Stori newyddion

Cyhoeddi dadansoddiad o broses gwrandawiadau fideo’r llysoedd a’r tribiwnlysoedd

Mae gwerthusiad annibynnol o wasanaeth gwrandawiadau fideo GLlTEM, sy'n asesu profiad y defnyddiwr o'r broses gwrandawiadau fideo, wedi cael ei gyhoeddi heddiw.

Graphic of laptop showing scales of justice
  • dengys adroddiad newydd bod gwrandawiadau fideo yn hwylus, yn gadarn ac yn hawdd i’w ddefnyddio
  • mae’r broses o brofi gwrandawiadau fideo wedi cael ei ymestyn i dribiwnlysoedd treth. Awdurdodaethau eraill i ddilyn
  • erys penderfyniadau ynghylch y defnydd o wrandawiadau fideo yn fater i ddisgresiwn y farnwriaeth

Mae’r gwasanaeth gwrandawiadau fideo yn galluogi cyfranogwyr i gymryd rhan mewn gwrandawiad o’u cartref, o swyddfa neu leoliad addas arall gan ddefnyddio gliniadur neu gyfrifiadur.

Mae’r adroddiad, sy’n cynnwys sampl fach o achosion a astudiwyd yn fanwl, yn cynnwys nifer o argymhellion ar ganllawiau i gyfranogwyr a swyddogaethau’r gwasanaeth. Mae nifer o’r rhain eisoes wedi’u rhoi ar waith, gan fod y gwasanaeth yn ymateb yn gyflym i adborth gan ddefnyddwyr a barnwyr.

Datblygodd GLlTEM y gwasanaeth i ddyblygu’r profiad ffurfiol o wrandawiad a gynhelir mewn llys neu dribiwnlys. Mae’r broses o brofi’r gwasanaeth yn mynd rhagddo’n gyflym. Mae wedi cael ei ymestyn i’r tribiwnlys treth a bydd awdurdodaethau eraill yn dilyn.

Meddai Susan Acland-Hood, Prif Weithredwr GLlTEM:

Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn a’i asesiad gwerthfawr o’r cynllun peilot mewn perthynas â’r gwrandawiadau fideo sy’n cael eu cynnal yn y llysoedd sifil, teulu a threth. Bydd yn ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer gwrandawiadau fideo ac yn ein galluogi i wneud rhagor o welliannau.

Mae technoleg sain a fideo wedi bod yn rhan o’r system gyfiawnder ers tro ac mae’n adnodd hollbwysig i gynnal ein system gyfiawnder yn ystod y pandemig a thu hwnt.

Bydd gwaith yn parhau i ddatblygu a phrofi’r gwasanaeth gwrandawiadau fideo i ddarparu opsiwn o bell lle y bo’n briodol, pan na all neu lle nad oes angen i gyfranogwyr fynychu’r llys. Y barnwyr sydd i wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio technoleg fideo mewn gwrandawiadau.

Bydd y defnydd o wrandawiadau o bell yn ystod argyfwng COVID-19 yn cael ei werthuso, a chyhoeddir y canfyddiadau ar ôl iddo gael ei gwblhau.

Nodiadau i olygyddion:

Cyhoeddwyd ar 29 July 2020