Stori newyddion

Creu dyfodol band eang ffeibr llawn a 5G i bawb

Llywodraeth y DU yn cyhoeddi strategaeth cysylltedd digidol tymor hir wrth i Sioe Frenhinol Cymru agor ei giatiau

Fibre optic
  • Cost ehangu band eang llydan i gael ei lleihau’n sylweddol
  • Blaenoriaethu ardaloedd gwledig anghysbell ar gyfer cyllid
  • Y llwyfan yn barod ar gyfer y newid i ffeibr llawn a diwedd ar gopr
  • Mynediad cynyddol i sbectrwm ar gyfer gwasanaethau 5G arloesol

Byddai ardaloedd gwledig anodd eu cyrraedd yn cael blaenoriaeth ar gyfer band eang sefydlog newydd a chysylltiadau symudol 5G fel rhan o fesurau newydd a gynigir mewn cynllun ledled y DU ar gyfer telegyfathrebu.

Cyhoeddwyd Adolygiad Seilwaith Telegyfathrebu’r Dyfodol (FTIR) ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt fel rhan o Strategaeth Ddiwydiannol fodern Llywodraeth y DU.

Mae’n cynnig y newidiadau sy’n ofynnol i roi i fwyafrif poblogaeth y DU fynediad i 5G, cysylltu 15 miliwn o eiddo i fand eang ffeibr llawn erbyn 2025, a darparu band eang ffeibr llawn ledled y DU gyfan erbyn 2033. Mae seilwaith ffeibr llawn yn hanfodol fel sail i ddarpariaeth 5G.

Wrth galon y strategaeth mae pwyslais ar fwy o ddewis i ddefnyddwyr a mentrau i hybu ehangu cyflymach a throsglwyddo o gopr i ffeibr.

Nod y dull newydd o weithredu yw sbarduno buddsoddiad masnachol ar raddfa fawr yn y rhwydweithiau sefydlog a diwifr sy’n hanfodol er mwyn i’r DU barhau i fod yn gystadleuol yn fyd-eang mewn byd digidol.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Jeremy Wright:

Rydyn ni eisiau i bawb yn y DU elwa o gysylltedd o safon byd-eang dim ots ble maen nhw’n byw, yn gweithio neu’n teithio. Bydd y glasbrint newydd radical hwn ar gyfer dyfodol telegyfathrebu yn y wlad hon yn cynyddu cystadleuaeth a buddsoddiad mewn band eang ffeibr llawn, yn creu mwy o gyfleoedd masnachol ac yn ei gwneud yn haws ac yn rhatach i ehangu seilwaith ar gyfer 5G.

Heb newid, mae dadansoddiad FTIR yn dynodi mai dim ond tri chwarter y wlad fydd rhwydweithiau band eang ffeibr llawn yn ei gyrraedd o dan yr amodau gorau, a byddai’n cymryd mwy nag ugain mlynedd i sicrhau hynny. Mae hefyd yn dynodi bod 5G yn cynnig potensial ar gyfer ehangu’r farchnad telegyfathrebu, gyda chyfleoedd i’r chwaraewyr presennol a rhai newydd.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn glir ers amser maith am bwysigrwydd cysylltedd symudol da i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol.

Mae ei fuddsoddiad o £69 miliwn mewn darparu band eang cyflym iawn ledled Cymru wedi arwain at Gymru’n profi cynnydd hynod gyflym mewn mynediad, o 29.4% o gartrefi a busnesau yn 2010 i 94.2% erbyn mis Rhagfyr 2017.

Hefyd mae’n buddsoddi mewn technolegau newydd fel y fainc brofi wledig 5G y mae Sir Fynwy’n rhan ohoni a’r £6m ar gyfer Rhwydwaith Ffeibr Llawn Leol yng Nghaerdydd - a’r cyfan yn gamau y mae Llywodraeth y DU yn eu cymryd nawr fel rhan o ymrwymiad i wireddu potensial 5G a ffeibr llawn, a fydd yn helpu i greu economi ddigidol flaengar yn y byd sy’n gweithio i bawb.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns:

Mae Llywodraeth y DU eisiau i fanteision digidol gael eu teimlo ledled ein heconomi gyfan, ym mhob rhan o gymdeithas ac ym mhob cornel o’r wlad. Mae ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu ar hynny.

Seilwaith yw’r allwedd i’r ffyniant hwnnw. Mae’r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd goresgyn rhwystrau sy’n atal cysylltedd er mwyn sicrhau y gallwn ni fodloni gofynion yr oes ddigidol.

