Astudiaeth achos

Tracy Llewellyn, sy’n Filwr Wrth Gefn, yn llwyddo i gyfuno bod yn gerddor milwrol, yn fam ac yn ffermwraig

Yn ôl Tracy Llewellyn, chwaraewr trombôn ym Mand y Cymry Brenhinol, ni fyddai’n gallu dymuno cael gwell swydd ran-amser ar y cyd â gweithio ar fferm y teulu ger y Fenni.

Reservist Tracy Llewellyn standing next to a tractor dressed in full service uniform.

Reservist Tracy Llewellyn combines being a military musician, mum and farmer. MOD Crown Copyright.

Caption:Tracy Llewellyn, sy’n Filwr Wrth Gefn, yn llwyddo i gyfuno bod yn gerddor milwrol, yn fam ac yn ffermwraig. Hawlfraint y Goron y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Ymunodd Tracy â Band Llu Cadetiaid Powys pan oedd yn 13 oed ac yna aeth ymlaen i wasanaethu yn y Fyddin am 12 mlynedd fel rhan o Gorfflu Cerddoriaeth y Fyddin cyn gadael i ddechrau teulu.

Dywedodd Tracy:

“Penderfynais ddod yn aelod wrth gefn o’r Fyddin ar ôl cwblhau 12 mlynedd o wasanaeth rheolaidd. Roeddwn i wedi penderfynu gadael i gael plant ac erbyn hyn mae gen i ferch fach a bachgen bach.

“I mi, mae’n golygu fy mod yn gallu gwneud y tri pheth pwysicaf yn fy mywyd, sef gweithio ar y fferm, bod yn fam, a bod yn gerddor milwrol.

“Fe wnes i fwynhau fy swydd fel cerddor rheolaidd yn fawr, ond fe wnes i adael i ddechrau teulu. Mae bod yn filwr wrth gefn yn rhoi’r cyfle i mi gael yr un mwynhad ar sail ran-amser a hyblyg. Rwy’n cael gwneud y gwaith rwy’n ei garu heb yr aberth o ran teulu y byddai bod yn aelod rheolaidd wedi’i olygu.”

Fel aelod o Fand a Drymiau Catrodol y Cymry Brenhinol, mae Tracy yn chwarae gyda’i chyd-gerddorion mewn digwyddiadau ac achlysuron mawreddog ledled y DU a thramor.

Mae’n cyfaddef ei bod weithiau’n anodd cydbwyso bywyd teuluol a gofal plant â’i dyletswyddau cerddorol gyda’r milwyr wrth gefn, ond mae’n dweud bod yr ymdrech bob amser yn werth chweil.

“Mae’n gyfle i wneud rhywbeth gwahanol ac mae’r cyfleoedd yn enfawr, gyda chyrsiau, hyfforddiant antur a sgiliau newydd sy’n amhrisiadwy i unrhyw un sydd eisiau herio eu hunain.

“Mae fy amser yn y fyddin reolaidd a’r fyddin wrth gefn wedi fy nysgu i fod yn amyneddgar ac yn gydnerth wrth wynebu gweithgareddau llafurus, rhywbeth sy’n sicr yn werthfawr wrth ffermio.

Rwyf wrth fy modd yn fy rôl fel cerddor ym Mand y Cymry Brenhinol. Rwy’n gweithio gyda chriw gwych o bobl sy’n mwynhau’r hyn maen nhw’n ei wneud. Mae gallu gwneud hyn yn agos at adref, ym mro fy mebyd, gyda’r hyblygrwydd ychwanegol y mae bod yn filwr wrth gefn yn ei gynnig, yn wych.”

Cyhoeddwyd ar 2 March 2021