Newidiadau i ffioedd ym mis Ebrill
Mae rhai o’n ffioedd yn newid ar 6 Ebrill 2016.

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n Gronfa Fasnachu ac mae’n gweithredu ar sail ‘adennill costau’. Mae cyfraith Ewropeaidd a chanllawiau Trysorlys Ei Mawrhydi’n golygu y caiff ein ffioedd eu cyfrifo yn ôl faint mae’n costio i ddarparu ein gwasanaethau a’r ffordd y gall cwsmeriaid fanteisio arnynt.
Rydym yn adolygu ein ffioedd yn rheolaidd ond fel arfer bydd angen cymeradwyaeth Senedd y Deyrnas Unedig am unrhyw newidiadau. Hyd nes i’r Senedd roi ei chymeradwyaeth, mae lefelau’r ffioedd arfaethedig yn amodol i newid. Unwaith mae’r ffioedd wedi cael eu cadarnhau, byddwn yn eich diweddaru gyda manylion bellach o unrhyw newidiadau, a’r amserlen ar gyfer eu cyflwyno.