Y nifer uchaf erioed o gyflogwyr yn cael eu henwi a'u cywilyddio am beidio â thalu'r isafswm i fwy na 15,500 o weithwyr
Mae mwy na 350 o gyflogwyr wedi cael eu henwi a'u cywilyddio wrth i'r Llywodraeth gyhoeddi'r rhestr hiraf erioed o droseddwyr isafswm cyflog cenedlaethol a chyflog byw.

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi enwi 361 o fusnesau nad thalodd gyfanswm o £995,684 a oedd yn daladwy i 15,521 o weithwyr, gyda chyflogwyr yn sectorau trin gwallt, lletygarwch a manwerthu y troseddwyr mwyaf cyson.
Yn ogystal ag adennill cyflog i rai o’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf yn y Deyrnas Unedig, cyhoeddodd CThEM werth tua £800,000 o gosbau.
Mae cyflogwyr a fethodd â thalu’r Cyflog Byw Cenedlaethol o leiaf i weithwyr wedi cael eu henwi a’u cywilyddio am y tro cyntaf ers i’r Llywodraeth gyflwyno’r gyfradd uwch o £7.20 i weithwyr 25 oed a throsodd y llynedd.
Dywedodd y Gweinidog Busnes, Margot James:
Mae gan bob gweithiwr yn y Deyrnas Unedig hawl i gael yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw o leiaf, a bydd y Llywodraeth hon yn sicrhau eu bod yn ei gael.
Dyna pam rydym wedi enwi a chywilyddio dros 350 o gyflogwyr a fethodd â thalu’r isafswm cyfreithiol, gan anfon neges glir at gyflogwyr na fydd unrhyw un yn cael diystyru’r isafswm cyflog.
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r ymarfer enwi a chywilyddio mwyaf erioed hwn yn cyfleu neges glir i gyflogwyr ledled Cymru y bydd peidio â thalu’r isafswm cyfreithiol i weithwyr yn arwain at gerydd.
Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu economi sy’n gweithio i bawb, a bydd y cynnydd yn y cyfraddau isafswm cyflog cenedlaethol a’r cyflog byw ym mis Ebrill yn rhoi rhagor o arian ym mhocedi’r gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf yng Nghymru.
Mae codi’r gyfradd ar 1 Ebrill yn dangos ei bod hi’n talu i chi fod mewn gwaith, ac rwy’n hyderus y bydd yn helpu i gefnogi lefelau uchel o gyflogaeth ledled Cymru.
Roedd esgusodion dros beidio â thalu digon i weithwyr yn cynnwys defnyddio cildyrnau i ychwanegu at gyflog, tynnu arian o gyflogau gweithwyr i dalu am eu parti Nadolig a gwneud i staff dalu am eu gwisgoedd eu hunain allan o’u cyflog.
Mae’r 361 o gyflogwyr wedi cael eu henwi.
Daw’r cyhoeddiad wythnosau ar ôl i’r Llywodraeth lansio ymgyrch gwerth £1.7 miliwn i godi ymwybyddiaeth o’r isafswm cyflog cenedlaethol a’r cyflog byw, gan annog gweithwyr cyflogau isaf y Deyrnas Unedig i wirio eu bod yn cael eu talu ar y cyfraddau cywir ac i roi gwybod am eu cyflogwr os nad oeddent yn cael yr hyn y dylent ei gael.
Ers i’r cynllun enwi a chywilyddio gael ei gyflwyno gan BEIS ym mis Hydref 2013, mae dros 1,000 o gyflogwyr wedi cael eu henwi, gyda’r ôl-ddyledion yn cyrraedd cyfanswm o fwy na £4.5 miliwn. Mae mwy na £2 filiwn mewn dirwyon wedi cael eu rhoi i rai a dorrodd y rheolau isafswm cyflog cenedlaethol a’r cyflog byw.
Mae mwy na 1,500 o achosion yn agored ar hyn o bryd sy’n cael eu harchwilio gan Gyllid a Thollau EM.