Stori newyddion

Ynysoedd Falkland 40: Sut mae un cyn-filwr yn cadw stori’r gwrthdaro’n fyw

Ynysoedd Falkland 40: Cyn-filwr yn cofio am ei brofiadau ef o ryfel y Falklands.

Military man with gun. Copyright: Manny Manfred.

Falklands 40. Copyright: Manny Manfred.

Roedd y Cyrnol Lefftenant (wedi ymddeol) Manny Manfred yn 30 oed, yn briod â mab ifanc ac yn byw yn Warminster pan ganodd y ffôn a daeth y gair cod ar gyfer galw’n ôl drwodd. Ar y pryd, roedd yn Rhingyll yng Nghwmni ‘A’ 3ydd Bataliwn Catrawd y Parasiwtwyr.

Ar unwaith, paciodd ei fagiau a mynd i’r barics yn Tidworth, Hampshire, lle’r oedd ei uned wedi’i lleoli. O fewn 72 awr, yr oedd yr uned wedi symud i Southampton i fynd ar fwrdd llong fordeithio P&O i hwylio tua’r de i chwarae eu rhan yn Rhyfel y Falklands. Yn para am 74 diwrnod, y gwrthdaro oedd y weithred filwrol gyntaf ers yr Ail Ryfel Byd a ddefnyddiodd holl elfennau’r Lluoedd Arfog, gyda 255 o bersonél o Brydain yn colli eu bywydau.

Fel Rhingyll Platŵn gyda 3 PARA, roedd Manny yng nghanol y gwrthdaro ac mae wedi bod yn defnyddio ei brofiadau uniongyrchol yn Ynysoedd Falkland i roi cyflwyniad i gynulleidfaoedd ers 1986. Ei gynulleidfa fwyaf hyd yma oedd 700 o blant ysgol yn Aberhonddu yn ystod Wythnos y Lluoedd Arfog a’r un bellaf i ffwrdd oedd ar long fordeithio a oedd newydd adael Ynysoedd Falkland. Tŵr Llundain EM cyn cinio ffurfiol mewn lleoliad mor ysblennydd yw lleoliad mwyaf cofiadwy Manny.

Mae Manny, sy’n aelod o’r Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn yng Nghymru, yn amcangyfrif bod rhwng 12,000 a 15,000 o bobl wedi clywed ei gyflwyniad, y mae yn ei roi oddeutu 12 gwaith y flwyddyn. Mae’n cyflwyno’n rheolaidd i bersonél rheolaidd ac wrth gefn yn Ysgol Frwydr y Troedfilwyr yn Aberhonddu.

Eleni, mae’n 40 mlynedd ers y gwrthdaro ac mae rhai gwersi ingol iawn sy’n dal yn werthfawr i’r genhedlaeth hon o filwyr heddiw. Y caledi corfforol sy’n ei gwneud yn ofynnol i’n milwyr fod yn gryf ac wedi’u hyfforddi’n dda a’r gallu i ddangos eu grym gryn bellter i ffwrdd o dan amodau tywydd heriol. Yn bwysicach na hynny, mae’r pen-blwydd yn rhoi cyfle i gyn-filwyr ddod at ei gilydd ac ail-fyw profiadau cyffredin

meddai Manny.

Un o’i atgofion cyntaf oedd cerdded i fyny’r gangwe ar long fordeithio foethus y cymerwyd meddiant gorfodol ohoni – tra roedd planhigion mewn potiau a chadeiriau plygu a fu’n cael eu defnyddio gan bobl ar eu gwyliau ychydig ddyddiau ynghynt yn cael eu cludo ymaith hyd gangwe arall. Roedd y bandiau milwrol yn gorymdeithio i fyny ac i lawr ochr y cei ac roedd ymdeimlad afreal o achlysur.

Wel, roedd yn dipyn o Rolls Royce. Mae rhai pobl yn mynd mewn awyrennau, mae rhai pobl yn mynd ar longau milwrol, ond roedd gennym ni long fordeithio foethus y cymerwyd meddiant gorfodol ohoni o fyd masnach. Roedd tair prif uned a’r arfau cysylltiedig i deithio ar y SS Canberra, dros 2,000 o bersonél y fyddin, y llynges a’r Môr-filwyr Brenhinol. Roedd ffrwydron a chyflenwadau eraill yn cael eu llwytho ar y llong cyn i ni hwylio

meddai Manny.

Yn perthyn i gatrawd gyda pharasiwt yn y teitl, gellid tybio y byddai disgwyl i chi gyrraedd maes y gad o’r awyr. Ond canfu Manny a’i gyfeillion eu hunain ar fwrdd y Canberra ger Ynys y Dyrchafael, yn ymarfer sgil newydd – sut i lanio ar draeth o fadau glanio, cyn iddynt ymosod ar Ynysoedd Falkland.

Roedd hi’n rhyfedd iawn am y tro cyntaf yn fy ngyrfa i lanio ar draeth gan ddefnyddio badau ymosod yr oeddem wedi’u gweld mewn ffilmiau ers blynyddoedd lawer. I bob pwrpas, roedd yn teimlo fel ein bod ni ym mrwydr Normandi yn yr Ail Ryfel Byd unwaith eto.

Rwy’n canfod bod y gwersi sy’n deillio o Ynysoedd Falkland yn ymwneud yn bennaf â’r dynion eu hunain a’r angen i gael unigolion cadarn sydd wedi’u hyfforddi’n dda.

Bydd pobl yn aml yn gofyn i mi, onid oeddech chi’n ofnus? Wel … rydych chi’n cael hyfforddiant cynhwysfawr a llym ac mae’r ofn yno; mae yno drwy’r amser. Pan fyddwch chi mewn sefyllfa fel hynny, mae ynghylch sut rydych chi’n rheoli’r ofn hwnnw, yn ei gadw dan reolaeth a sut mae’n effeithio ar y rhai sy’n is na chi – y rhai yn eich platŵn. Rydyn ni’n symud ymlaen ac mae’r hyfforddiant yn dod i’r amlwg ac rydych chi’n cyflawni’r gwaith. Mae’n ymadrodd cyffredin ond roedd cyflawni’r gwaith yn beth mor bwysig, goresgyn yr elfennau, goresgyn y gelyn a chyflawni ein hamcanion.

Fel aelod o’r Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn yng Nghymru, mae Manny yn credu ei bod yn bwysig bod pobl sy’n cael profiadau sy’n werthfawr i genhedlaeth heddiw yn eu defnyddio lle bynnag y bo modd. Ar ôl 20 mlynedd o ymladd mewn amgylchiadau tebyg i anialwch, mae’r fyddin yn dal i drawsnewid eu hyfforddiant i ymladd mewn amgylchedd mwy confensiynol. I ddyfynnu Hyfforddwr o Aberhonddu –

dod â’r meddylfryd allan o’r anialwch ac yn ôl i’r coed. Mae profiadau Manny yn werthfawr o ran cyflawni hyn.

Rwy’n manteisio ar bob cyfle i gyflwyno fy nghyflwyniad am y Falklands a’m profiadau o’r gwrthdaro i sefydliadau Cymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru…a byddaf yn dal ati i wneud hynny cyhyd ag y gallaf a thra bo’r adborth yn dal yn gadarnhaol. Ar ôl bron i 45 mlynedd mewn lifrai milwrol, rydw i’n teimlo ei bod hi’n amser rhoi rhywbeth yn ôl!

Cyhoeddwyd ar 15 June 2022