Datganiad i'r wasg

Ffigurau cyflogaeth yng Nghymru yn uwch nag erioed o’r blaen

Gweinidog Swyddfa Cymru yn ymateb i Ystadegau’r Farchnad Lafur

Labour market statistics

Mae’r farchnad lafur yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns, heddiw, wrth i ffigurau cyflogaeth ddangos bod mwy o bobl nag erioed o’r blaen yn gweithio ledled Cymru.

Mae’r ystadegau diweddaraf ar gyfer y farchnad lafur a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol heddiw (12 Awst) yn dangos bod lefel cyflogaeth yng Nghymru 42,000 yn uwch dros y chwarter diwethaf yn unig.

Mae’r ystadegau hefyd yn dangos y canlynol:

  • Mae lefel cyflogaeth yng Nghymru wedi cynyddu fwy nag mewn unrhyw wlad na rhanbarth arall yn y DU dros y chwarter diwethaf, ac mae wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed o’r blaen
  • Nid yw canran y bobl 16 – 64 oed sydd yn gweithio yng Nghymru erioed wedi bod mor uchel
  • Mae lefelau diweithdra yng Nghymru 9,000 yn is dros y chwarter diwethaf
  • Gwelwyd mwy o ostyngiad mewn anweithgarwch economaidd yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad na rhanbarth arall yn y DU – gostyngiad o 29,000 dros y chwarter
  • Roedd nifer yr hawlwyr 300 yn llai ym mis Gorffennaf dros y mis, gyda gostyngiad o 10,800 dros y flwyddyn
  • Gwelwyd gostyngiad o 3,700 yn nifer y bobl ifanc a hawliodd dros y flwyddyn
  • Mae cyfartaledd enillion wythnosol gros yng Nghymru wedi cynyddu’n fwy na chyfradd chwyddiant - 4.4 y cant i fyny dros y flwyddyn ddiwethaf

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Cymru, Alun Cairns:

Mae ffigurau cyflogaeth ardderchog heddiw yn cadarnhau bod ein cynllun economaidd hirdymor yn llwyddo dros bobl ym mhob cyfnod o’u bywyd, ar hyd a lled Cymru.

Erbyn hyn, mae gennym fwy o bobl yn gweithio nag erioed o’r blaen, ac rydym yn gweld gostyngiad parhaus yn nifer y bobl ifanc sydd allan o waith. Wrth ychwanegu’r gostyngiad mewn anweithgarwch economaidd a lefelau diweithdra, nid oes unrhyw amheuaeth bod y Llywodraeth un genedl hon yn anrhydeddu ei hymrwymiad i sicrhau bod adferiad economaidd yn cael ei brofi gan bob adran o gymdeithas.

Mae Llywodraeth y DU wedi lansio’r ymgyrch ‘GALLWN’ heddiw – cynllun sydd â’r nod o gefnogi pobl ifanc i fanteisio i’r eithaf ar eu gwyliau haf, drwy ymgorffori profiad gwaith i’w cynlluniau gyrfa.

Ychwanegodd Alun Cairns:

Mae CV sy’n cynnwys enghreifftiau o brofiad gwaith yn gallu cael effaith arwyddocaol ar unrhyw gyfleoedd cyflogaeth y bydd pobl ifanc yn eu hwynebu i’r dyfodol. Wrth ddarparu’r cyfleoedd hyn, gallwn greu cenhedlaeth sy’n awyddus, yn sgilgar ac wedi’u harfogi’n well ar gyfer byd gwaith.

Dyna pam ein bod yn annog pobl ifanc ledled Cymru i fachu’r cyfle sydd ganddynt i gael profiad yn y gwaith yr haf hwn, a rhoi eu troed ar ris gyntaf ysgol cyflogaeth.

Cyhoeddwyd ar 12 August 2015