Ond eto ni all Llywodraeth y DU weithio ar ei phen ei hun i greu’r trawsnewid hwn yng Nghymru. Dyma pam rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda ni i gyflawni ar y polisïau hyn a gwireddu ein huchelgeisiau cysylltedd ar y cyd. Rydyn ni wedi bod yn galw arnyn nhw ers amser maith i ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU yn Lloegr ac ystyried mwy o ryddid a hyblygrwydd ar gyfer defnyddio seilwaith symudol ledled Cymru. Rydyn ni’n gobeithio y byddan nhw’n gweithredu ar eu hymrwymiad i roi sylw i’r mater real iawn o ‘fannau digyswllt’ symudol ledled y wlad a chreu diwygiadau cynllunio er mwyn cefnogi ehangu’r seilwaith symudol yng Nghymru, a ddylai fod wedi’i weithredu ers amser maith.

Nid yn unig mae hyn yn gwneud synnwyr economaidd ond hefyd mae’n cefnogi’r newid digidol a fydd yn trawsnewid ein cenedl ni er gwell.

Dyma argymhellion allweddol FTIR:

  • Deddfwriaeth newydd a fydd yn gwarantu cysylltiadau ffeibr llawn ar gyfer datblygiadau a adeiledir o’r newydd;
  • Darparu ‘hawl i fynediad’ i fflatiau, parciau busnes, blociau swyddfeydd ac eiddo arall i denantiaid i Weithredwyr fel bod y rhai sy’n rhentu’n gallu cael cysylltedd cyflym, dibynadwy gan y cyflenwr priodol am y pris gorau;
  • Diwygiadau i’r amgylchedd rheoleiddiol ar gyfer band eang ffeibr llawn a fydd yn sbarduno buddsoddiad a chystadleuaeth ac sydd wedi’i deilwra i wahanol amodau marchnad leol;
  • Buddsoddiad cyhoeddus mewn ffeibr llawn ar gyfer ardaloedd gwledig i ddechrau ar yr un pryd â buddsoddiad masnachol mewn lleoliadau trefol;
  • Newid sy’n cael ei arwain gan y diwydiant (o gopr i ffeibr llawn) yn cael ei gydlynu gydag Ofcom;
  • Fframwaith cenedlaethol newydd a fydd yn lleihau costau, amser a’r tarfu a achosir gan waith stryd drwy safoni’r dull o weithredu ledled y wlad;
  • Mynediad cynyddol i sbectrwm ar gyfer gwasanaethau 5G arloesol;
  • Dylai seilwaith (gan gynnwys pibellau a charthffosydd) sy’n eiddo i gyfleustodau eraill fel pŵer, nwy a dŵr, fod yn hawdd cael mynediad iddynt ac ar gael ar gyfer defnydd sefydlog a symudol;
  • Ofcom i ddiwygio rheoleiddio, gan ganiatáu mynediad heb gyfyngiad i bibellau a pholion Openreach at ddefnydd preswyl a busnes, gan gynnwys seilwaith symudol hanfodol;
  • Ochr yn ochr â FTIR, mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi Pecyn Adnoddau Seilwaith Digidol a fydd yn galluogi i rwydweithiau symudol wneud llawer mwy o ddefnydd o adeiladau’r Llywodraeth i wella’r ddarpariaeth ledled y DU.

Bydd FTIR yn sbarduno cystadleuaeth a buddsoddiad masnachol mewn rhwydweithiau ffeibr llawn ledled cymaint o’r DU â phosib. Fodd bynnag, bydd rhai rhannau o’r wlad lle bydd yn annhebygol y bydd y farchnad yn gallu cyflawni ar ei phen ei hun.

Yn genedlaethol mae argaeledd ffeibr llawn yn debygol o fod angen cyllid ychwanegol o tua £3 biliwn i £5 biliwn i gefnogi buddsoddiad masnachol yn y tua 10% terfynol o ardaloedd. Ni ddylid gorfodi’r ardaloedd hyn, sy’n wledig yn aml, i aros nes bod gan weddill y wlad gysylltedd cyn gallu cael mynediad i rwydweithiau gallu gigabeit.

Felly bydd y Llywodraeth yn ceisio strategaeth “o’r tu allan i mewn” sy’n golygu y bydd y Llywodraeth, tra mae’r gystadleuaeth rhwydwaith yn gwasanaethu’r ardaloedd hyfyw yn fasnachol, yn cefnogi buddsoddiad yn yr ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd ar yr un pryd. Rydyn ni eisoes wedi datgan oddeutu £200 miliwn fel rhan o’r rhaglen band eang a all hybu’r ddarpariaeth o rwydweithiau ffeibr llawn ymhellach ar unwaith.

