Datganiad i'r wasg

Yr economi ar frig yr agenda yng nghyfarfod y Grŵp Cynghori ar Fusnes

Perfformiad economi Cymru oedd prif bwnc trafod grŵp o gynrychiolwyr busnes Cymreig heddiw (4 Rhagfyr 2012), wrth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Perfformiad economi Cymru oedd prif bwnc trafod grŵp o gynrychiolwyr busnes Cymreig heddiw (4 Rhagfyr 2012), wrth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones arwain cyfarfod yr wythfed Grŵp Cynghori ar Fusnes yn Llundain.  

Wrth gadeirio ei gyfarfod cyntaf ers iddo gymryd ei sedd yn y Cabinet, estynnodd Mr Jones groeso i’r aelodau i Dŷ Gwydyr lle y cafwyd trafodaeth o gwmpas y bwrdd ar yr amgylchedd busnes presennol, a’u hymateb i’r sialensiau economaidd cyfredol. Hefyd rhoddwyd cyflwyniad i’r grŵp ar ganfyddiadau adroddiad Rhan I y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru (Comisiwn Silk) ar ddatganoli cyllidol i Gymru gan yr Athro Nick Bourne.  

Dywedodd Mr Jones:

“Rhoi trefn ar yr economi yw prif flaenoriaeth y Llywodraeth hon, ac roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i gwrdd a chynrychiolwyr busnes Cymreig i glywed yn uniongyrchol am amodau masnachu yng Nghymru. 

“Nid yw’r sefyllfa economaidd heriol yr ydym yn ei hwynebu wedi gwneud pethau’n hawdd. Yn wir, mae’r amgylchedd busnes yng Nghymru wedi dioddef dwy golled fawr yn ystod y mis diwethaf gyda’r newyddion am golli swyddi yn Tata Steel a Paramount Foods yng Ngogledd Cymru. 

“Ond hyd yn oed yn yr amseroedd dreng hyn, ceir arwyddion calonogol. Mae’r ffigurau Cynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) cadarnhaol diweddar, ynghyd a chyflogaeth gynyddol, yn arwyddion bod economi Prydain ar y llwybr cywir. Mae seiliau cadarn dros gredu y bydd rhagolygon Cymru’n gwella’n sylweddol dros y 12 mis nesaf.

“Mae’r penderfyniadau a wnaed gennym yn ddiweddar ar fuddsoddi mewn seilwaith - fel y rhaglen bellach o drydaneiddio a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf - yn cynorthwyo i ddangos bod Cymru’n agored i fusnes ac yn lle gwych i fuddsoddi. Mae buddsoddiad £10 biliwn Hitachi yng ngorsaf niwclear newydd Wylfa B ar Ynys Mon yn un o’r buddsoddiadau mwyaf sylweddol yng Ngogledd Cymru ers cenedlaethau, ac rydym wedi ymroi i adeiladu achos busnes cryf dros drydaneiddio pellach ar y llinell reilffordd o Gaergybi i Crewe. 

“Mae’r cynllun ‘UK Guarantees’ yn brawf pellach o bwysigrwydd datblygu seilwaith i agenda twf y Llywodraeth hon. Dan y Cynllun a lansiwyd gan y Canghellor George Osborne ym mis Gorffennaf eleni, clustnodir hyd at £40 biliwn o gyllid ar gyfer prosiectau seilwaith a roddwyd i un ochr yn dilyn trafferthion o ran codi arian gan fuddsoddwyr preifat.

“Heddiw, rhoddais ddiweddariad i’r aelodau gan nodi pa mor bwysig yw hi i gwmniau Cymreig fachu ar y cyfle i gryfhau ein hasedau economaidd yng Nghymru gan gyflymu buddsoddi sylweddol mewn seilwaith.” 

Yn dilyn y drafodaeth o gwmpas y bwrdd, rhoddodd yr Athro Nick Bourne ddiweddariad i’r grŵp ar adroddiad y Comisiwn Silk ‘Grymuso a Chyfrifoldeb:__ __Pwerau Ariannol i Gryfhau Cymru’, a gyhoeddwyd fis diwethaf. Mae’r adroddiad yn argymell y dylid datganoli rhai pwerau treth a benthyca penodol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru.  

Yn ystod 2013, bydd y Comisiwn ar Ddatganoli yn rhoi sylw i ail Ran ei gylch gorchwyl, gan edrych ar bwerau’r Cynulliad ac argymell diwygiadau i’r trefniadau cyfansoddiadol presennol a fyddai’n galluogi i setliad datganoli Cymru weithio’n fwy effeithiol. Bydd yn llunio adroddiad ar Ran II erbyn Gwanwyn 2014. 

Ychwanegodd Mr Jones: 

“Rwy’n ddiolchgar i’r Athro Bourne am roi o’i amser i ddiweddaru’r grŵp ar ganfyddiadau Comisiwn Silk yn Rhan I ei waith. Bydd Llywodraeth y DU yn awr yn ystyried yr argymhellion a wnaed ac yn ymateb yn ffurfiol maes o law.

“Wrth iddynt edrych ymlaen at Ran II rwy’n annog busnesau yng Nghymru i gymryd y cyfle i ymgysylltu a’r Comisiwn a rhoi eu barn eu hunain ar yr achos dros ddiwygiadau i setliad datganoli Cymru.”

Cyhoeddwyd ar 4 December 2012