Datganiad i'r wasg

Economi a Thwf fydd ffocws ymweliadau Gweinidogion Swyddfa Cymru â Sir Benfro

O borthladd ac aber prysur Aberdaugleddau i fusnesau bychan a chanolig sy'n tyfu yn Sir Benfro, bydd gweinidogion yn Swyddfa Cymru yr wythnos hon yn gweld y rôl bwysig y mae busnesau Sir Benfro – yn fach ac yn fawr – yn ei chyflawni yn ailgydbwyso economi Cymru.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Yn ystod taith dau ddiwrnod yn Sir Benfro (18-19 Ebrill), bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones AS, a Stephen Crabb AS, un o Weinidogion Swyddfa Cymru, yn ymweld â chwmnïau yn Aberdaugleddau a Phenfro sy’n parhau i gefnogi swyddi a chynnal twf yn yr ardal.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:

Dyma fy ymweliad cyntaf â gorllewin Cymru ers i’r Canghellor gyhoeddi ei ddatganiad cyllideb fis diwethaf. Roedd honno’n Gyllideb ar gyfer busnes a swyddi ac rwy’n edrych ymlaen at glywed sut mae’r mesurau a gyhoeddwyd wedi cael eu derbyn gan y busnesau y byddwn yn ymweld â nhw yn ystod yr wythnos.

Bydd y gostyngiad yng nghyfradd y dreth gorfforaeth a lwfans cyflogaeth newydd yn hwb sylweddol – yn enwedig i’n busnesau llai a chanolig eu maint, sef y busnesau y mae gennym lawer ohonynt yma yng Nghymru. Bydd y gostyngiad cynyddol yn y dreth gorfforaeth yn rhoi’r gyfradd fwyaf cystadleuol yn y byd gorllewinol i’r DU, ac yn gymhelliant i’r rheini sy’n gobeithio buddsoddi yng Nghymru.

Ar ddiwrnod cyntaf yr ymweliad, aber Aberdaugleddau fydd yn cael y sylw. Bydd y gweinidogion yn gweld sut mae’r cyfleoedd sydd wedi’u darparu drwy ardal fenter Llywodraeth Cymru – ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, yn galluogi’r ardal i wneud y mwyaf o’i photensial fel canolfan ynni o’r radd flaenaf.

Dywedodd un o Weinidogion Swyddfa Cymru, Stephen Crabb:

Mae Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn gyfle eithriadol o bwysig i’r ardal ac economi ehangach gorllewin Cymru. Mae’r ardal hon yn bwysig iawn yn strategol i ddiwydiant ynni’r DU, ac rydym yn edrych ymlaen at gael clywed o lygad y ffynnon sut gallai’r ardal helpu i gynnal swyddi a denu rhagor o fuddsoddiad busnes.

Bydd Mr Jones a Mr Crabb yn ymweld i ddechrau â phurfa Valero yn Noc Penfro. Yno bydd yr Is-lywydd a’r rheolwr cyffredinol, Ed Tomp, yn arwain cyflwyniad ar weithgarwch y burfa, ar y cyd â’r pwyllgor Gweithrediadau. Byddant wedyn yn cael taith o gwmpas y safle.

Dywedodd Mr Tomp:

Mae Valero wrth eu bodd yn cael croesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Mr Crabb i Burfa Valero ym Mhenfro. Mae gan y safle rôl bwysig yn economi Cymru, yn darparu buddsoddiad a channoedd o swyddi medrus iawn. Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r stori lwyddiant hon o Gymru gyda’r Gweinidogion.

Bydd y parti wedyn yn teithio ar draws yr aber i burfa Murco yn Aberdaugleddau lle byddant yn cael eu croesawu gan y rheolwr cyffredinol, Ken Jinkerson ac aelodau o’r tîm Rheoli Strategol, lle byddant yn trafod y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant olew.

Dywedodd Mr Jinkerson:

Mae Purfa Aberdaugleddau’n falch iawn o gael ymweliad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’n Haelod Seneddol lleol, Stephen Crabb. Mae’n rhoi cyfle inni drafod y cyflawniadau sylweddol sydd wedi’u cyflawni yn y burfa yn ystod y tair blynedd diwethaf yn erbyn cefndir deddfwriaethol eithriadol o heriol.

Er mwyn dysgu rhagor am y buddion economaidd a strategol y gall porthladdoedd eu cynnig i Gymru, bydd Mr Jones a Mr Crabb yn dod â’r diwrnod cyntaf i ben drwy ymweld ag Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau.

Porthladd Aberdaugleddau yw’r trydydd porthladd mwyaf yn y DU a’r mwyaf yng Nghymru. Mae’n delio â dros 29% o fasnach forol Prydain mewn olew a nwy.

Bydd y parti yn cwrdd ag uwch weithredwyr i drafod sut mae gwaith y porthladd yn cefnogi swyddi a refeniw yn yr ardal, cyn mynd ar daith o gwmpas aber y ddau gleddau mewn cwch.

