Datganiad i'r wasg

Prawf Rhybudd Argyfwng yn dilyn ei ddefnyddio ar gyfer Storm Darragh

Gyda dim ond wythnosau i fynd, mae pobl ledled Cymru yn cael eu hatgoffa i ddisgwyl prawf Rhybudd Argyfwng cenedlaethol am yr ail dro erioed.

Gyda dim ond wythnosau i fynd, mae pobl ledled Cymru yn cael eu hatgoffa i ddisgwyl prawf Rhybudd Argyfwng cenedlaethol am yr ail dro erioed.

Bwriad y system yw helpu i amddiffyn bywydau drwy anfon cyngor diogelwch brys yn uniongyrchol i ffonau symudol yn ystod argyfyngau mawr. 

Bydd ffonau symudol sydd wedi’u cysylltu â rhwydweithiau 4G a 5G yn cael y rhybudd am tua 3pm ar ddydd Sul, 7 Medi.

Cynhelir yr ymarfer ar ôl defnyddio’r system yng Nghymru yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr 2024, pan gyhoeddwyd rhybudd tywydd coch, prin. Pat McFadden, Gweinidog Llywodraeth y DU, wnaeth awdurdodi’r rhybudd. 

Cafodd tua thair miliwn o bobl ledled Cymru a de‑orllewin Lloegr y neges, a oedd yn rhybuddio am amodau peryglus a allai beryglu bywyd.

 Yn ystod y prawf cenedlaethol ar 7 Medi, bydd ffonau symudol yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn tebyg i seiren uchel am hyd at ddeg eiliad. Bydd neges brawf yn ymddangos ar sgriniau, gan nodi’n glir mai ymarfer yw’r rhybudd.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ar ddydd Sul, 7 Medi am tua 3pm, bydd ffonau symudol ar rwydweithiau 4G a 5G ledled Cymru a’r DU gyfan yn dirgrynu ac yn gwneud sŵn uchel tebyg i seiren am hyd at ddeg eiliad, yn un o’r ymarferion diogelwch cyhoeddus mwyaf yn hanes ein cenedl.

Does dim ap na chyfle i gofrestru, dim ond rhybudd achub bywyd pan fydd hynny’n bwysig. Bydd y prawf hwn ledled y DU yn helpu i sicrhau ei fod yn gweithio fel y dylai pan fydd ei angen arnom.

Fe wnaethon ni ddefnyddio’r system yn ystod Storm Darragh i anfon neges i tua thair miliwn o ffonau pan oedd rhybudd tywydd coch yn golygu bod bywydau mewn perygl.

Cyn y prawf, mae’r llywodraeth yn cynnal ymgyrch gwybodaeth i’r cyhoedd i roi gwybod i bobl y bydd hyn yn digwydd, gan gynnwys ymgyrchoedd cyfathrebu wedi’u targedu at grwpiau agored i niwed, fel dioddefwyr cam-drin domestig. Mae’r ymgyrch wedi cynnwys y fideo gwybodaeth genedlaethol cyntaf yn Iaith Arwyddion Prydain.

Yr wythnos diwethaf, datgelwyd testun llawn y neges brawf am y tro cyntaf, a oedd yn dweud:

Mae hwn yn brawf Rhybudd Argyfwng, gwasanaeth gan Lywodraeth y DU a fydd yn eich rhybuddio os bydd argyfwng sy’n peryglu bywyd gerllaw.

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Mewn argyfwng go iawn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y rhybudd i gadw eich hun ac eraill yn ddiogel.

Mae cyngor syml ac effeithiol ar sut i baratoi ar gyfer argyfyngau ar gael yn gov.uk/prepare.

Ewch i gov.uk/alerts i gael rhagor o wybodaeth neu i weld y neges hon yn Saesneg. Visit gov.uk/alerts for more information or to view this message in English.

Dim ond yr ail brawf o’i fath fydd hwn ac mae’n dilyn ymrwymiad gan y llywodraeth i brofi’r system yn rheolaidd i sicrhau ei bod yn gweithio yn y ffordd orau bosibl ac er mwyn i’r cyhoedd ymgyfarwyddo â’r rhybuddion. Mae hyn yn unol â’r arfer safonol mewn gwledydd eraill, fel Japan ac UDA.

Yn ogystal â nodi’n glir mai dim ond prawf yw hwn, bydd y neges yn cyfeirio’r cyhoedd at GOV.UK/PREPARE, gwefan bwrpasol sy’n cynnig cyngor ymarferol ar beth gall aelwydydd ei wneud i baratoi ar gyfer argyfyngau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Awst 2025