DVLA yn rhybuddio ‘does neb yn ennill’ wrth i ymgyrch newydd dargedu cerbydau heb eu trethu
Mae DVLA wedi lansio ymgyrch newydd gyda chlamp sy’n siarad i atgoffa gyrwyr i drethu eu cerbydau ac yn tanlinellu canlyniadau peidio â gwneud hynny.
- Mae DVLA wedi lansio ymgyrch treth cerbyd newydd gyda chlamp sy’n siarad.
- Mae’r ymgyrch yn tynnu sylw at y ffyrdd hawdd o drethu cerbyd ar-lein ac yn atgoffa modurwyr o ganlyniadau gwirioneddol peidio â gwneud hyn.
- Er bod 98.7% o fodurwyr yn talu eu treth cerbyd ar amser, cafodd dros 150,000 o gerbydau heb eu trethu eu clampio yn y DU yn 2025.
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi lansio ymgyrch Treth Cerbyd (VED) genedlaethol newydd, ‘Does Neb yn Ennill’, gyda’r bwriad o atgoffa modurwyr o bwysigrwydd trethu eu cerbydau ar amser.
Mae’r ymgyrch yn cyflwyno cysyniad creadigol ffres dan arweiniad ‘Clampy’, clamp olwyn siaradus sydd mewn twll braidd. Mae’r hysbysebion yn canolbwyntio ar yr aflonyddwch a’r canlyniadau a deimlir gan yrwyr sy’n cael eu cerbyd wedi’i glampio am fethu â’i drethu.
Drwy roi personoliaeth i ‘Clampy’, dangosir – yn ogystal â’r hiwmor – y rhwystredigaeth wirioneddol o fod yn styc, yn llythrennol, oherwydd nad oedd gyrrwr wedi cymryd ychydig funudau i drethu ei gar. Mae’r neges yn syml: mae’n gyflym ac yn hawdd trethu’ch cerbyd ar-lein, felly peidiwch â chymryd y risg. Bydd yr ymgyrch yn rhedeg ar draws sianeli awyr agored, sain ac ar-lein tan 31 Mawrth 2026.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn amcangyfrif bod 98.7% o’r cerbydau sy’n cael eu gyrru ar y ffordd wedi’u trethu. Gall DVLA gymryd camau gorfodi yn uniongyrchol o’u cofnodion os ydych yn geidwad cerbyd heb ei drethu.
Mae timau gorfodi a phartneriaid clampio olwynion DVLA yn teithio ledled y DU fel rhan o’u gweithgaredd dyddiol, yn cymryd camau yn erbyn cerbydau heb eu trethu. Gall rhai awdurdodau lleol a heddluoedd hefyd glampio cerbydau o dan gynllun Partner Pŵer Datganoledig y DVLA.
Mae’r tabl isod yn dangos yr ardaloedd cod post ledled y DU lle bu’r mwyafrif o gamau clampio yn 2025:
| Ardal cod post | Cyfanswm y cerbydau a gafodd eu clampio yn 2025 (gan gynnwys gan Bartneriaid Pŵer Datganoledig y DVLA) |
|---|---|
| Llundain (pob cod post) | 16,557 |
| Manceinion (M) | 9,174 |
| Birmingham (B) | 7,369 |
| Caerdydd (CF) | 4,213 |
| Glasgow (G) | 4,207 |
| Bryste (BS) | 3,736 |
| Belfast (BT) | 3,017 |
| Caeredin (EH) | 2,997 |
| Rochester (ME) | 2,882 |
| Sheffield (S) | 2,663 |
Dywedodd Tim Moss CBE, Prif Weithredwr DVLA:
Mae’r rhan fwyaf o yrwyr yn cadw eu treth cerbyd yn gyfredol, ond os nad ydych yn trethu eich cerbyd ar amser gall y canlyniadau fod yn sylweddol. Rydym yn atgoffa modurwyr pryd mae eu treth cerbyd yn ddyledus, a’r dewis olaf yn unig yw clampio cerbydau heb eu trethu.
Gallwch osgoi cael eich cerbyd wedi’i glampio, gan fod trethu’ch cerbyd yn gyflym ac yn hawdd i’w wneud. Gallwch hefyd dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol, sy’n helpu i sicrhau eich bod yn cadw golwg ar adnewyddiadau ac yn caniatáu ichi ledaenu’r gost os ydych chi eisiau.
Gall modurwyr drethu eu cerbyd unrhyw bryd gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein DVLA neu drwy ffonio 0300 123 4321 - 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallant hefyd ddewis derbyn nodyn atgoffa treth cerbyd drwy neges destun neu e-bost drwy Gyfrif gyrwyr a cherbydau DVLA.
Swyddfa'r wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
E-bost press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407