Datganiad i'r wasg

Y DVLA yn rhyddhau’r delweddau sgam mwyaf diweddaraf i helpu i gadw modurwyr yn ddiogel ar-lein

Datgelwyd delweddau gan DVLA o’r sgamiau ar-lein diweddaraf sy’n targedu modurwyr i helpu gyrwyr i’w hadnabod a’u riportio nhw yn gyflym.

Mae’r sgamiau’n gofyn i yrwyr wirio’u manylion trwydded yrru, cynnig ad-daliadau treth cerbyd, ac amlygu taliad treth cerbyd oedd wedi methu a gofyn am fanylion banc.

Daw hyn wrth i ffigurau newydd a rhyddhawyd gan yr asiantaeth am y 3 mis i fis Medi eleni, ddangos cynnydd o 603% mewn adroddiadau i’w chanolfan gyswllt ynghylch e-byst, negeseuon testun a galwadau ffôn twyllodrus, o’u cymharu â’r un cyfnod yn 2019.

Gwelwyd y codiad uchaf mewn adroddiadau gan y cyhoedd am sgamiau e-byst o fis Gorffennaf i fis Medi 2020 o gymharu â’r un tri mis y llynedd, gan neidio o 603 i 3,807 - cynnydd o 531%.

Mae DVLA yn atgoffa cwsmeriaid y dylent anfon unrhyw e-byst amheus y byddant yn eu derbyn ymlaen i’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) trwy eu gwasanaeth e-byst amheus.

I’r gwrthwyneb, gostyngodd adroddiadau am negeseuon twyllodrus o gyfanswm o 653 rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2019, i 510 yn yr un cyfnod eleni. Mae’r NCSC yn annog cwsmeriaid i anfon negeseuon testun amheus ymlaen at eu darparwr rhwydwaith i’w harchwilio wrth decstio 7726 yn rhad ac am ddim.

Cynghorir cwsmeriaid mai’r unig fan i gael mynediad i wybodaeth swyddogol ynghylch DVLA a’i gwasanaethau yw GOV.UK. Nid yw’r asiantaeth fyth yn gofyn am fanylion banc mewn e-bost ac nid yw fyth yn anfon negeseuon testun ynghylch ad-daliadau treth cerbydau.

Yn ogystal ag anfon unrhyw e-byst a negeseuon testun amheus ymlaen, mae gan DVLA bum awgrymiad gwych i fodurwyr aros yn ddiogel ar-lein:

  • peidio fyth â rhannu delweddau trwydded yrru a dogfennau cerbyd ar-lein
  • peidio fyth â rhannu manylion banc neu ddata personol ar-lein
  • osgoi gwefannau sy’n cynnig cysylltu â chanolfan gyswllt DVLA.
  • defnyddio GOV.UK yn unig wrth edrych am fanylion cyswllt DVLA.
  • adrodd yn syth wrth yr heddlu trwy Action Fraud os byddwch yn meddwl eich bod wedi bod yn agored i sgam

Dywedodd Phil Morgan, Pennaeth Ymchwilio Polisi Twyll yn DVLA:

Mae’r ffigurau newydd hyn yn dangos bod sgamwyr yn dod yn fwy dyfalbarhaus yn eu hymdrechion i dargedu modurwyr.

Gall y sgamiau mwy diweddar hyn i gychwyn ymddangos yn gyfreithlon, fodd bynnag maent wedi’u llunio i dwyllo modurwyr i roi eu manylion personol. Nid ydym fyth yn gofyn am fanylion banc neu gerdyn credyd drwy neges testun neu e-bost, felly os byddwch yn derbyn rhywbeth fel hyn, mae’n sgam. Dylai cwsmeriaid riportio e-byst neu negeseuon testun amheus yn syth i’r NCSC. Dylai unrhyw un sy’n poeni eu bod wedi bod yn agored i dwyll gysylltu â’r heddlu trwy Action Fraud yn syth.

Dywedodd Sarah Lyons, Dirprwy Gyfarwyddwr Economi a Chymdeithas NCSC:

Mae’n bwysig cadw’n wyliadwrus ynghylch negeseuon amheus gan ein bod yn ymwybodol bod troseddwyr yn aml yn dynwared sefydliadau cyfreithlon fel DVLA i wneud eu sgam yn fwy argyhoeddiadol.

Weithiau gall fod yn anodd dweud a ydych wedi derbyn e-bost neu neges destun annibynadwy, ond mae ein canllaw diweddaraf yn rhoi cyngor ynghylch sut i nodi arwyddion o sgâm.

Byddwn hefyd yn annog pobl i barhau i anfon unrhyw beth nad yw’n edrych yn iawn ymlaen i’n Gwasanaeth Riportio Am E-bost Amheus, report@phising.gov.uk fel y gallwn weithredu i ddiddymu sgamiau ar-lein.

Nodiadau i olygyddion:

I riportio twyll e-bost amheus cysylltwch â gwasanaeth riportio am e-byst amheus NCSC neu e-bostiwch report@phishing.gov.uk. Dylid anfon negeseuon testun amheus ymlaen i 7726. Mae’r cod byr rhad ac am ddim hwn yn galluogi’ch darparwr i archwilio tarddiad y neges testun a gweithredu, os canfuwyd ei fod yn faleisus.

Mae’r DVLA yn cyhoeddi cyngor yn rheolaidd ar GOV.UK ac ar draws ein holl sianelau, gan gynnwys awgrymiadau gwych pellach i helpu modurwyr i aros yn ddiogel ar-lein.

Gellir riportio troseddau twyll neu seiber i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm), neu wrth ddefnyddio’u hadnodd adrodd ar-lein, sydd ar gael 24/7.

Swyddfa'r wasg

Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe

SA6 7JL

E-bost press.office@dvla.gov.uk

Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig: 0300 123 2407

Cyhoeddwyd ar 14 December 2020