Camau nesaf

Yn fuan byddwn yn cyhoeddi ymgynghoriadau ar y newidiadau deddfwriaethol i wneud fforddfreintiau a chysylltiadau ffeibr mandad yn fwy effeithlon mewn adeiladau newydd. Hefyd bydd casgliadau’r Adolygiad yn sail i Ddatganiad o Flaenoriaethau Strategol (SSP) y llywodraeth i Ofcom, yn pennu’r amcanion a’r canlyniadau strategol y mae’n rhaid i’r rheoleiddiwr eu hystyried wrth ymarfer ei swyddogaethau rheoleiddiol.

Notes to Editors

  1. Dim ond 4% o gysylltiadau ffeibr llawn sydd gan y DU ac mae ar ôl llawer o’n cystadleuwyr allweddol fel Sbaen (71%), Portiwgal (89%) Ffrainc (tua 28% ac yn cynyddu’n gyflym).
  2. Mae rhwydweithiau ffeibr llawn yn gyflymach, mwy dibynadwy, a mwy fforddiadwy i’w gweithredu na rhwydweithiau copr. Bydd 5G yn darparu band eang symudol cyflymach a gwell ac yn galluogi ceisiadau newydd mewn sectorau diwydiant fel gweithgynhyrchu, iechyd a thrafnidiaeth.
  3. Mae’r strategaeth yn ceisio cydnabod gwahaniaethau ar draws ardaloedd gwledig a threfol, ac mae’n datblygu datrysiadau sydd wedi’u teilwra i’r ddau fath o ardal. Daw’r Adolygiad i’r casgliad mai’r dull gorau o weithredu yw hyrwyddo cystadleuaeth a buddsoddiad masnachol os yw hynny’n bosib, a dim ond ymyrryd pan fo angen.
  4. Dylai cystadleuaeth yn y farchnad sicrhau rhwydweithiau ffeibr llawn ar draws y rhan fwyaf o’r DU os byddwn yn sicrhau bod yr amodau’n briodol (tua 80%). Mae tua 20% o’r wlad yn debygol o fod angen datrysiadau pwrpasol i sicrhau ehangu rhwydweithiau.
  5. Nid ond cysylltiadau data symudol cyflymach mae 5G yn ei gynnig, gall hefyd sicrhau amrywiaeth eang o gyfleoedd newydd ar draws sectorau diwydiant fel gweithgynhyrchu, ynni, trafnidiaeth a gofal iechyd. Mae’r Llywodraeth eisiau annog y cyfleoedd masnachol newydd hyn drwy ddiwygiadau polisi, gan gynnwys gwneud yn siŵr bod sbectrwm ar gael i bawb ac yn cael ei ddefnyddio’n effeithlon.
  6. Mae rhedeg rhwydweithiau copr a ffeibr ochr yn ochr yn ddrud ac yn aneffeithlon a bydd strategaeth ‘newid ffeibr’ yn angenrheidiol i ysgogi galw am ffeibr, i alluogi rhwydweithiau newydd i gyflawni graddfa’n gynt, ac i sicrhau proses bontio lyfn i gwsmeriaid. Bydd y broses o newid yn cael ei harwain gan y diwydiant a bydd yr amseru’n dibynnu ar gyflymder yr ehangu ar rwydweithiau ffeibr, ac ar y defnydd o’r rhwydweithiau hynny. Mae’n realistig tybio y gallai’r newid ddigwydd yn y rhan fwyaf o’r wlad erbyn 2030, ond yn y pen draw bydd yr amseru’n dibynnu ar gyflymder yr ehangu ffeibr ac ar y defnydd wedi hynny o gynhyrchion ffeibr.
  7. Mae cyfarwyddeb newydd yr UE ar gyfer cyfathrebu electronig - y Cod Cyfathrebu Electronig Ewropeaidd - yn cael ei thrafod ar hyn o bryd. Mae’n debygol o gael ei mabwysiadu gan yr UE yn fuan. Os caiff y gyfarwyddeb ei mabwysiadu, mae gofyn i ni weithredu, os yw hynny’n briodol, y prif ddarpariaethau yng nghyfraith y DU, ar y sail y byddai hynny’n cefnogi amcanion polisi domestig y DU. Bydd hyn yn galluogi ymestyn y cyfnodau adolygu marchnad i bum mlynedd ac yn darparu mecanweithiau i gynorthwyo gydag ehangu’r rhwydwaith ffeibr mewn rhai ardaloedd.
Cyhoeddwyd ar 23 July 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 July 2018 + show all updates
  1. Welsh translation added

  2. First published.