7 awgrym ar gyfer modurwyr i aros yn ddiogel ar-lein
Gyda sgamiau ar-lein newydd yn dod i’r amlwg drwy'r amser, mae modurwyr wedi dod yn darged cynyddol i dwyllwyr. Mae DVLA wedi datgelu bod eu canolfan gyswllt wedi derbyn 1,275 o adroddiadau ynglŷn â sgamiau treth cerbydau amheus yn ystod y 3 mis olaf o 2018.

Ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, mae DVLA wedi darparu’r awgrymiadau canlynol i helpu modurwyr i aros yn ddiogel ar-lein.
1) Defnyddiwch GOV.UK yn unig
Wrth edrych am wybodaeth neu ddefnyddio ein gwasanaethau ar-lein, sicrhewch eich bod yn defnyddio gwefan GOV.UK fel y gallwch chi fod yn siŵr eich bod yn delio’n uniongyrchol â DVLA.
2) Negeseuon e-bost sgam
Nid ydym byth yn anfon negeseuon e-bost sy’n gofyn ichi gadarnhau eich manylion personol na gwybodaeth am daliadau. Os cewch unrhyw beth fel hyn, peidiwch ag agor unrhyw ddolenni a dylech ddileu’r e-bost ar unwaith.
3) Byddwch yn wyliadwrus o wefannau camarweiniol
Cadwch lygaid ar agor am wefannau trydydd parti allai fod yn gamarweiniol. Bydd y gwefannau hyn yn aml yn cynnig i’ch helpu i wneud cais am drwydded yrru neu drethu’ch car ond yn debygol o godi ffioedd ychwanegol am wasanaethau y gallech eu cael am ddim neu am gost is ar GOV.UK.
4) Byddwch yn wyliadwrus o rifau ffôn cyfradd premiwm
Byddwch yn wyliadwrus o wefannau sy’n cynnig eich cysylltu â’n canolfan gyswllt, gan eu bod fel arfer yn rhifau ffôn cyfradd premiwm. Bydd rhifau ffôn ein canolfan gyswllt ond yn dechrau gyda 0300 – sy’n costio’r un fath â galwad lleol.
5) Byddwch yn ymwybodol o beth rydych chi’n ei rannu ar-lein
Peidiwch byth â rhannu delweddau o’ch trwydded yrru na dogfennau cerbyd ar-lein. Gallai’r wybodaeth bersonol hon fod yn amhrisiadwy i’r rhai sy’n bwriadu dwyn hunaniaeth cerbyd neu ei berchennog.
6) Negeseuon testun
Nid ydym byth yn anfon negeseuon testun ynghylch ad-daliadau treth cerbyd. Mae sgamiau negeseuon testun yn aml yn gofyn ichi ddilyn dolen i ddarparu manylion cerdyn credyd. Peidiwch byth â chlicio ar y ddolen a dylech ddileu’r neges destun ar unwaith.
7) Adroddwch am unrhyw sgamiau amheus
Os ydych chi’n pryderu am unrhyw alwadau ffôn, negeseuon testun, negeseuon e-bost neu weithgaredd ar-lein amheus, dylech roi gwybod i’r Heddlu trwy Action Fraud ar unwaith.
Dywedodd Dave Pope, Prif Swyddog Diogelwch Gwybodaeth yn DVLA:
Wrth chwilio am fanylion cyswllt neu unrhyw un o wasanaethau digidol DVLA, dylech ddefnyddio GOV.UK yn unig fel y gallwch chi fod yn siŵr eich bod yn delio’n uniongyrchol â DVLA.
Mae postio ar gyfryngau cymdeithasol yn ffordd o fyw ar gyfer y rhan fwyaf o yrwyr, ond efallai na fyddant yn sylweddoli eu bod yn peryglu eu hunain fel prif darged ar gyfer gweithgarwch twyllodrus.
Gall pobl aros un cam ymlaen y troseddwyr trwy fod yn wyliadwrus gyda’u gwybodaeth bersonol a phwy y maent yn ei rhannu â hwy, ac yn adrodd am unrhyw beth amheus i’r heddlu trwy Action Fraud.
Dywedodd llefarydd ar ran Action Fraud:
Rydyn ni’n gwybod bod twyllwyr yn defnyddio ffyrdd mwy soffistigedig o dwyllo eu dioddefwyr o hyd, ac felly mae’n bwysig bod aelodau’r cyhoedd yn meddwl am eu hymddygiad ar-lein ac yn sicrhau eu bod yn gwneud popeth y gallent i ddiogelu eu hunain.
Gall cymryd camau fel cyfyngu ar faint o wybodaeth bersonol a rennir ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol a bod yn wyliadwrus o unrhyw negeseuon a dderbynnir na ofynnwyd amdanynt yn gallu helpu i atal troseddau ar-lein.
Dylech bob amser fod yn ofalus wrth rannu gwybodaeth bersonol ar-lein. Gwiriwch bob amser mai pwy rydych chi’n delio â nhw mewn gwirionedd yw pwy maen nhw’n honni eu bod – er enghraifft, trwy ddefnyddio GOV.UK yn unig wrth ddefnyddio gwasanaethau’r llywodraeth ar-lein, fel DVLA.
Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll, rhowch wybod i ni trwy ein hofferyn adrodd ar-lein neu dros y ffôn 0300 123 2040.
Nodiadau i olygyddion
-
Ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr y llynedd, cofnododd canolfan gyswllt DVLA 1,275 o gwynion unigol ynglŷn â sgamiau amheus ar y we, e-bost, negeseuon testun neu gyfryngau cymdeithasol. Gallai’r ffigwr hon gynnwys adroddiadau lluosog am yr un digwyddiad.
-
Yn ôl Action Fraud, costiodd pob math o dwyll seiber tua £34.6 miliwn i ddioddefwyr rhwng Ebrill a Medi y llynedd.
-
Action Fraud yw canolfan adrodd cenedlaethol y DU ar gyfer twyll a seiberdroseddu lle dylech chi roi gwybod am dwyll os ydych wedi cael eich sgamio, troseddu neu wedi profi seiberdrosedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
-
Gellir adrodd am drosedd twyll neu seiberdrosedd i Action Fraud trwy ffonio 0300 123 2040 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm), neu drwy ddefnyddio eu hofferyn adrodd ar-lein, sydd ar gael 24/7.
-
Bydd Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2019 yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ddydd Mawrth 5 Chwefror. Nod Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yw ysbrydoli sgwrs genedlaethol am ddefnyddio technoleg yn gyfrifol, yn barchus, yn feirniadol ac yn greadigol. Thema eleni yw ‘Rhyngrwyd gwell gyda’n gilydd’.
-
Mae’r ffigurau a ddarparwyd gan Action Fraud (Heddlu Dinas Llundain) yn dangos bod £34.6 miliwn wedi cael ei golli gan ddioddefwyr twyll seiber rhwng Ebrill a Medi yn unig y llynedd. Roedd 33% o’r holl dwyll a adroddwyd trwy negeseuon ffôn, 13% trwy werthiannau ar-lein a 12% trwy e-bost.
Swyddfa'r Wasg
Swyddfa'r Wasg y DVLA
Longview Road
Treforys
Abertawe
SA6 7JL
Email press.office@dvla.gov.uk
Dim ond ar gyfer newyddiadurwyr a'r wasg yn unig 0300 123 2407