau proffil uchel gan yr adran, yn gynharach eleni penododd y DIT gyn bennaeth bancio corfforaethol Barclays John Mahon fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Allforion cyntaf y DU, i arwain y gwaith o weithredu’r Strategaeth.

Hefyd ym mis Mehefin, penodwyd cyn is-gadeirydd bancio Citgroup Mark Slaughter fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Buddsoddi, i arwain yr ymdrech i ddenu mwy o fuddsoddiad i’r DU.

Mae’r strategaeth yn ychwanegu at yr hyn sydd gan y DTI eisoes i’w gynnig i fusnesau, sy’n cynnwys 250 o Gynghorwyr Masnach Dramor ledled y DU, y cyfleodd allforio sydd i’w gweld ar GREAT.gov.uk a chymorth UKEF fel cyllid masnach.

DIWEDD

Gwybodaeth bellach:

  • Mae ffigurau diweddaraf yr ONS yn dangos bod allforion y DU i’r byd wedi cynyddu £26bn, cynnydd o 4.4% o’i gymharu â’r un adeg y llynedd.
  • Elfen hanfodol o’r ymgyrch yw’r ‘Hyrwyddwyr Allforio’; busnesau cyffredin o bob math a maint o bob rhan o’r DU sy’n falch o allforio. Maent yn rhan o rwydwaith cenedlaethol o gwmnïau yn y DU sy’n llysgenhadon ar ran masnach ryngwladol. Maent yn rhannu hanesion eu llwyddiannau, yn cynnig cyngor ymarferol ac yn arwain trwy esiampl, o dan y gri ‘Os Gallwn Ni, Mi Allwch Chwithau”.
Cyhoeddwyd ar 21 August 2018