Stori newyddion

Y gyfradd gyflogaeth yn tyfu'n gynt yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU

Mae Alun Cairns wedi croesawu’r ffigurau swyddi diweddaraf sy'n dangos bod y gyfradd gyflogaeth wedi tyfu'n gynt yng Nghymru nag unrhyw le arall yn y DU.

Heddiw (15 Mawrth), mae ystadegau diweddaraf y farchnad lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi datgelu bod y gyfradd diweithdra yng Nghymru yn parhau’n is na chyfartaledd y DU, sydd ei hun ar ei hisaf ers mis Mehefin i Awst 1975. Mae’r gyfradd gyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu 11,000 dros y flwyddyn.

Mae’r ystadegau’n dangos y canlynol:

  • Mae’r lefel cyflogaeth yng Nghymru 2,000 yn uwch dros y chwarter i 1.451 miliwn. Dros y flwyddyn, cynyddodd y lefel gan 11,000.

  • Mae lefel diweithdra 1,000 yn uwch dros y chwarter i 66,000 miliwn. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 12,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.8 pwynt canran. Mae’r gyfradd yng Nghymru erbyn hyn 0.3 pwynt canran yn is na chyfradd diweithdra ar gyfer y DU drwyddi draw, sef 4.7 y cant.

  • Mae nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau wedi gostwng 800 yng Nghymru rhwng mis Ionawr 2017 a mis Chwefror 2017 ac mae wedi gostwng 3,600 (8.7 y cant) ers mis Chwefror 2016. Mae’r gyfradd yn 2.6 y cant ar hyn o bryd.

  • Mae lefel anweithgarwch economaidd wedi gostwng 8,000 dros y chwarter i 443,000 ac mae’r gyfradd i lawr 0.4 pwynt canran i 23.3 y cant. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel 20,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 1 pwynt canran. Ar gyfer y DU, cafwyd gostyngiad o 34,000 mewn anweithgarwch economaidd (0.1 pwynt canran) dros y chwarter a gostyngodd 59,000 (0.2 pwynt canran) dros y flwyddyn a’r nifer yn awr yn 8.874 miliwn. Mae’r gyfradd anweithgarwch yn y DU erbyn hyn yn 21.6 y cant.

  • Roedd cyfanswm cyflogaeth ar gyfer y DU wedi cynyddu 92,000 dros y chwarter i 31,854 miliwn. Cynyddodd y gyfradd 0.2 pwynt canran i 74.6 y cant. Dros y flwyddyn, cafwyd 315,000 o gynnydd yn y lefel ac roedd y gyfradd wedi cynyddu 0.5 pwynt canran. Mae lefel cyflogaeth yn gydradd â’r lefel uchaf erioed.

  • Roedd cyfanswm diweithdra yn y DU wedi gostwng 31,000 dros y chwarter i 1.584 miliwn, gostyngodd y gyfradd hefyd i 4.7%. Dros y flwyddyn, gostyngodd y lefel diweithdra 106,000 ac roedd y gyfradd wedi gostwng 0.3 pwynt canran. Ni fu yn is ers y cyfnod Mehefin i Awst 1975.

Dywedodd Alun Cairns:

Mae’n newyddion gwych bod cyfradd cyflogaeth y DU wedi gostwng i’w bwynt isaf ers mis Mehefin i Awst 1975 a bod cyfradd Cymru yn parhau yn is na’r cyfartaledd hwn. Mae’r cynnydd yn lefel cyflogaeth yng Nghymru yn tynnu sylw at hyder busnesau yn economi Cymru a’i gallu i wynebu’r heriau sydd o’i blaen.

Mae Cymru yn parhau i arwain y ffordd. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r gyfradd gyflogaeth wedi tyfu’n gynt yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o’r DU, ac mae anweithgarwch economaidd wedi gostwng yn gynt na chyfartaledd y DU.

Mae Cymru yn parhau i ddangos ei bod yn wlad wych i fusnesau ffynnu a byddwn ninnau yn Llywodraeth y DU yn parhau i feithrin a chynnal perthnasoedd er mwyn creu’r amodau cywir ar gyfer twf.

Cyhoeddwyd ar 15 March 2017