Datganiad i'r wasg

Trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe’n parhau dan ystyrieth meddai Ysgrifennydd Cymru

Bydd y Llywodraeth Glymblaid yn cydweithio a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar achos busnes ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, yn …

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Bydd y Llywodraeth Glymblaid yn cydweithio a Llywodraeth Cynulliad Cymru ar achos busnes ar gyfer trydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, yn ol Ysgrifennydd Cymru Cheryl Gillan.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth Phillip Hammond heddiw y byddai penderfyniad terfynol ar drydaneiddio’r rheilffordd First Great Western yn cael ei wneud yn y Flwyddyn Newydd.

Wrth wneud sylwadau ar y cyhoeddiad heddiw o fuddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffyrdd, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Cheryl Gillan:  “Rwy’n croesawu’r ffaith bod trydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i Abertawe yn parhau dan ystyriaeth ddifrifol a byddaf yn cydweithio a Llywodraeth Cynulliad Cymru i wneud yr achos busnes i sicrhau hynny.

“Rwy’n parhau i gefnogi’r prosiect hwn yn llwyr. Ni wnaed penderfyniad terfynol eto a byddaf yn parhau i ddadlau’r achos yn gryf gyda’r Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth a chydweithwyr yn y Cabinet. Nid yw hon yn broses syml a rhaid ystyried ystod o ffactorau cyn y gwneir unrhyw benderfyniad.”

Cyhoeddwyd ar 25 November 2010