Dywedodd Alec Don, Prif Weithredwr Porthladd Aberdaugleddau:

Mae’n eithriadol o galonogol cwrdd â gweinidogion ac esbonio rôl hanfodol Porthladd Aberdaugleddau yn economi Cymru. Mae amser cyffrous ar ddod hefyd, gyda’r cyfleoedd buddsoddi y mae Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn eu darparu. Rydym yn edrych ymlaen at sefydlu perthynas weithio agos gyda Swyddfa Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid arweiniol eraill i gyflawni ein cynlluniau ni ein hunain ar gyfer buddsoddi yn yr Ardal Fenter, cynlluniau sydd, yn ein barn ni, â photensial i greu £1 biliwn o fuddsoddiad a 1,000 o swyddi.

Ddydd Gwener (19 Ebrill), bydd ffocws yr ymweliad dau ddiwrnod yn troi at gefnogi twf y sector twristiaeth a busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn cwrdd â chynrychiolwyr Ysgol Westy Dinbych-y-pysgod – partneriaeth rhwng Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a’r fenter gymdeithasol Ymddiriedolaeth Datblygu Dinbych-y-pysgod a fydd yn cynnig graddau prifysgol i fyfyrwyr yn y diwydiant lletygarwch. Bydd hefyd yn cwrdd â Chyfarwyddwr Parc newydd Parc Thema Oakwood, Dominic Jones a fydd yn briffio’r Ysgrifennydd Gwladol ar ymgyrch recriwtio ddiweddaraf y parc yn dilyn buddsoddiad £4 miliwn mewn atyniadau a reidiau newydd.

Yn ddiweddarach, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â’r cwmni meddalwedd Torquing Group, sydd wedi’i leoli ym Mharc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro Mae tair rhan i’r cwmni - Torquing Technology, sy’n darparu atebion technoleg; Torquing Robotics, sy’n arbenigo mewn robotiaid awtonomaidd; a Torquing Environmental, sy’n canolbwyntio ar fonitro amgylcheddol ar gyfer busnesau. Bydd y rheolwr gyfarwyddwr, Ivan Reedman, yn briffio Mr Jones ar gynlluniau’r cwmni ar gyfer twf a’u gwaith ym maes roboteg arbenigol.

Dywedodd Mr Reedman:

Pleser o’r mwyaf yw cael croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol yma am daith o gwmpas ein busnes peirianneg roboteg arbenigol a rhoi gwybod iddo am y prosiectau cyffrous sydd gennym ar y gweill. Ein nod yw dod â buddion – nid yn unig i Sir Benfro – ond i economïau Cymru a’r DU i gyd, drwy greu technoleg sydd ar flaen y gad er mwyn gallu cynhyrchu’r cynnyrch rydym wedi’i ddatblygu.

Ychwanegodd David Jones, Ysgrifennydd Cymru:

Mae gwaith Torquing Group yn enghraifft wych o fusnes bach llwyddiannus sydd â’i olygon yn gadarn ar dwf ac ehangu. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd helpu busnesau bach a chanolig eu maint sydd â photensial i dyfu i ddatblygu mewn ardal lle maent yn gwneud cyfraniad sylweddol at gynaliadwyedd yr economi leol i’r dyfodol.

Bydd Mr Jones wedyn yn ymweld â Ledwood Mechanical Engineering Ltd (LMEL) yn Noc Penfro. Fe’i ffurfiwyd yn 1983, a dyma un o brif gwmnïau adeiladu, ffabrigo a pheirianyddol annibynnol y DU. Mae busnes craidd Ledwood yn canolbwyntio ar ddarparu gwasanaeth dylunio a pheirianneg aml-ddisgyblaeth i sylfaen ddiwydiant amrywiol gan gynnwys prosesyddion a chynhyrchwyr petrocemegol a’r diwydiannau amddiffyn, y diwydiannau morol a generaduron pŵer. Mae’r ymweliad yn digwydd wrth i’r cwmni ddathlu 30 mlynedd o weithio yng Nghymru.

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Ledwood Engineering, Nick Revell:

Bydd yr ymweliad yn rhoi cyfle i’r ddau barti ddeall yn well yr heriau economaidd sy’n wynebu rhai sectorau o ddiwydiant, a sut y mae rhanddeiliaid allweddol yn llwyddo i ddatblygu strategaethau mewn partneriaeth i ddarparu cynaliadwyedd a thwf ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Edrychwn ymlaen at roi gwybodaeth am y portffolio o wasanaethau rydym yn eu darparu iddynt ac enghreifftiau o’r hyn rydym wedi’i gyflawni, mewn marchnadoedd domestig a rhyngwladol.

Bydd Mr Jones hefyd yn cwrdd â Phrif Weithredwr Cyngor Sir Penfro, Bryn Parry-Jones ac Arweinydd y Cyngor, Jamie Adams, yn ystod ei ymweliad.

Cyhoeddwyd ar 18 April 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 April 2013 + show all updates
  1. Added translation

  2. First published.