Stori newyddion

Follow cwmnïau am ddim

Mae gwasanaeth Follow yn caniatáu ichi gael hysbysiadau ebost pan fydd cwmnïau’n ffeilio gyda ni.

Mae gwasanaeth “Follow” yn rhan o Companies House Service di-dâl.

Mae Companies House Service a’r gwasanaeth newydd Follow ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd.

Diweddariadau gwib

Mae gwasanaeth “Follow” yn caniatáu ichi gael hysbysiadau e-bost ynghylch trafodion cwmnïau. Mae’r hysbysiad yn dweud wrthych yn syth beth sydd wedi cael ei ffeilio gyda ni cyn gynted ag y mae wedi’i dderbyn.

Bydd y neges e-bost yn cynnwys dolen i hanes ffeilio’r cwmni lle byddwch yn gallu lawrlwytho copi o’r ddogfen am ddim.

Byddwch hefyd yn cael hysbysiad e-bost pan fyddwn yn diddymu trafodyn.

Cofrestrwch am Companies House Service er mwyn dechrau dilyn trafodion cwmnïau.

Pwy i’w ddilyn

Gallwch ddilyn unrhyw gwmni sydd wedi’i gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau. Er mwyn gwella diogelwch, gallech ddewis dilyn eich cwmni eich hun.

Sut i ddilyn

I ddechrau dilyn cwmnïau:

  • mewngofnodwch ar ôl ichi gofrestru cyfeiriad ebost a chyfrinair
  • chwiliwch am gwmni i’w ddilyn
  • dewiswch y cwmni
  • cliciwch ar y botwm Follow this company

I weld yr holl gwmnïau yr ydych wedi dewis eu dilyn, cliciwch ar y botwm ‘Companies you follow’. I roi’r gorau i gael hysbysiadau e-bost am gwmni, dewiswch ‘Unfollow’.

Cyhoeddwyd ar 9 March 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 March 2017 + show all updates
  1. Main image added.

  2. Added translation