Datganiad i'r wasg

Mae DVLA yn gosod her newydd

Yn dilyn llwyddiant cystadleuaeth llynedd, mae Her Godio DVLA nôl am 2018.

Mae DVLA unwaith eto wedi gosod yr her i ddisgyblion ar draws Cymru i weithio mewn timoedd i gynllunio gêm gyfrifiadurol, gyda’r enillwyr yn derbyn cyfarpar TG gwerth miloedd ar gyfer eu hysgolion neu ganolfannau cymunedol.

Lansiwyd Her Godio DVLA yn gyntaf y llynedd er mwyn hybu pynciau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ac i hyrwyddo dysgu TG yn ysgolion cynradd a chanolfannau cymunedol yng Nghymru.

Y llynedd, mynychodd tua 200 o blant a 150 o oedolion y digwyddiad gwobrwyo agoriadol yn theatr ddigidol DVLA yn Abertawe ym mis Rhagfyr, ble rhoddwyd allan cyfarpar TG o’r radd flaenaf i dros 50 o dimoedd o ysgolion cynradd a grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Roedd dal modd i ddisgyblion nad oedd yn gallu mynychu’r diwrnod cymryd rhan yn y sbri trwy ymweld â dolen fyw dros y we, ac i gymryd rhan yn union fel roeddent yn bresennol.

Ar ôl llawer o ddiddordeb y llynedd, mae cystadleuaeth eleni bellach ar agor i bobl ifanc 11 – 14 blwydd oed, sy’n golygu bod disgyblion o ysgolion uwchradd nawr yn gallu arddangos eu sgiliau gyda’r cyfle i ennill gwobrau TG gwych i’w hysgolion neu ganolfannau cymunedol.

Dywedodd Mark Jones. Rheolwr TG a Llysgennad STEM:

Roedd Her Godio DVLA mor llwyddiannus, roedd ysgolion a noddwyr wedi cysylltu â ni yn syth er mwyn cofrestru i fod yn rhan o’r gystadleuaeth nesaf, felly penderfynwn redeg y gystadleuaeth eto.

Eleni, rydym yn ychwanegu grŵp oedran newydd ac yn agor y gystadleuaeth i blant rhwng 7 ac 11, ac 11 i 14. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gallu cynnwys disgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd.

Trwy gymryd rhan yn yr her, mae rhaglennwyr y dyfodol yn gallu datblygu eu gallu codio mewn ffordd hwylus a deniadol. Mae’r gystadleuaeth hefyd yn anelu at hyrwyddo gweithio fel tîm a chyfathrebu – mae’r rhain yn sgiliau hanfodol sy’n dod yn fwyfwy bwysig yng ngweithleoedd heddiw a’r dyfodol.

Bydd diwrnod gwobrwyo eleni ar ddydd Mawrth 4 Rhagfyr gyda gwobrau addysgol arbennig, raffl fawr i bob ymgeisydd, adborth ar geisiadau gan feirniaid arbenigol a bydd rhywun enwog yn cynnal y digwyddiad.

Mae gwybodaeth gyflawn, yn cynnwys manylion ar sut i gofrestru ar gyfer y gystadleuaeth ar gael ar wefan Her Godio DVLA.

Swyddfa'r Wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 1 May 2018